| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Grantiau Gwisg Ysgol

Disgyblion blwyddyn 7

 
Mae unrhyw ddisgybl blwyddyn 7 sy'n mynychu Ysgol Uwchradd neu Ysgol Arbennig, y mae ei rieni'n derbyn unrhyw un o'r canlynol :

  • Atodiad Incwm
  • Lwfans ceisio am swydd ar sail incwm
  • Cymorth i fewnfudwyr neu geiswyr lloches
  • Credydau Treth Plant

yn gymwys i'w ystyried am grant tuag at eitemau gwisg ysgol. Trefnir grant am y swm o £97.50 i bob plentyn a daw ar ffurf taleb.
 
Disgyblion blwyddyn 8-11
Mae unrhyw ddisgybl blwyddyn 8 - 11 sy'n mynychu Ysgol Uwchradd neu Ysgol Arbennig, y mae ei rieni'n derbyn unrhyw un o'r canlynol :

  • Atodiad Incwm
  • Lwfans ceisio am swydd ar sail incwm

yn gymwys i'w ystyried am grant tuag at eitemau gwisg ysgol. Nid yw derbyn Credyd Treth Plant yn cymhwyso am y grant hwn. Trefnir grant am y swm o £28.00 i bob plentyn a daw ar ffurf taleb.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0