| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Mabwysiadu
Maethu a Mabwysiadu Gwnewch Wahaniaeth gyda Sir Ddinbych

Beth yw Mabwysiadu?

Mae Mabwysiadu yn golygu rhoi teulu sefydlog i blant. Mae Mabwysiadu yn broses gyfreithlon lle mae cyfrifoldeb rhiant am blentyn yn cael ei roi i'r rhieni sy'n mabwysiadu er mwyn i'r plentyn gael teulu newydd.

Gall plant sy'n debygol o gael eu mabwysiadu fod wedi cael profiadau anodd ar ddechrau eu bywyd, gan gynnwys cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.  Gall effaith y profiadau hyn fod wedi effeithio ar eu hiechyd, eu datblygiad a'u haddysg. Gall plant hŷn a phlant yn yr un teulu sydd angen aros hefo'i gilydd aros hyd at ddwy flynedd cyn y gellir canfod teulu i'w mabwysiadu.

Mae'r rhan fwyaf o blant gafodd eu mabwysiadu yng ngogledd Cymru yn dair oed neu drosodd. Mae angen yng ngogledd Cymru i ganfod teuluoedd mabwysiadu ar gyfer grwpiau teulu a phlant hefo anableddau. Ein nod yw cadw teuluoedd hefo'i gilydd.

Mae tua 120 o blant Gogledd Cymru yn cael eu mabwysiadu bob blwyddyn. Mae llawer o'r plant yn cael eu mabwysiadu gan rieni gwyn. Mae plant eraill yn cael edrych ar eu hol gan yr Awdurdodau Lleol gan fyw mewn gofal maethu nes cael eu mabwysiadu. Mae rhai pobl yn dewis mabwysiadu plant o dramor.

Mae'r broses asesu'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol sy'n canfod ac asesu anghenion y plentyn a chanfod teulu sy'n gallu cyfarfod yr anghenion hynny.

I gael mwy o wybodaeth  fabwysiadu ffoniwch am ddim ar  0800 7313215.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0