Gwastraff Masnach
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu system Casglu Gwastraff Masnach yn eich ardal, sy’n helpu i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol. Rydym wedi ymrwymo i gyflenwi busnesau â gwasanaeth casglu gwastraff masnach o safon uchel ac mae gennym amrywiaeth o gynwysyddion a gwasanaethau ar gael sy’n ateb y rhan fwyaf o anghenion. Mae gennych y dewis o ddefnyddio’r gwasanaeth hwn neu wneud eich trefniadau eich hun gyda chontractwr rheoli gwastraff preifat sydd wedi’i drwyddedu’n briodol. Bydd gwastraff masnach ond yn cael ei gasglu gan Gyngor Sir Ddinbych os ydych wedi arwyddo contract, bod y gwastraff yn cael ei roi yn y sach frown ragdaledig briodol (yng Ngogledd a De’r Sir) neu mewn bin olwynog (yng Ngogledd y Sir yn unig). Casglir unrhyw wastraff cardbord os yw wedi'i glymu ym mhob cyfeiriad gyda Thâp Masnachol.
Gellir prynu sachau a thâp gwastraff masnach o’r Siopau Un Alwad, pob un o swyddfeydd arian Cyngor Sir Ddinbych am bris o £1.54 yr un a TAW ar ei ben am sachau a £15.23 a TAW am labeli. Gellwch brynu cymaint ag sydd ei angen arnoch ar gyfer y gwastraff a gynhyrchwch bob wythnos neu swmp-brynu. Gellir prynu sachau fesul 100 am bris o £1.45 yr un a TAW ar ei ben. Ar y dechrau bydd eich derbynneb brynu yn gweithio fel Nodyn Trosglwyddo Gwastraff dros dro.
Rheolir gwastraff masnach gan amrywiol ddeddfwriaeth, a’r pwysicaf yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 a’r Rheoliadau Pacediadau a Gwastraff 1997. Fe all masnachwyr nad ydynt yn gwneud y darpariaethau angenrheidiol ac sy’n torri eu dyletswydd gofal mewn perthynas â thrin gwastraff fod yn cyflawni trosedd o dan Adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, ac mae uchafswm y gosb o’ch cael yn euog o hynny mewn llys ynadon yn £5,000 neu’n ddirwy anghyfyngedig o’ch cael yn euog yn llys y goron.
Mae’n rhaid ichi, drwy gyfraith, gyflwyno copïau o’ch nodion Trosglwyddo Gwastraff Dyletswydd Gofal presennol, pan ofynnir ichi gan swyddog awdurdodedig o Gyngor Sir Ddinbych, i brofi eich bod yn cael gwared â’ch gwastraff mewn modd cyfrifol.
Nid yw gwasanaethau casglu gwastraff masnachol yn dod o fewn trethi busnes ac mae rheidrwydd arnom drwy gyfraith i godi tâl ar wahân am ei gasglu. I gael mwy o wybodaeth am sut i waredu eich gwastraff masnach a wnewch chi gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy canolfangwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk neu 01824 706100 (8.00am - 6.00pm, Dydd Llun - Dydd Gwener) os gwelwch yn dda.
Lleihewch yr Hyn a Gynhyrchwch!
Nid yw cynhyrchu gwastraff yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. Mae lleihau gwastraff yn golygu lleihau gwastraff yn y man cychwyn ac nid ei greu yn y lle cyntaf. Fel rhan o ymrwymiad ymwybyddiaeth amgylcheddol y cyngor byddem yn falch o’ch cynghori ar sut i ailgylchu eich gwastraff masnach. Mae’r manylion cysylltu ar waelod y dudalen.
I gael mwy o wybodaeth gweler www.envirowise.gov.uk a/neu www.reducetheuse.co.uk os gwelwch yn dda.
Ailgylchwch!
Gall gwasanaeth gwastraff masnach Cyngor Sir Ddinbych gynnwys elfen ailgylchu. Yn wahanol i lawer o ddarparwyr gwasanaeth gwastraff masnach eraill efallai y gallwn gynnig cynwysyddion i gwsmeriaid i ailgylchu papur a gwydr heb unrhyw dâl ychwanegol. Cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy canolfangwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk neu 01824 706100 (8.00am - 6.00pm, Dydd Llun - Dydd Gwener) os gwelwch yn dda.

Rhoi adborth ar y tudalen hon