| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Tai Gwarchod

Beth Yw Tai Gwarchodol?

Pwrpas Tai Gwarchodol yw darparu cyfleusterau ar gyfer pobl wedi ymddeol neu bobl anabl a fyddai’n cael y cyfleusterau arbennig dan y cynllun yn ddefnyddiol, ond sydd yn ddigon heini i beidio â bod angen y cyfleusterau cefnogi amser llawn sydd i’w cael mewn cartref pobl wedi ymddeol.

Fflatiau neu fyngalos ar gyfer pobl hþn gyda Warden ac intercoms argyfwng 24 awr ar gael yw cynlluniau tai gwarchodol.

Wardeiniaid Preswyl a Wardeiniaid Cyswllt  

Mae gan bob cynllun tai gwarchodol Warden:-
Warden Preswyl - yn byw ar y safle.
Warden Cyswllt - heb fod yn byw ar y safle ond yn ymweld yn rheolaidd.

Rol Y Warden

Cyflogir Warden gan yr Awdurdod Lleol i ofalu am eu tenantiaid drwy sicrhau, hyd y gellir, eu diogelwch a’u lles.  Eu rôl yw bod yn ymgynghorydd, yn gynghorwr ac yn gyfaill.  Hwy yw’r un sydd ar gael yn hawdd pan fo tenant ag angen help a gallant ei gynghori/chynghori a’i helpu ef/hi ynghylch gwasanaethau eraill a’r gefnogaeth sydd ar gael. 

Mewn achosion o salwch neu ddamwain, swyddogaeth y Warden yw galw’r gwasanaeth arbennig y gall fod ei angen i mewn a rhoi gwybod i berthynas, cyfaill neu Weithiwr Cymdeithasol am gyflwr y tenant.

Mae ein Wardeiniaid wedi ymrwymo i helpu pobl hþn, ond, oherwydd niferoedd y preswylwyr ym mhob un o’n cynlluniau nid ydynt yn gallu darparu gofal unigol, personol neu ofal pob dydd.

Mae’r Warden yn cysylltu ar y system intercom (yn y rhan fwyaf o achosion) pob diwrnod gwaith i sicrhau bod popeth yn iawn, fe wnawn nhw ymweld o leiaf unwaith yr wythnos hefyd, yn fwy aml os byddant yn teimlo bod angen.  Ni wnânt fynd i mewn i gartref neb heblaw mewn achos o salwch neu argyfwng heb gael eu gwahodd.
Mae gofal 24 awr gan Linell Ofal Conwy ar gael ym mhob un cynllun.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0