| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Panel Maethu

Beth yw'r Panel Maethu?

Unwaith mae eich asesiad wedi ei gwblhau, cewch wahoddiad i gyfarfod y panel.

Mae'r Panel Maethu yn cynnwys deg aelod ar y mwyaf, a fydd yn cynnwys:

  • Cadeirydd Annibynnol
  • Aelod Etholedig (cynghorydd lleol
  • Ymgynghorydd Meddygol yr asiantaeth
  • Dau Weithiwr Cymdeithasol (un gyda phrofiad lleoliadau teuluoedd ac un gyda phrofiad gofal plant)
  • O leiaf tri o bobl annibynnol gyda phrofiad o faethu/fabwysiadu (naill ai'n bersonol neu'n broffesiynol)

Bydd Ymgynghorydd y Panel, ac mewn rhai achosion, Ymgynghorydd Cyfreithiol yr asiantaeth hefyd yn bresennol.

Mae'n bwysig eich bod yn mynychu ac mae'n debygol y byddwch yn cael eich holi ynglŷn â'ch asesiad a hefyd ynglŷn â'n gwasanaeth ni i chi. Byddwch yn cael cyfle i holi'r panel. Ar ôl y cyfarfod, bydd y panel yn trafod eich cais ac yn gwneud argymhelliad.

Byddwch yn cael eich hysbysu ar lafar o argymhelliad y panel o fewn 24 awr a bydd angen cymeradwyo'r argymhelliad hwn gan y person sy'n cymryd penderfyniadau o fewn yr asiantaeth.

Mae'n annhebygol, ond yn bosibl, y byddwch yn anghytuno gydag argymhelliad y panel, ac mae gennych hawl i anfon cyflwyniad ysgrifenedig naill ai:

  • I'w ystyried ymhellach gan banel yr asiantaeth, neu
  • Yn gofyn am arolwg o'r argymhelliad gan banel annibynnol a elwir gan Lywodraeth Cynulliad cymru.


Os hoffech ddysgu mwy am faethu, ffoniwch ein llinell rhadffôn ar 0800 7313215

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0