| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Maethu
Maethu a mabwysiadau gwnewch wahaniaeth gyda Sir Ddinbych

Beth yw gofal maeth?

Mae rhai plant yn Sir Ddinbych na fedrent fyw gyda'i rhieni ac maent angen rhywun arall i ofalu amdanynt. Gall hyn fod oherwydd bod rhiant yn mynd i'r ysbyty ac nid oes unrhyw aelod arall o'r teulu ar gael i ofalu amdanynt. Gall fod oherwydd bod y teulu'n mynd trwy gyfnod anodd ac mae pawb angen llonydd oddi wrth ei gilydd. Yn drist, mae rhai plant nad ydynt yn ddiogel yn eu cartrefi ac felly rhaid iddynt fyw yn rhywle arall.

Os yw Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych yn gwneud trefniadau i blant fyw i ffwrdd oddi wrth eu rhieni, disgrifir y plant fel rhai 'mewn gofal' neu 'a ofelir amdanynt'. Yn Sir Ddinbych, mae 'a ofelir amdanynt' fel rheol yn golygu byw gyda theulu arall mewn cartref teuluol arferol - gelwir hyn yn 'ofal maeth'. Mae plant o bobman yn Sir Ddinbych angen maeth weithiau. Mae'n bwysig eu cadw yn agos at eu teulu eu hunain, eu cymuned a'u hysgol ac felly rydym angen gofalwyr maeth mewn trefi a phentrefi ledled y sir. Gall y cyfnod o ofal maeth amrywio yn dibynnu ar ystod lawn o amgylchiadau; mae rhai plant angen noson yn unig, tra bydd eraill angen llawer mwy.

I ddiwallu'r anghenion amrywiol hyn, rydym yn cynnig gwahanol fathau o ofal maeth. Mae gan rai pobl le i ofalu am grŵp o frodyr a chwiorydd, rhai sy'n medru gofalu am fabanod newydd eu geni nes ceir teulu mabwysiadol ac mae eraill yn medru delio gyda rhai yn eu harddegau neu blant anabl. Gall rhai pobl ymrwymo i ofal maeth hirdymor, tra i eraill mae sialens maethu mewn argyfwng a lleoliadau byrdymor yn apelio mwy. Mae rhai na fedrent ofalu am blant llawn-amser, ond medrent roddi egwyl fer i blant oddi wrth eu teuluoedd neu eu gofalydd maeth ('gofal seibiant'). Ni ddisgwylir i unrhyw ofalydd maeth wneud popeth!

Mae ymgeiswyr yn cael cyfle i ddysgu mwy am y gwahanol fathau o ofal maeth trwy siarad â gofalwyr maeth presennol a gweithwyr cymdeithasol. Mae hefyd yn gyffredin i ofalwyr maeth newid y math o faethu maent yn ei gynnig wrth i'w hamgylchiadau personol newid neu wrth i'w sgiliau a'u hyder gynyddu.

Mae gofalwyr maeth yn rhan o dîm, oll yn gweithio gyda'i gilydd i roddi'r cyfle gorau posibl mewn bywyd i blant a theuluoedd. Y chwaraewyr allweddol yn y tîm yw:

  • Gweithiwr cymdeithasol y plentyn– gweithio'n uniongyrchol â'r plentyn a'r teulu ac yn y rôl hon hwy yw cydlynydd y tîm;
  • Teulu'r plentyn – chwarae rôl ganolog yn hunaniaeth y plentyn, ac weithiau'n allweddol o ran a all y plentyn ddychwelyd gartref ai peidio;
  • Gofalydd maeth y plentyn – darparu gofal beunyddiol i'r plentyn, hybu diogelwch y plentyn, ei les, addysg, iechyd, datblygiad a synnwyr hunaniaeth;
  • Y Tîm Lleoliadau Teulu – rhoi cefnogaeth, goruchwyliaeth a hyfforddiant i'w gofalydd maeth.

Efallai y bydd llawer o bobl eraill neu asiantaethau'n gweithio yn y tîm, yn dibynnu ar anghenion unigol ac amgylchiadau'r plentyn. Byddwch yn dysgu amdanynt yn ystod y broses o wneud cais a'r broses asesu.

Mewn gofal maeth, mae'r plentyn yn dal yn rhan o'i d/theulu ef/hi. Mae'r rhan fwyaf o blant a gaiff eu maethu eisiau parhau i weld eu teuluoedd, ac mae angen i ofalwyr maeth ddeall hyn. Er y gall y gofalydd maeth gymryd penderfyniadau o ddydd i ddydd, dim ond rhiant/rhieni'r plentyn a/neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol a gaiff gymryd y penderfyniadau mwy (megis i ba ysgol y mae'r plentyn yn mynd, neu roddi caniatâd i lawdriniaeth).

I gael mwy o wybodaeth feithrin ffoniwch am ddim ar 0800 7313215.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0