TAI - ATGYWEIRIADAU A CHYNNAL A CHADW
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw adeiladwaith a thu allan eich cartref a bydd yn atgyweirio:-
Y to, sylfeini, waliau allanol, drysau allanol
Draeniau, landeri, pibelli allanol
Fframiau ffenestri, siliau ffenestri
Llwybrau, grisiau, mynedfeydd eraill i’r adeilad, ffensys
Simneiau, cyrn simnai
Y tu mewn i’ch cartref bydd y Cyngor yn atgyweirio:-
Systemau plymio yn cynnwys pibelli, tanciau, stopfalfiau, tapiau, sestonau, ffitiadau toiledau
Drysau mewnol, fframiau drysau mewnol, sgyrtins, cypyrddau cegin
Systemau gwres canolog, twymwyr tanddwr
Gwifriad trydanol, socedi plygiau, ffitiadau golau, switshis
Yn rhannau cydranedig blociau o fflatiau, byddwn yn cynnal a chadw:
Grisiau, coridorau, mynedfeydd
Cyfleusterau cydranedig yn cynnwys erialau teledu, systemau mynediad drysau, goleuadau mannau cyffredin, llecynnau biniau
I ofyn am unrhyw atgyweiriadau/cynnal a chadw gofynnwn ichi ffonio:-
TÎM GWASANAETHAU CWSMERIAID SIR DDINBYCH AR
Cymraeg 01824 706100
Rhaid ichi roi gwybod inni am unrhyw nam neu ddifrod ar unwaith.
Rhaid ichi atgyweirio neu adnewyddu unrhyw eitem a gaiff ei difrodi’n fwriadol (ffenestri wedi’u torri neu ddrysau wedi malu er enghraifft). Os na fyddwch chi’n atgyweirio neu’n adnewyddu’r eitem, fe wnawn ni’r gwaith a chodi arnoch am y gost.
Chi sy’n gyfrifol am fân atgyweiriadau fel y’u rhestrir isod, ond hwyrach y gallwn ni helpu os ydych dros 60 mlwydd oed neu ag anabledd difrifol.
Plygiau a chadwyni ar gyfer sinciau, baths a basnau ymolchi
Seddi a gorchuddion toiledau
Glanhau simneiau
Gwaelod gratiau o fewn deuddeng mis i’w hadnewyddu

Rhoi adborth ar y tudalen hon