| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Geoamrywiaeth
Geoamrywiaeth

Creigiau Clwyd


Croeso cynnes i Jacqui Malpas a ymunodd â’r Tîm Gwasanaeth Cefn Gwlad yn Swyddog Geoamrywiaeth Bryniau Clwyd AHNE.

Beth yw Geoamrywiaeth?
Ystyr ‘y ddaeareg’ yw creigiau, ffosiliau, mwynau, tirffurfiau, priddoedd a phrosesau naturiol gwahanol sy’n ffurfio’n planed. Mae geoamrywiaeth yn cysylltu’r ddaeareg gyda’r dirwedd, bioamrywiaeth, diwylliant a phobl.
Dyma rai enghreifftiau.
• Lleoliad cartrefi. Dewisodd pobl ymgartrefu yn y lleoedd ble mae’r dirwedd mae arnynt eu hangen; fel dwr croyw i’w yfed neu i’w gyrchu, tir uchel yn amddiffyniad, tir ffrwythlon ar gyfer amaethyddiaeth, neu yn ymyl rhyw greigiau sydd o dan y ddaear er mwyn cloddio am ddefnyddiau adeiladu.
• I raddau helaeth, y ddaeareg sy’n penderfynu lle mae anifeiliaid a phlanhigion yn byw. Gall rhai rhywogaethau fyw ar briddoedd arbennig yn unig, priddoedd sy wedi’u ffurfio o ganlyniad i brosesau daearegol. Gall bywyd planhigion effeithio ar fywyd anifeiliaid ac mae rhai rhywogaethau’n dibynnu ar rai blanhigion arbennig i fwydo, bridio ac - yn achos rhai gloÿnnod byw - i chwilera. Mae Geoamrywiaeth yn sail i Fioamrywiaeth, felly er mwyn gallu deall, cadw a rheoli’r Geoamrywiaeth cyfoethog ac amrywiol sydd ym Mryniau Clwyd AHNE datblygir Cynllun Geoamrywiaeth Lleol i ddwyn yr holl elfennau hyn at ei gilydd.
• Bu seminar a gynhaliwyd yn Llangollen yn ddiweddar yn fodd i ddwyn ynghyd nifer o bobl o gefndiroedd gwahanol i drafod y materion y dylai’r LGAP fynd i’r afael â hwy.

Beth yw’r LGAP?
Mae’r LGAP yn debyg i’r LBAP - Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth sy’n arf rheoli ar gyfer y broses cadwraeth. Gall LGAP fod yn gymorth i gadw ac i reoli treftadaeth ddaearegol rhyw ardal benodol, gan ganiatáu i bawb elwa.

 ----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Tan ac Iâ
Llunio tirwedd Bryniau Clwyd.
Jacqui Malpas, Swyddog Geoamrywiaeth

Moroedd dyfnion yn cael eu chwalu a’u plygu gan ddaeargrynfeydd, llosgfynyddoedd yn ffrwydro a lludw poeth yn disgyn dros y tir a’r môr; moroedd trofannol yn ferw o fywyd; deltâu a chorsydd aruthrol a mwsoglau enfawr; anialwch eang coch a phoeth gydag ambell lif yn golchi bywyd ymaith, ac yn ddiweddar oll daeth haenau anferth o rew i gerflunio Bryniau Clwyd.

Dyma’r digwyddiadau a’r grymoedd oedd yn gweithredu wrth i Gymru symud ar draws y glôb tua’r Gogledd filiynau lawer o flynyddoedd yn ôl gan ffurfio nifer o fathau o greigiau a greodd dirwedd nodweddiadol Bryniau Clwyd.

Amser maith yn ôl…………….

490 o filiynau o flynyddoedd yn ôl (Ma) - Y Cyfnod Ordoficaidd
Draw ymhell yn hemisffer y de gorweddai Gogledd Cymru o dan fôr dwfn. Symudai anifeiliaid fel pysgod cregyn, creaduriaid fel sgwid a’r anifeiliaid bach - diflanedig erbyn hyn - a elwir yn graptolitau gyda llif y dŵr. Weithiau byddai ffrwydradau folcanig lle mae Eryri heddiw gan dasgu lludw poeth i’r môr a chladdu nifer o’r anifeiliaid.

Deillio o’r cyfnod hwn mae creigiau a ffosiliau hynaf Bryniau Clwyd, a gwelir nifer ohonynt i’r de o bentref Llandegla.

420 o filiynau o flynyddoedd yn ôl - Y Cyfnod Silwraidd
Yn y mwd ar waelod y môr trigai rai anifeiliaid rhyfedd a rhyfeddol; y riffiau cwrel, pysgod cregyn a chrinoidiau (lilis y môr) oedd â nifer o freichiau bwydo pluog yn chwifio er mwyn hidlo bwyd o’r dŵr oedd o’u cwmpas.
O fewn prif gefnen Bryniau Clwyd, sy’n cynnwys Pen y Cloddiau, Moel Arthur, Moel Famau ac allan i Ddinas Brân ceir creigiau a oedd ar un cyfnod yn rhan o’r llaid môr dwfn hwn. Sut y gwyddom hyn i gyd? Un o’r ffyrdd gorau i osod dyddiad ar greigiau yw drwy’r ffosiliau Graptolit. Datblygodd yr anifeiliaid hyn yn gyflym dros ben ac felly defnyddir y newidiadau a ddigwyddodd i’w cyrff i ddarllen oedran y creigiau.
Ar ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif fe dreuliodd daearegwyr arloesol o ferched rai blynyddoedd yn chwilio am drefn gymhleth y creigiau ym Mryniau Clwyd. Ystyriodd eu Hathro fod hyn yn waith oedd yn ‘addas ac yn briodol i ferched’ am ei fod yn gofyn am amynedd a dyfalbarhad’. Tybir i’r planhigion fasgwlar (planhigion y tir sydd â meinwe sy’n cludo bwyd) esblygu yn ystod y cyfnod Silwraidd. Darganfuwyd rhai o ffosiliau cynharaf y planhigion fasgwlar yn yr 20fed ganrif gan yr un ferched o ddaearegwyr.
Cafodd y creigiau Silwraidd ac Ordoficaidd eu cywasgu gan symudiadau’r ddaear gan ffurfio llechi sy’n dal i gael eu cloddio ar Fwlch yr Oernant a rhannau eraill o Ogledd Cymru hyd heddiw.

350-290 o filiynau o flynyddoedd yn ôl - y Cyfnod Carbonifferaidd.
Yn ystod rhan gynnar y cyfnod Carbonifferaidd, roedd Cymru wedi symud tua’r trofannau, i’r de o’r cyhydedd, roedd môr cynnes trofannol yn gorchuddio’r tir. Roedd y môr hwn yn ferw o bysgod cregyn a thrilobitau. Dros gyfnod o amser fe ostyngodd lefel y môr a ffurfiodd afonydd anferth yn ddeltâu ar y glannau gyda thwynau’n tyfu ac yn ffurfio tywodfeini. Yn ddiweddarach, tyfodd corsydd a choedwigoedd enfawr ar y deltâu. Yna bu farw’r fforestydd a chael eu claddu a’u cywasgu gan ffurfio glo. Ffurfiwyd tarennydd trawiadol yr Eglwyseg y tu uchaf i Langollen, ar Fryn Prestatyn Graig Fawr, Gallt Melyd a Moel Hiraddug yn y cyfnod hwn.
Yn wir, enwyd un o’r pysgod cregyn ar ôl tref Llangollen.

200 o filiynau o flynyddoedd yn ôl – Y cyfnodau permaidd thiasig
Erbyn hyn roedd Cymru ar yr un lledred a Gogledd Affrica a dyma pryd y cafodd tywodfeini coch Dyffryn Clwyd eu dyddodi gan greu anialwch anferth. Rhannwyd Hiraethog oddi wrth Fryniau Clwyd gan adael dyffryn hollt bychan rhyngddynt, dyffryn tebyg i Ddyffryn Hollt Mawr Dwyrain Affrica. Mae Ffawt Dyffryn Clwyd sydd â llethrau serth iawn yn ffurfio ochr orllewinol Bryniau Clwyd.

2 o filiynau o flynyddoedd yn ôl - Y Cyfnod Cwaternaidd
Symudodd haenau anferth o ia dros Gymru nifer fawr o weithiau gan gerfio’r dirwedd. Yn y cyfnod rhewlifiant diwethaf roedd haen drwchus hyd at 1 kilometr o drwch yn gorchuddio’r ardal gan lyfnhau’r bryniau a llunio’r dyffrynnoedd a’r cymoedd. Pan doddodd yr ia tua 14,000 o flynyddoedd yn ôl gadawyd clogfeini ( meini dyfod), tywod, gro a lleidiau gan ffurfio tirweddau nodweddiadol fel tirwedd Dyffryn yr Afon Chwiler. Tybir i hwn gael ei ffurfio drwy i’r afon lifo o dan yr iâ. Mae’r prosesau daearegol wrthi’n ffurfio AHNE Bryniau Clwyd, ond yn araf dros ben.  Er bod y rhew, yr eira a’r glaw yn gweithio ar y dirwedd, pobl sy’n cael y dylanwad mwyaf.  Y ddaeareg sydd yn sail nodweddion arbennig bryniau Clwyd, a rhaid ei rheoli er mwyn gwarchod a gwella’r dirwedd.


 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0