| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cwynion Bwyd

Cwynion Bwyd
Mae Tîm Diogelwch Bwyd Cyngor Sir Ddinbych yn ymchwilio llawer o gwynion bwyd bob blwyddyn. Gall y rhain amrywio o gael hyd i bethau dieithr mewn bwyd i werthu eitemau bwyd anaddas. Yn yr ymchwiliadau hyn rydym yn amcanu at geisio dangos beth sydd wedi mynd o’i le a sicrhau bod mesurau adferol yn cael eu rhoi yn eu lle i atal problemau rhag ailddigwydd. Petai unrhyw un yn gwerthu bwyd sy’n methu â chwrdd â gofynion diogelwch bwyd, ac nad ydynt yn gallu dangos eu bod wedi cymryd pob gofal i atal y gwyn rhag digwydd, gellir mynd ati i’w herlyn drwy’r llysoedd troseddau.

I fynd ar ôl cais am iawndal oherwydd bod rhywun wedi gwerthu bwyd anaddas ichi, mae’n ddoeth ymgynghori â chyfreithiwr gan y gellwch ond gweithredu drwy’r Llys Sirol yn yr amgylchiadau hyn.

Sut i wneud cwyn

Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ynglyn â diogelwch bwyd yr ydych wedi’i brynu neu’i fwyta, a wnewch chi gysylltu â ni.

Dylech wybod y bydd yn rhaid i’r swyddog sy’n ymchwilio gael yr wybodaeth ganlynol:

  • O ble y prynwyd y bwyd;
  • Manylion y gwneuthurwr - cewch hyd i’r rhain ar unrhyw bacediadau.- Mae’n bwysig iawn cadw pob pacediad o’r fath, megis papurau lapio, bocsys neu ganiau.
  • Dyddiad ac amser prynu;
  • Tocyn gwerthiant;
  • Hanes byr o’i brynu nes dod o hyd i’r broblem
  • Manylion storio

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn archwilio eich cegin neu’ch cartref chi hefyd. Gall hyn fod yn bwysig iawn

s bydd yr achos yn mynd ei flaen i gyfraith. Mae modd olrhain llawer o achosion ble cafwyd hyd i wydr mewn bwyd at wydrau neu ddysglau tolciog o fewn y cartref. Fe all y swyddog sy’n ymchwilio wneud nodyn hefyd o dymheredd eich oergell chi i’w fodloni ef/hi ei hun bod y bwyd wedi’i storio’n gywir.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0