Ysgol Uwchradd
Rydym yn falch o fod y gwasanaeth arlwyo cyntaf yng Nghymru i osod system gyfrifiadur yn ei Ysgolion Uwchradd.
Ysgol Brynhyfryd oedd y cyntaf i fynd ar lein ym mis Mai 2001 a’i dilynwyd yn agos gan Ysgol Uwchradd Prestatyn, Ysgol Uwchradd y Rhyl, Ysgol Uwchradd Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Dinas Bran.
C. Beth yw Arlwyo heb Arian?
A. Mae’r system yn caniatáu rhieni / gwarchodwyr i roi siec i’r disgybl i dalu am eu pryd ysgol. Mae’r siec yn cael ei gyflwyno i’r cyfrifiadur gan Gogydd yr Ysgol ac mae cyfrif y disgybl yn cael ei gredido gyda’r swm.
Dydyn ni ddim yn defnyddio cofrestrau arian yn yr Ystafell Bwyta – yn lle mae’r disgybl yn dewis ei fwyd o’r gweinydd ac yn mynd ag e at un o’n ‘Gorsafoedd Swadio’ lle mae aelod o staff yn bwydo mewn dewis y disgybl. Mae’r disgybl yn rhoi ei gerdyn swadio ac mae’r swm yn cael ei dynnu’n awtomatig o’i gyfrif. Mae’r disgybl hefyd yn gallu gweld balans ei gyfrif yn y ‘Gorsaf Swadio’.
Hefyd, mae disgyblion yn gallu rhoi arian i mewn yn eu cyfrif gan ddefnyddio un o Unedau Ail Brisiad electroneg, sydd wedi’u lleoli drwy’r ysgol. Mae’r disgybl yn swadio ei gerdyn drwy’r peiriant, yn bwydo’r arian i’r peiriant ac mae’r cyfrif yn cael ei gredydo’n awtomatig.
Ysgolion Cynradd
Rydym ar hyn o bryd yn dymuno cyflwyno system electronig i weinyddu taliadau yn ein hysgolion Cynradd.
Prydau Ysgol yn Rhad ac am Ddim
Mae’r system heb arian yn darparu cyfrinachedd llwyr i’r disgyblion – fydd yr un disgybl yn gwybod fod disgybl arall yn hawlio prydau bwyd yn rhad ac am ddim ac felly mae unrhyw stigma cysylltiedig wedi’i ddiddymu.
Mae’r llwfans prydau ysgol yn rhad ac am ddim yn cael ei lwytho i’r system yn awtomatig yn ddyddiol.
Mae’r system hefyd yn galluogi rieni i fonitro arferion bwyta eu plant gan fod adroddiadau wedi’u hargraffu ar gael ar gais.

Rhoi adborth ar y tudalen hon