| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Ansawdd Dwr/Llygredd

Ansawdd Dwr/Llygredd

Mae'r Gwasanaethau Gwyddonol, sydd wedi’u lleoli yn Rhuthun, yn gwneud y gwaith monitro statudol ar gyflenwadau dwr cyhoeddus a phreifat i weld a ydynt yn iachus ac yn ddigonol. Yn ogystal, fel rhan o’n hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd, byddwn yn monitro dwr pyllau nofio a dwr ymdrochi’r môr yn rheolaidd.

Mae Labordy’r Gwasanaethau Gwyddonol yn gwneud y rhan fwyaf o’r dadansoddiadau gofynnol o ran y paramedrau microbiolegol a’r paramedrau cemegol.

Fe wnawn ni ymateb hefyd i ymholiadau ac ymgynghoriadau gan aelodau’r cyhoedd a diwydiant, Adrannau eraill o fewn yr Awdurdod, a hefyd i Gyrff Statudol allanol megis Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gyda’r meysydd canlynol, dylech gysylltu ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn uniongyrchol ar Rhif Ffôn 087085 506506.

  • Digwyddiadau llygru dwr (e.e. afon, nant) ac atal llygredd
  • Amddiffyn rhag llifogydd
  • Pysgodfeydd a chadwraeth
  • Diogelu adnoddau dwr naturiol
  • Tyniad dwr

Gydag ymholiadau ynghylch ansawdd dwr neu gwynion gellwch gysylltu â ni.


 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0