Mae Tim Rheoli Gwasanaethau Arlwyo Sir Ddinbych yn cydnabod mai'r gweithwyr yw ein hadnodd pwysicaf.
Yn 2001, ac yn dilyn asesiad allanol llym, cawsom ein hachredu drwy dderbyn gwobr fawr ei bri sef Gwobr Buddsoddwyr Mewn Pobl.
Cafodd gweithwyr a rheolwyr Arlwyo eu holi sut oeddent yn teimlo eu bod yn ffitio i Fudiadau Gwasanaethau Amgylcheddol. Hefyd, cawsant eu holi ynghylch y gwasanaeth roeddynt yn ei ddarparu, cyfle i hyfforddi, perthynas rhwng gweithwyr/rheolwyr, anghenion y gwasanaeth yn y dyfodol,ac yn y blaen.
Er mwyn dangos ein bod yn ymrwymedig i ddarparu hyfforddiant o ansawdd ar gyfer ein gweithwyr, rydym wedi creu partneriaeth gyda'r Adran Gwasanaethau Marchnata yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy. Bydd cyfle gan bob un o'r gweithwyr Arlwyo i dderbyn hyfforddiant strwythedig drwy gyfrwng cyrsiau NVQ.
Cafodd pob un o aelodau'r staff gyfweliad â staff y coleg, a pharatowyd yr amserlenni hyfforddi. Bydd pob un o'r gweithwyr newydd yn cael y cyfle i hyfforddi.


