Plas Newydd, Llangollen
Ar droad y ddeunawfed ganrif, roedd Llangollen yn adnabyddus fel carfref Ladis Llangollen : y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby. Mae stori ramantus eu ffoad o'u teuluedd yn Iwerddon, eu taith i Gymru, a sefydlu cartref ym Mhlas Newydd yn un a gipiodd ddychymyg cymdeithas Raglywiaethol y dydd. Mae arddangosfa yn adrodd eu hanes ac yn cynnwys rhai o'u meddiannau.
Yn wreiddiol, roedd y ty lle buont yn byw gyda'i gilydd am bron i 50 mlynedd yn fwthyn bychan diymhongar pan symudasant yno ym 1780. Rhwng 1798 a 1814 aethant ati i greu cartfref Gothig iddynt eu hunain. Arweiniodd hyn at ffenestri gwydr lliw a phaneli derw gyda cherfiadau cain, wedi eu hadeiladu i mewn i ffabrig y ty.
Crewyd y gerddi ffurfiol ar ol amser y Ladis, ond maent yn adlewyrchu'r heddwch a'r llonyddwch 'roedd y ddwy yn chwilio amdanynt. Yn y gerddi, mae tystiolaeth o hyd o waith y Ladis, ac mae project adfer mawr, a ariannir yn bennaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, yn datguddio mwy o'r tirlun rhamantus a grewyd ganddynt.
~ taith heddychlon ger yr afon a thrwy'r gerddi
~ ystafell te draddodiadol
~ Ystafell y Gweision nawr ar agor (mynediad cyfyngedig / taith dywys yn unig)
~ Taith Sain (wedi ei gynnwys yn y pris mynediad) gan gynnwys cwis i blant
~ Taith Rithwir yn rhoi mynediad i'r lloriau uwch ar gyfer ymwelwyr gydag anawsterau symudoldeb
~ Pecyn Gwybodaeth i Athrawon
~ seremoniau ymrwymo ar gael
Cliciwch ar y cyswllt 'Beth sydd ymlaen' i weld os oes unrhyw ddigwyddiadau yno
Prisiau mynediad 2007
oedolion £3.50
plant (5-16)/dinasyddion hyn £2.50
teuluoedd (2+2) £10
grwpiau wedi trefnu ymlaen llaw (15+) 10% disgownt
Tocynnau ar gael o'r Stablau
Oriau agor 2007
Ebrill - Hydref bob dydd 10am - 5pm
Mynediad hwyraf a argymhellir : 4pm
Teithiau cyffwrdd a theithiau arwyddion ar gael o drefnu ymlaen llaw. Datganiad mynediad ar gael. Lle parcio i rai gyda bathodyn anabl ar y safle.
Trefniadau ar gyfer grwpiau, gan gynnwys addysg
Rose McMahon. Ffon: 01824 708223
Ffacs: 01824 708258
Ebost: rose.mcmahon@sirddinbych.gov.uk
Ymholiadau cyffredinol
Plas Newydd, Stryd yr Allt, Llangollen, Sir Ddinbych, LL20 8AW.
Ffon: 01978 861314
Canolfan Groeso
Stryd y Castell, Llangollen Ffon: 01978 860828
Ebost : llangollen@nwtic.com


Rhoi adborth ar y tudalen hon