| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Golau Stryd

Sut y gellir adrodd am unrhyw ddiffygion?

Os gwelwch broblem hefo golau stryd neu olau arall ar y ffordd yn agos atoch chi cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.  Rhaid i ni gael gwybod enw'r stryd neu enw'r ffordd lle mae'r golau a rhif y golau. Dangosir rhif y golau fel yn y lluniau isod: 
 
Os nad ydych yn gwybod beth yw’r rhif, yna dywedwch wrthym ni beth yw cyfeiriad y tŷ neu’r adeilad agosaf.  Nodwch, fe all fod dau rif os bydd arwydd hefo golau wedi'i osod ar golofn golau stryd. 
 
Cewch ddefnyddio ein ffurflen adrodd am ddiffygion ar-lein (gweler y cyswllt) neu gysylltu gyda’n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy gyfrwng gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk neu 01824 706101 (8.00am - 6.00pm, Dydd Llun - Dydd Gwener).

Sut rydym ni’n gweithio

Caiff pob golau stryd, arwyddion hefo golau a bolardiau eu harchwilio yn ystod y nos bob pythefnos. Caiff unrhyw broblem ei atgyweirio o fewn 5 diwrnod gwaith. 
 
Caiff unrhyw wifrau rhydd neu unrhyw beryglon amlwg eraill eu hatgyweirio a’u gwneud yn ddiogel o fewn dwy awr i dderbyn adroddiad amdanynt. 
 
Mae ein safonau cyflymder ymateb yn cynnwys pob nam trydanol sydd o fewn ein rheolaeth. Dim ond cwmni trydan all wneud y gwaith atgyweirio i'r ceblau trydan ac mae cyflymder yr atgyweirio allan o'n dwylo. Mae gan y cwmni trydan ei amser ymateb ei hun i adfer cyflenwad o fewn 10 diwrnod gwaith. 
 

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych