| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cynllun allwedd RADAR

Beth yw cynllun allwedd RADAR?

Bwriad y cynllun allwedd RADAR yw caniatáu mynediad i Doiledau Cyhoeddus ar draws Prydain i bobl anabl. Mae'r cynllun yn hollol wirfoddol ac ni fydd pob toiled i'r anabl yn cael ei ddefnyddio fel hyn.

Bydd prynu allwedd RADAR yn caniatáu i berson fynd i unrhyw Doiledau Cyhoeddus sydd ag allwedd RADAR.

Pwy sy'n gallu cael allwedd RADAR?

Unrhyw un sydd ag anabledd hir dymor.

Pa brawf sydd ei angen?

I brynu allwedd mae angen prawf o'ch anabledd trwy weld tystiolaeth o fudd-daliadau neu gynhyrchu tocyn parcio bathodyn glas.

Os byddwch yn methu dangos y dystiolaeth angenrheidiol anfonir eich cais at Reolwr Glanhau Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cysylltu â chi am eich cais.

Ble fedra i brynu allwedd RADAR?

Swyddfeydd arian: Y Rhyl, Rhuthun

Siop Un Alwad: Prestatyn – Ty Nant, Llangollen – Y Capel, Corwen – Llyfrgell, Rhuddlan - Llyfrgell, Llanelwy - Llyfrgell, Dinbych - Llyfrgell

Faint mae allwedd RADAR yn ei gostio?

Y gost gyfredol yw £3.50.

Noder os gwelwch yn dda:

  • Dim ond y person sydd wedi cael un sydd i ddefnyddio'r allwedd.
  • Ni chaniateir gwneud copi o allwedd. 

Os byddwch yn torri'r rheolau hyn gellir atal rhoi allwedd i chi neu wrthod rhoi allwedd newydd i chi.

Toiledau Cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych hefo cyfleusterau i'r anabl

  • Corwen, maes parcio Green Lane
  • Dinbych, maes parcio Rosemary Lane
  • Llangollen, Market Street
  • Prestatyn, Barkby Beech (tymhorol yn unig)
  • Gorsaf bysiau Prestatyn
  • Prestatyn, Nova Complex
  • Prestatyn, Ffordd Llys Nant
  • Llanelwy, maes parcio ger y bont
  • Rhuddlan
  • Rhyl, Coronation Gardens
  • Rhyl Promenade, Children’s Village
  • Rhyl Promenade, parc Drifft
  • Rhyl Promenade, maes parcio East Parade
  • Rhyl Promenade, Events Arena
  • Rhyl Promenade, Old Golf Road
  • Rhyl, Neuadd y Dref
  • Rhyl, gorsaf drên
  • Rhuthun, Cae Ddol Park
  • Rhuthun, Stryd y Farchnad

Nodyn:

Ni fydd pob toiled ar gael i'w ddefnyddio hefo allwedd RADAR. Hefyd, fe all na fydd rhai toiledau ar gael 24 awr y dydd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0