Mae maethu'n dasg ymestynnol. Rydym yn sicrhau eich bod yn cael eich hyfforddi i ddelio gyda holl ofynion cyfreithiol a beunyddiol gofal maeth. Byddwn hefyd yn rhoi hyfforddiant i chi ddelio gyda'r adegau mwy heriol a fydd yn codi.
Cefnogaeth
Mae holl ofalwyr maeth yn derbyn cefnogaeth a goruchwyliaeth, felly nid ydych byth yn cael eich gadael i ymdopi ar eich pen eich hun. Mae gofalwyr maeth newydd yn cael cefnogaeth ychwanegol gan fod dechrau maethu yn brofiad dysgu serth. Am y flwyddyn gyntaf, cewch eich paru gyda gofalydd maeth profiadol, felly bydd wastad rhywun a all gynnig cyngor neu wybodaeth. Rydym yn disgwyl i ofalwyr maeth ddod i gyfarfod fforwm misol lle caiff gwybdoaeth ei dosbarthu a lle gall pawb yn y tîm maethu ddod i adnabod ei gilydd yn well. Byddwch yn cyfarfod eich gweithiwr cymdeithasol unwaith y mis am arolygaeth, a phryd bynnag y byddwch angen cefnogaeth a chyngor. Mae cefnogaeth hefyd ar gael gan ofalwyr maeth eraill, yn ffurfiol ac anffurfiol. Mae gofalwyr maeth Sir Ddinbych wedi sefydlu eu cymdeithas eu hunain, a redir gan ac ar gyfer gofalwyr maeth, ac mae holl ofalwyr maeth yn dod yn aelodau'n awtoimatig.
“Talu am Sgiliau”
Mae holl ofalwyr maeth yn derbyn lwfans maethu wythnosol ar gyfer pob plentyn a leolir gyda hwy. Mae hyn er mwyn talu treuliau sy'n codi. Yn Ebrill 2005, lansiodd Cyngor Sir Ddinbych gynllun gyrfa newydd ar gyfer gofalwyr maeth, o'r enw 'Talu am Sgiliau'. Dan y cynllun hwn, mae rhai gofalwyr maeth yn derbyn ffi am eu gwaith ynghyd â'r lwfans maethu wythnosol.
Cyn cymeradwyo
Mae ymgeiswyr yn derbyn gwybodaeth fanwl am faethu, a hyfforddiant ar sut i weithio gyda thîm yr awdurdod lleol, sut i sicrhau bod pawb yn y teulu maeth yn ddiogel, gwneud synnwyr o ymddygiad plant a pharatoi'r plentyn (a chi eich hunan) ar gyfer yr adeg pan fo plentyn yn eich gadael.
Gofalwyr maeth sylfaenol
Mae'r lefel hon yn golygu bod gofalwyr maeth a gymeradwywyd yn cael cefnogaeth a hyfforddiant dwysach yn ystod cyfnod cyntaf eu gwaith gyda phlant a faethir. Ar ôl chwe mis, mae'r gofalwyr maeth yn cael eu harolwg cyntaf, ac efallai y byddant yn barod ar gyfer Rheng 1. Fel gofalydd maeth sylfaenol, rydych yn derbyn lwfans wythnosol i dalu costau ond ni thelir ffi i chi am eich gwaith.
Rheng 1
Mae holl ofalwyr maeth Rheng 1 yn derbyn hyfforddiantr ar sut i hybu addysg, iechyd, lles a hunaniaeth a beth i'w wneud mewn argyfwng. At hyn, gall gofalwyr maeth ofyn am gael cychwyn NVQ 3, 'Iechyd a gofal cymdeithasol – Llwybr y Plant'. Ar Reng 1, mae gofalwyr maeth yn derbyn lwfans a ffi.
Rheng 2 a Rheng 3
Os ydych yn barod i wneud hynny ac ar gael i faethu plant a phobl ifanc yn gyffredinol (mae rhai pobl yn dewis maethu plant y maent eisoes yn eu hadnabod yn unig), medrwch symud i Reng 2 a Rheng 3. Mae gan y rhain ofynion hyfforddi uwch, ffïoedd uwch ac (yn enwedig ar Reng 3) disgwyliad y byddwch yn dechrau cefnogi gofalwyr maeth newydd a helpu datblygu polisi maethu gyda'r awdurdod lleol.
Os ydych yn penderfynu gwneud cais i fod yn ofalydd maeth, rhoddwn gopi llawn o'r cynllun hwn i chi, gan gynnwys y lwfansau a'r ffïoedd presennol.
I gael mwy o wybodaeth feithrin ffoniwch am ddim ar 0800 7313215.

Rhoi adborth ar y tudalen hon