Iaith Cymraeg yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gyflawni ei fusnes, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal.
O ran y Gymraeg, yn 2001 dywedodd 26.4% o’r boblogaeth neu 23,760 o bobl eu bod yn medru siarad Cymraeg – cynnydd o 467 ers 1991, ond lleihad o 0.3% o ran canran. O ran canran y boblogaeth mae canran uwch o bobl yn datgan eu bod yn siarad Cymraeg yn ne’r sir nag yng ngogledd y sir, gyda’r canrannau uchaf yn adrannau etholiadol Llandrillo (64%); Llanrhaeadr yng Nghinmeirch (59%) Gwyddelwern (53%); Efenechtyd (52 %) a Chorwen (51%), tra bo’r canrannau isaf yn wardiau Dwyrain Prestatyn (12%); Gorllewin y Rhyl (12%); Gogledd Orllewin y Rhyl (13%); Dwyrain y Rhyl (13%); a De Orllewin y Rhyl (15%). Yn sgîl y ffordd y dosberthir y boblogaeth yn y sir, mae hyn yn gwrthgyferbynnu gyda’r darlun wrth edrych ar niferoedd yr unigolion sy’n medru’r iaith, gyda’r tueddiad yn cael ei wrthdroi, gyda niferoedd uwch o siaradwyr Cymraeg yn y gogledd nag yn y de.
Cynllun Iaith Gymraeg y Cyngor
Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru baratoi cynllun yn nodi sut y bydd yn darparu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg. Hwn yw ein cynllun ni. Mae’n disgrifio sut fyddwn yn gweithredu’r egwyddor a sefydlwyd gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg, wrth ymgymryd â’i fusnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal, cyn belled ag y bo’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.
Nod Cyngor Sir Ddinbych yw diogelu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg drwy Sir Ddinbych gyfan, drwy’r gwasanaethau a ddarperir ganddo, drwy’r partneriaid mae’n gweithio gyda nhw a thrwy ei rôl fel prif gyflogwr a chontractwr yn y sir.
Nod y Cyngor yw cael sefyllfa lle bo staff sy’n dod i gysylltiad â’r cyhoedd yn ddwyieithog a bod y gwasanaethau a ddarperir i’r cyhoedd ar gael yn ddwyieithog.
Gellir darllen Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir Ddinbych ar y linc ganlynol.
Adroddiad Monitro Blynyddol 2008
Mae gan y Cyngor ddyletswydd i gynhyrchu adroddiad monitro blynyddol ar ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r adroddiad yn amlinellu pa gynlluniau Iaith Gymraeg a wnaed dros y 12 mis diwethaf ac mae'n amlinellu hefyd sut ydym yn cyfarfod targedau penodol.
Cyflwynir yr Adroddiad Monitro i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Gorffennaf bob blwyddyn ac mae'r bwrdd yn rhoi sylwadau inni ar ein cynnydd.
Gellir darllen Adroddiad Monitro Blynyddol Cyngor Sir Ddinbych ar y linc ganlynol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon