Yngynghoriadau Cyhoeddus
Mae'r dudalen hwn yn darparu mynediad at wybodaeth am ymgynghoriadau sydd ymlaen ar hyn o bryd, gellir gweld y manylion ar ein gwefan. Mae adrannau gwahanol o fewn y cyngor yn gyfrifol am wahanol ymgynghoriadau. Os hoffech wneud sylw ar unrhyw un o'r ymgynghoriadau, dilynwch y linc a ddarperir ac mi fydd y manylion cyswllt perthnasol ar gael i chi. Mae pob ymgynghoriad presennol wedi eu rhestr isod gyda crynodeb byr. Ar waelod y dudalen gwelwch linc at yr ymgynghoriadau sydd wedi dod i ben.
Mae angen eich barn ar lasbrint sylwadau a chwynion
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn i breswylwyr y sir roi eu barn ar weithdrefn sylwadau a chwynion newydd sy’n cael ei datblygu fel rhan o ymdrechion parhaus i wella profiad cwsmeriaid. Mae’r polisi newydd drafft yn gobeithio annog pobl i roi gwybod i ni sut yr ydym yn gwneud, ac rhoi arweiniad cam wrth gam.
Mae’n rhestru hefyd y gwahanol ffyrdd y gall pobl gwyno, yn cynnwys ymweld â Siopau Un Stop, drwy ffonio, ysgrifennu, e-bost neu neges testun a thrwy gysylltu â’r cynghorydd lleol.
Gellir gweld y polisi drafft mewn unrhyw un o Siopau Un Alwad neu lyfrgell, canolfan hamdden, Swyddfeydd Arian Parod, neu clicwch ar y linc yma. Y terfyn amser ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener, Chwefror 13. For more information please click here.
Cynlluniau addysg - helpwch i wneud gwahaniaeth
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i foderneiddio addysg yn y Sir fel y gall plant a phobl ifanc gael addysg o’r radd flaenaf. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael adeiladau modern sy’n ffit i’r pwrpas ac sy’n cyfarfod ag anghenion addysg y byd modern. Mae angen i ysgolion allu darparu’r profiad dysgu gorau posib, i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.
Mae’r cyngor wedi dyfeisio 10 o bolisïau newydd a fydd yn cael eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y fframwaith Moderneiddio Addysg. Mae’r polisïau hyn yn dal ar ffurf drafft ac rydym yn awyddus i gael eich barn. Y terfyn amser i ymateb yw Ionawr 12sed. Cliciwch yma.
Ymgynghoriadau wedi cau
Gellir gweld unrhyw ymgynghoriadau'r cyhoedd sydd wedi cau yma. Byddwch yn ymwybodol fod y dogfennau yma nawr wedi cau a dydi hi ddim yn bosib rhoi adborth amdanynt.


Rhoi adborth ar y tudalen hon