Ffurfleni Archebu Cyhoeddiadau
Mae Gwasanaeth Twristiaeth, Diwylliant a Chefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynhyrchu ystod eang o ddeunyddiau wedi eu hargraffu, i'w gwerthu ac i'w rhoi am ddim, yn cynnwys llyfrynnau marchnata ardal, taflenni crwydro tref, mapiau strydoedd a gwybodaeth i ymwelwyr.
Darperir y gwasanaeth yn chwarterol, ac yn arferol dosberthir y deunyddiau ym mis Ionawr, Ebrill, Gorfennaf a Hydref.
Ar hyn o bryd mae pawb sydd ar y rhestr ddosbarthu yn cael cyfle i archbu taflenni a llyfrynnau drwy gyfrwng system archbeu ar bapur, ond rydym yn gobeithio cael eich cyfeiriad e-bost chi er mwyn gwella'r gwasanaeth a gynigir i chi. Anfonir y ffurflenni ar ddiwrnod cyntaf y misoedd a nodwyd, i'w dychwelyd erbyn y 18fed o'r mis a'n nod yw dosbarthu'r nwyddau erbyn diwedd y mis.
Mae tua 260 o fusnesau ar ein rhestr ddosbarthu ar hyn o bryd, yn cynnwys llety a gwasanaethau, llety hunan ddarpar a pharciau carafanau (wedi'u graddio) ynghyd a llyfgelloedd, swyddfeydd y Cyngor, Siopau Un Alwad, Canolfannau Croeso a sefyddliadau adwerthu ac arlwyo. Os ydych chi'n gwybod am unrhyw fusnes a fyddai'n awyddus i gael ei ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu yna gofynnwch iddyn nhw gysylltu gyda ni os gwelwch yn dda.
Os hoffech gael copi cyfeiriol neu stoc o unrhyw un o'r taflenni a restrwyd cyslltwch gyda:
Adran Twristiaeth a Marchanata
Yr Hen Garchar
46 Stryd Clwyd
RHUTHUN
LL15 1HP
Rhif ffon: 01824 708242
E-bost: dcc_tourism@sirddinbych.gov.uk
Tafleni gwerthadwy a rhad ac am ddim. Os rhydech eisiau copiau o cyhoeddiadau gwerthadwy ac rhaid ag am ddim defnyddiwch y ffurleni isod.
Gyrrwch rhain mewn e bost neu unrhyw cwestiynnau i Adran Twrisitiaeth.


Rhoi adborth ar y tudalen hon