Cyngor Diogelwch Bwyd i Fusnesau Newydd
Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd, am wybodaeth neu gyngor, cyn dechrau unrhyw waith mawr ar fannau paratoi, storio neu weini bwyd. Bydd aelod o’r tîm yn falch o drefnu ymweliad â’r adeilad i gynnig cyngor a thrafod materion diogelwch bwyd â chi. I gael rhagor o wybodaeth am y canlynol, a wnewch chi gysylltu â ni os gwelwch yn dda, gan ddefnyddio’r manylion sydd wedi’u darparu ar Dudalen Gartref Diogelwch Bwyd:
Deddfwriaeth
Mae’r prif ddeddfwriaeth diogelwch bwyd sy’n berthnasol i lefydd bwyd wedi’i dangos isod:
Deddf Diogelwch Bwyd 1990
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Glendid Bwyd Cyffredinol) 1995
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995
Rheoliadau Llefydd Bwyd (Cofrestru) 1991
Mae deddfwriaeth hefyd sy’n benodol i gynnyrch (e.e. Rheoliadau Cynhyrchion Cig
(Glendid). Mae yna hefyd Godau Ymarfer Statudol, Canllawiau’r Diwydiant i Arfer Glanweithdra Da, Canllawiau Gwirfoddol, ayb. Mae rhai cyrff masnachu yn cynhyrchu canllawiau gwirfoddol a dylech holi a ydy eich busnes chi yn un o’r rheini sydd wedi’u cynnwys (e.e., cynhyrchion cig, paratoadau cig, cynhyrchion llaeth ayb.).
Canllawiau Sylfaenol
Isod mae arweiniad i rai o ofynion deddfwriaeth diogelwch bwyd. Nid ydy’r rhestr yn derfynol mewn unrhyw fodd ac fe all gael ei newid yn sgîl cyflwyno deddfwriaeth / cyfarwyddyd newydd. Hefyd bydd angen i rai busnesau bwyd wneud gwaith ychwanegol nad yw wedi’i nodi o fewn y 'Canllawiau Sylfaenol', oherwydd gofynion deddfwriaeth sy’n benodol i gynnyrch.
Cais i Gofrestru Llefydd Bwyd - Cyn dechrau masnachu mae’n rhaid ichi gofrestru eich lle bwyd â Chyngor Sir Ddinbych. Dylech gwblhau ffurflenni cais a’u dychwelyd i’r Tîm Diogelwch Bwyd wyth diwrnod ar hugain cyn agor y busnes bwyd.
Nid oes dim tâl am gofrestru ac ni allwn wrthod cofrestru’r busnes. Er hynny, fe all rhai llefydd fod yn eithriedig, felly dylech gysylltu â ni am fanylion llefydd eithriedig.
Rhaid i bob man ble caiff bwyd ei baratoi a’i storio:
1. Gael ei gadw’n lân ac mewn cyflwr da. (Byddai hyn yn cynnwys y waliau, y lloriau a’r nenfydau).
2. Gael ei gynnal i safon a fyddai’n caniatáu glanhau effeithiol.
3. Fod yn ddiogel rhag bod pla yn gallu dod i mewn.
4. Fod wedi’i ddarparu â phowlen(ni) ymolchi. Rhaid i’r bowlen(ni) ymolchi fod wedi’i/wedi’u lleoli’n addas a’i/a’u dynodi ar gyfer glanhau dwylo. Mae’n rhaid iddi/iddynt fod â dwr tap poeth ac oer (neu wedi’i gymysgu’n briodol), deunyddiau ar gyfer glanhau dwylo ac ar gyfer eu sychu’n lanwaith. (Rhaid darparu powlenni ymolchi yn ymyl unrhyw doiledau hefyd).
5. Fod wedi’i ddarparu â sinc paratoi bwyd.
6. Fod wedi’i ddarparu â sinc golchi cyfarpar.
Wrth ystyried gweddlun y lle bwyd byddai’n ddoeth cysylltu â Thîm Diogelwch Bwyd Sir Ddinbych. Bydd y Swyddog yn trafod materion diogelwch bwyd â chi yn fwy manwl. Bydd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:
1. Croesheintiad. Rhaid gwahanu bwydydd sy’n barod i’w bwyta yn ddigonol oddi wrth fwydydd amrwd drwy gydol y cylch prynu, dosbarthu, storio a pharatoi.
2. Arwynebau. Rhaid cadw arwynebau gweithio a chyfarpar yn lân, eu diheintio’n rheolaidd a’u cynnal mewn cyflwr da. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid defnyddio deunyddiau llyfn, golchadwy a diwenwyn.
3. Rhai sy’n Trin Bwyd.
(a) Dylai pawb sy’n trin bwyd dderbyn hyfforddiant mewn glendid bwyd sy’n gymesur â’u gweithgaredd gwaith. Os oes arnoch angen manylion y cyrsiau sydd ar gael a wnewch chi gysylltu ymweld â’r Dudalen Hyfforddi Glendid Bwyd os gwelwch yn dda.
(b) Rhaid i bob un sy’n gweithio mewn man trin bwyd gynnal safon uchel o lendid personol a rhaid gwisgo dillad priodol, glân a, ble bo’n briodol, ddillad gwarchod. Rhaid iddynt gael eu cyflenwi â’r cyfleusterau i sicrhau bod hyn yn bosib.
4. Rheoli Tymheredd. Rhaid bod amodau tymheredd addas i storio cynhyrchion bwyd yn lanwaith o fewn yr adeilad. Y gofyn cyfreithiol ar gyfer bwyd oeredig ydy 8°C, er hynny fe argymhellir y dylid setio oergelloedd ar 5oC neu’n oerach er mwyn gwneud lwfans ar gyfer cyfeiliornad o dan y safon gyfreithiol.
5. Cyflenwad Dwr. Rhaid i’r lle bwyd fod â chyflenwad dwr yfadwy, o’r prif gyflenwad dwr pibell os yn bosib. Rhaid hysbysu’r Adran os ydy’r adeilad wedi’i gyflenwi â dwr o Ffynhonnell Ddwr Breifat.
6. Sbwriel. Rhaid storio gwastraff solet mewn cynwysyddion sydd â chaead tra’n aros iddo gael ei gasglu oddi ar y safle. Rhaid cael gwared â gwastraff solet yn rheolaidd hefyd.
Canllawiau Sylfaenol ar gyfer Masnachwyr Teithiol
Yn ychwanegol at y pwyntiau a grybwyllwyd eisoes, isod mae arweiniad sylfaenol i rai o’r gofynion diogelwch bwyd ar gyfer masnachwyr teithiol. (Nid ydy’r rhestr yn derfynol mewn unrhyw fodd ac fe all gael ei newid yn sgîl cyflwyno deddfwriaeth newydd)
Rhaid cadw unedau symudol yn lân ac mewn cyflwr da. (Byddai hyn yn cynnwys y waliau, y lloriau a’r nenfydau).
Cynllun a gwneuthuriad - Rhaid cynnal unedau symudol i safon a fyddai’n caniatáu glanhau effeithiol. Dylai’r uned fod wedi’i diogelu rhag bod pla yn gallu dod i mewn. Os nad ydy hyn yn bosib, fodd bynnag, yna rhaid peidio â storio bwyd yn y lle dros dro oni bai ei fod mewn uned storio neu gynhwysydd sydd ei hun yn atal i bla ddod i mewn.
Lleoliad - Rhaid peidio â lleoli’r uned symudol yn agos at ffynonellau haint neu blâu. Er enghraifft, efallai na fydd yn dderbyniol lleoli llefydd dros dro neu symudol yn agos at domenni sbwriel neu ffynhonnell gollyngiadau a gludir yn yr awyr a fyddai’n golygu perygl o bla a / neu heintiad.
Cyfleusterau ymolchi:
1. Mae’n rhaid bod powlen ymolchi benodedig wedi’i lleoli o fewn yr uned symudol. Rhaid i’r bowlen ymolchi benodedig fod wedi’i lleoli’n briodol a’i chyflenwi â dwr poeth ac oer neu ddwr ar dymheredd addas, sebon neu lanedydd a modd glanwaith o sychu dwylo. Rhaid darparu powlenni ymolchi yn ymyl unrhyw doiledau hefyd.
2. Rhaid i sinc ar gyfer golchi twls a chyfarpar fod ar gael. Rhaid i’r sinc fod wedi’i ddarparu â chyflenwad digonol o ddwr poeth ac oer, neu ddwr ar dymheredd sydd wedi’i reoli’n addas, ynghyd â chyflenwad o lanedydd (Fe all peth cyfarpar gael ei ddychwelyd i brif ganolfan yr arlwywr i’w lanhau. Er hynny mae’n rhaid gwneud trefniadau ar gyfer cyfarpar sydd angen ei lanhau’n amlach, er enghraifft cyllyll, gefeiliau, sgwpiau hufen ia).
3. Yn dibynnu ar y gweithgareddau paratoi bwyd o fewn yr uned symudol, rhaid gwneud darpariaethau digonol ar gyfer glanhau bwydydd. Mae’n arfer da defnyddio sinciau ar wahân ar gyfer golchi bwyd. Ble nad ydy hyn yn ymarferol, dylai’r sinc gael ei lanhau rhwng gwahanol weithgareddau.
Cyflenwad Dwr - Yn ddelfrydol bydd cyfleusterau dros dro wedi’u cysylltu â chyflenwad dwr yfadwy, y prif gyflenwad dwr pibell os yn bosib. Ble nad ydy hyn yn ymarferol, gellir defnyddio cyflenwadau tanc neu dancer dwr ond mae’n rhaid i’r rhain, a chyflenwadau mewn unedau symudol, gydymffurfio â’r safonau canlynol:
1. Rhaid eu llenwi o gyflenwad yfadwy, yn ddelfrydol y prif gyflenwad dwr pibell.
2. Rhaid cadw’r tanc yn lân a’i ddiheintio’n aml.

Rhoi adborth ar y tudalen hon