| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Archwiliadau Bwyd

Archwiliadau Bwyd
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn archwilio llefydd bwyd ac yn rhoi cyngor i berchenogion busnesau bwyd o fewn Cyngor Sir Ddinbych.  Ar hyn o bryd mae sawl darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymwneud â pharatoi, storio a gwerthu bwyd. Mae cyngor ar gael o’r Adran hon i’r bobl hynny sy’n dymuno sefydlu busnes arlwyo newydd.

Sut y Caiff Llefydd eu Harchwilio?

Bydd Swyddogion yr Adran yn edrych ar y ffordd y mae busnes yn cael ei redeg er mwyn clustnodi peryglon posib a gwneud yn siðr ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith. Bydd problemau’n cael eu trafod â pherchenogion, a chyngor yn cael ei roi ar atebion posib. Mae pwerau ar gael i Swyddogion hefyd a gallant eu defnyddio i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu.

Beth Sydd Gan Fusnesau Bwyd Hawl I’w Ddisgwyl Gan Dîm Diogelwch Bwyd Sir Ddinbych?

  • agwedd gwrtais;
  • cael gweld rhywbeth i brofi pwy ydynt;
  • cael adwaith i archwiliadau, h.y. gwybodaeth ynghylch peryglon y daethpwyd o hyd iddynt ac arweiniad ar sut y gellid fod wedi’u hosgoi;
  • gwahaniaeth clir rhwng yr hyn y mae’r swyddog yn argymell y dylid ei wneud (fel arfer da), a beth sydd raid ei wneud i gydymffurfio â’r gyfraith;
  • cael y rhesymau mewn du a gwyn am unrhyw gamau y gofynnir ichi eu cymryd;
  • ble mae’n ymddangos bod y gyfraith yn cael ei thorri, datganiad yn dweud beth ydy’r gyfraith;
    amser rhesymol i gwrdd â gofynion statudol, ac eithrio ble mae perygl uniongyrchol i iechyd y cyhoedd;
  • cael gwybod beth ydy’r trefniadau ar gyfer apelio’n erbyn gweithredu gan awdurdod lleol.

Pa Bwerau Sydd Gan Dîm Diogelwch Bwyd Sir Ddinbych?

  • yr hawl i fynd i mewn i lefydd a’u harchwilio ar bob adeg resymol;
  • yr hawl i gymryd samplau a ffotograffau. Rhaid peidio â rhwystro swyddogion;
  • cyflwyno hysbysiadau gwella;
  • yr hawl i atafaelu bwydydd amheus;
  • argymell erlyn, a all arwain y llys i wahardd defnyddio’r adeiladau;
  • cyflwyno Hysbysiadau Gwahardd Brys ble mae perygl i iechyd ar ddigwydd, sy’n gwahardd defnyddio’r adeiladau.

Yn olaf dylech gofio ein bod yn barod i helpu a chynghori; mae partneriaethau agosach rhwng busnesau bwyd ac Awdurdodau Lleol yn golygu gwell gwarchod ar y cyhoedd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0