Mae saith o Ysgolion Uwchradd ac un Ysgol Uwchradd Arbennig yn Sir Ddinbych. Eu henwau yw:
- Ysgol Uwchradd Prestatyn, Prestatyn
- Ysgol Uwchradd Dinbych , Dinbych
- Ysgol Uwchradd y Rhyl, y Rhyl
- Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun
- Y Bendigaid Edward Jones, y Rhyl
- Ysgol Dinas Bran, Llangollen
- Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy (Cymraeg)
- Ysgol Tir Morfa, y Rhyl (Arbennig)
Mae pob un o'n Hysgolion Uwchradd yn gweithredu yn y dull 'caffeteria', mae hyn yn golygu y bydd gan ddisgyblion Ysgolion Uwchradd fwy o ddewis i'w cinio. Rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo bwyta'n iach gerbron yr holl ddisgyblion; rydym wedi cyflwyno bar salad ym mhob ysgol uwchradd ac rydym yn cynnig dewis eang o frechdanau sydd newydd eu paratoi, bara pita, pizza, tatws drwy'u crwyn, a phrydau eraill gyda phasta.
Hefyd, rydym wedi cyflwyno system ‘Arlwyo Di-arian’ mewn chwech o'r Ysgolion Uwchradd. Bydd hyn yn ychwanegu at effeithlonrwydd ein gwasanaethau dan ddileu stigma cysylltiedig a phrydau ysgol am ddim gan fod pob pryniant yn gyfrinachol.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i ddarparu gwasanaeth sydd yn gyfoes ac yn werth yr arian ac sydd yn darparu ar gyfer pob disgybl. Rydym ar agor i frecwast yn y mwyafrif o ysgolion uwchradd, am fod llawer o'r plant yn gadael y tŷ'n gynnar i ddal bysiau, ac efallai heb amser ganddynt i gael eu brecwast gartref.

Rhoi adborth ar y tudalen hon