| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Adnabod Sir Ddinbych



Mae Cyngor Sir Ddinbych (mapiau) yn ymestyn o drefi glan-y-môr Gogledd Cymru, Y Rhyl a Phrestatyn, i lawr trwy Ddyffryn Clwyd, i’r dde cyn belled â Chorwen a thref dwristaidd boblogaidd Llangollen. Mae hefyd yn cynnwys trefi hanesyddol Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun, pob un â’i chastell ei hun, yn ogystal â thref gadeiriol fechan Llanelwy. 

Ffurfiwyd y Sir ym mis Ebrill 1996 fel un o awdurdodau unedol newydd Cymru. O’r dechrau’n deg, penderfynwyd yn erbyn cael un pencadlys sirol pellennig gan sefydlu swyddfeydd mewn nifer o0 lefydd trwy’r ardal. Ceir swyddfeydd sirol ym Mhrestatyn, Y Rhyl, Dinbych a Rhuthun, gyda siopau un-alwad yng Nghorwen a Llangollen.

Sir amaethyddol yw Sir Ddinbych yn bennaf a thwristiaeth ac amaethyddiaeth yw ei phrif ddiwydiannau. Mae parc busnes Llanelwy, sy’n ffinio â’r A55 ac yn ehangu’n gyflym, yn gartref i sawl cwmni a sefydliad. Yno, mae cartref pencadlys rhanbarthol Asiantaeth Datblygu Cymru.

Mae gwibffordd yr A55 yn llwybr hwylus at gysylltiadau fferis Iwerddon yng Nghaergybi, meysydd awyr Manceinion a Lerpwl a phrif rwydweithiau’r DU. Ceir hefyd gysylltiadau trên uniongyrchol o’r Rhyl i Gaerdydd (tair awr a hanner), Llundain (tair awr a chwartar) a phrif drefi a dinasoedd eraill y DU.

Ystadegau Sir Ddinbych (Cyfrifiad 2001)

Y Boblogaeth
Cyfanswm y boblogaeth: 93,065
Y boblogaeth wrywaidd: 44,544 (48% o'r cyfanswm)
Y boblogaeth Fenywaidd: 48,521 (52% o'r cyfanswm)

Y Gweithgaredd Economaidd
Oedran Gweithio: 65,203 (70.1% o'r boblogaeth)
Economaidd weithredol: 40,678 (62.4% o'r boblogaeth)
Economaidd anweithredol: 24,525 (37.6% o'r boblogaeth)
Di-waith: 2,232 (5.5% o'r boblogaeth)

Proffil Economi Sir Ddinbych 
 
Mae'r safle hwn yn rhoi'r holl wybodaeth y byddwch ei angen ar le i aros yn Sir Ddinbych, rhestr o atyniadau, yn ogystal a manylion
trafnidiaeth gyhoeddus a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd Sir Ddinbych.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych