Rheolaeth Stadau- TALIADAU RHENT
Mae Stadau’n cael eu rhannu’n ardaloedd tîm, yng Ngogledd a De’r Sir. Lleolir un tîm yn Ffordd Brighton, Y Rhyl, a’r llall yn Neuadd y Sir, Rhuthun, Mae dau Swyddog Rhenti Tai ym mhob tîm sy’n amcanu i gynnig gwasanaeth effeithlon, cost effeithiol, o ansawdd uchel i’w holl gwsmeriaid. Mae’r ardaloedd y mae’r timau yn gyfrifol amdanynt fel a ganlyn:
Gogledd Sir Ddinbych
Y Rhyl, Prestatyn, Dyserth, Rhuddlan,
De Sir Ddinbych
Bodelwyddan, Cwm, Y Waen, Llanelwy, Cefnmeiriadog, Trefnant, Tremeirchion, Henllan, Bodfari, Dinbych, Aberchwiler, Nantglyn, Llanrhaeadr, Llandyrnog, Cyffylliog, Llanynys, Llanferres, Llangynhafal, Rhuthun, Llanbedr, Clocaenog, Llanfair, Llanarmon, Llanelidan, Llandegla, Bryneglwys, Gwyddelwern, Llantysilio, Corwen, Cynwyd, Llandrillo, Llangollen, Betws Gwerfil Goch.
Mae pob tîm yn cael ei arwain gan Uwch Swyddog Tai sydd â chyfrifoldeb am ffwythiannau rheolaeth stadau a’r holl faterion sy'n berthnasol i dalu’r rhent wythnosol dyledus. O ddydd i ddydd mae’r ffwythiant rhent yn cael ei weinyddu trwy Swyddogion Rhent Tai yn yr ardaloedd unigol. Mae eu prif ddyletswyddau yn cynnwys:
- ymateb i ymholiadau am faterion rhent,
- anfon llythyrau atgoffa am rent,
- cadarnhau dogfennau a chynorthwyo tenantiaid gyda cheisiadau am fudd-dal tai,
- gwneud ymweliadau â chartrefi tenantiaid er mwyn cynghori a chytuno ar drefniadau
i dalu ôl-ddyledion. - trefni i weithredu gorfodaeth mewn perthynas â methiant i dalu rhent.
Mae ein Swyddogion Rhent Tai yn rhoi cefnogaeth weithredol i strategaeth gwrthdlodi y Sir er mwyn darparu gwasanaethau sydd yn cwrdd â holl ddisgwyliadau ein cwsmeriaid trwy fod ar gael ac yn sensitif i anghenion ein tenantiaid.
Yn ogystal, mae’r Swyddogion Rhent Tai yn cydweithredu’n fynych gydag Adrannau eraill y Cyngor a chydag asiantaethau eraill megis Gwasanaethau Cymdeithasol, Budd-dal Tai, Hawliau Lles a Chyngor am Bopeth.

Rhoi adborth ar y tudalen hon