Yr Adran Priffyrdd ac Isadeiledd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw pontydd dros ffyrdd Sir Ddinbych ac adeiladau erall y briffordd. Mae hyn yn cynnwys 134 pont, 164 wal gynnal, 399 ffôs a 137 pont droed.
Mae’r pontydd dros reilffyrdd gweithredol yn eiddo i, ac yn cael eu cynnal gan Network Rail. Mae pontydd ar a dros yr A55 a’r A494 yn cael eu rheoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cynhelir archwiliadau rheolaidd i nodi unrhyw waith cynnal a chadw neu waith trwsio sy’n ofynnol. Mae ein rhaglen cynnal pontydd cynllunedig yn amrywio o gael gwared o lystyfiant i waith adnewyddu, cryfhau ac ailadeiladu.
Ar hyn o bryd rydym yn y broses o gynnal rhaglen o asesiadau cryfder, a fydd yn asesu a yw ein pontydd yn cydymffurfio â’r safonau presennol a phwysau cerbydau modern. Er budd diogelwch weithiau mae’n angenrheidiol cyflwyno cyfyngiadau pwysau tra ein bod ni’n trefnu gwaith cryfhau pontydd.
Rhoi eich barn ar lasbrint ailddatblygiad Y Rhyl
Mae’r bont arfaethedig sy’n costio miliynau o bunnau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn Harbwr Y Rhyl gam yn nes at ddod yn realaeth wrth i elusen cludiant cynaliadwy Sustrans, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cynulliad Cymru ddadorchuddio’r dyluniad eiconig ar gyfer y bont a phenodi cwmni ar Fehefin 5 2009 i’w hadeiladu.
Fe fydd y bont droed a beiciau yma a fydd yn dirnod, yn creu croesfan newydd dros Harbwr y Foryd ac yn cysylltu â rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio newydd a phresennol yng nghalon ardal adfywio’r Rhyl, gan agor yr ardal ar gyfer teithiau dyddiol gan gerddwyr, beicwyr, pobl sy’n gwthio bygis ac yn defnyddio cadeiriau olwyn. Mae’r bont wedi ei dylunio i ganiatáu mynediad i bawb, felly mae graddiant wrth ddynesu’n finimal.
Fe groesawn eich barn a’ch sylwadau ar yr argymhellion ac fe’ch gwahoddir i lenwi ein holiadur sydd ar waelod y dudalen hon.
Waliau Cynnal
Yn gyffredinol mae waliau cynnal sy’n cynnal y briffordd yn gyfrifoldeb y Cyngor. Yn gyffredinol mae waliau cynnal sy’n cynnal tir uwchben y briffordd a waliau terfyn yn gyfrifoldeb y tirfeddiannwr.
Strwythurau Newydd
Rhaid i unrhyw gynllun arfaethedig i greu strwythur newydd ar neu wrth ymyl y briffordd (yn cynnwys waliau cynnal, cwlfertau a phontydd) gael eu cymeradwyo gennym ni o flaen llaw. Yn ychwanegol mae’n rhaid ein hysbysu am unrhyw waith wedi’i leoli o fewn 3.66 metr i unrhyw briffordd presennol.
Llwythi Anarferol
Mae’r grŵp pontydd yn gyfrifol am reoli llwythi anarferol a rhaid rhoi o leiaf deuddydd o rybudd o flaen llaw ynghylch symud unrhyw lwyth anarferol, drwy gyfrwng ffacs gan amlaf. Ein rhif yw 01824 706865.
Dylid hysbysu Bob Humphreys neu Tom Turner am unrhyw ddifrod i bontydd drwy ffonio 01824 706908.

