Cludiant Ysgol
Mae’r Awdurdod yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion oedran ysgol statudol sy’n mynychu
- ysgol fabanod, gynradd neu iau, os yw’r plentyn yn byw dros ddwy filltir o’r ysgol briodol agosaf
- ysgol uwchradd, os yw’r plentyn yn byw dros dair milltir o’r ysgol briodol agosaf.
Yn ychwanegol mae’r Awdurdod yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion:
- lle bo disgybl o oedran ysgol statudol a bo’r Awdurdod yn ystyried bod y llwybr i’r ysgol yn un peryglus.
- lle bo plentyn sy’n mynychu’r ysgol briodol angen cludiant am resymau meddygol ac nad oes cludiant cyhoeddus addas yn bodoli (rhaid i geisiadau o’r fath gael eu cefnogi gan dystiolaeth feddygol ysgrifenedig gan ymgynghorydd meddygol y disgybl).
- lle bo cludiant i ysgol a enwyd yn hanfodol ym marn yr Awdurdod neu yn ôl datganiad Anghenion Addysgol Arbennig disgybl. Byddai hyn fel rheol am resymau meddygol neu addysgol.
Ysgol briodol agosaf
Darperir cludiant i’r ysgol briodol agosaf. Dywed yr Awdurdod mai’r ysgol briodol agosaf yw:
- ysgol sy’n darparu addysg i oedran perthnasol disgybl;
- yr ysgol agosaf sy’n bodloni’r dewis iaith yn unol â pholisi’r Awdurdod ar addysg cyfrwng Cymraeg;
- yr ysgol agosaf sy’n bodloni’r dewis enwadol;
- yr ysgol agosaf sydd, ym marn yr Awdurdod, yn darparu ystod resymol o gyrsiau addas ar gyfer gallu, tueddfryd a gofynion unigolyn.
D.S. Nid oes unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol ar yr Awdurdod i ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion nad ydynt yn ddisgyblion oedran ysgol statudol.
Os yr hoffech i'ch plentyn/plant gael eu hystyried am gludiant i'r ysgol am ddim, yna mae'n rhaid ichi gwblhau a dychwelyd y ffurflen berthnasol isod. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Cludiant Ysgol ar 01824 706109.

