Sesiynnau “Addysg Gynnar” Am Ddim i Blant 3 Oed yn Sir Ddinbych.
A oes gennych chi blentyn a fydd yn 3 oed rhwng Medi ac Ebrill? Os oes, darllenwch ragor…
Mae cyllid ar gael yn Sir Ddinbych sy’n galluogi i blant 3 oed fynychu sesiynnau addysg am ddim yn ystod y tymor yn dilyn eu trydydd pen blwydd mewn lleoliad cymeradwy am 10 awr yr wythnos o ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Mae lleoliad cymeradwy yn: gylch chwarae / meithrin, neu feithrinfa gofal dydd.
Rhaid i leoliadau sy’n derbyn cyllid-
fod a staff cymwysiedig
gytuno i gael eu harolygu gan AGGCC a Estyn.
ddarparu sesiynnau o,o leiaf ddwy awr o hyd
dderbyn cefnogaeth athrawes gymwysiedig yn rheolaidd.
Gallwch wneud cais trwy lenwi ffurflen gais/gofrestru yn y lleoliad.Gallwch wneud cais am le am ddim mewn un lleoliad yn unig.
Rhoi’r cyllid am ddau dymor (y Gwanwyn a’r Haf) ar gyfer plant sy’n cael eu penblwydd yn ystod tymor yr Hydref.
Rhoi’r cyllid am un tymor (tymor yr Haf) ar gyfer plant sy’n cael eu penblwydd yn ystod tymor y Gwanwyn.
Ni fydd y plant sy’n cael eu penblwydd yn ystod tymor yr Haf yn derbyn sesiynnau am ddim oherwydd y byddant yn mynychu dosbarth meithrin eu hysgol leol yn ystod y tymor yn dilyn eu penblwydd yn dair oed.
Pa bynnag leoliad y mae eich plentyn yn ei fynychu ar gyfer y cyfnod “Addysg Gynnar,”mae Polisi Addysg Feithrin Sir Ddinbych yn berthnasol o’r mis Medi yn dilyn penblwydd eich plentyn yn dair oed,h.y.mae’n orfodol i’r plentyn fynychu dosbarth meithrin yr ysgol agosaf at eich cartref.
Nod Sir Ddinbych yw darparu cyfleoedd a phrofiadau chwarae or ansawdd uchaf, i bob plentyn.
“Chwarae I Ddysgu Dysgu Chwarae”
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â
Gwenn Brockley,
Uwch Swyddog Addysg -01824 712058 neu
Gwasanaeth Gwybodaeth Plant 01824 70822

Rhoi adborth ar y tudalen hon