| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Siop Arwyddion
Siop Arwyddion

Yr Ateb Cyfan I Arwyddion

Atebion Dylunio ac Adeiladu, Rheolaeth Prosiectau, Gwasanaeth Siop Un Alwad, Dylunio a Phrintio, Gosod arwyddion goleuedig a dioleuedig, pyst a dodrefn stryd arall.


Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gyflenwi ein holl gleientiaid â gwasanaeth “Siop Un Alwad” a’r profiad i ymdopi â marchnad gyfnewidiol. Mae ein holl weithwyr gwneuthur nwyddau wedi’u hyfforddi i lefel NVQ 2 ac NVQ 3 mewn gwneud arwyddion ac yn ddiweddar rydym wedi ein cynnwys ar y rhestr contractwyr cymeradwy ar gyfer cynllun 9A sector Asiantaeth y Priffyrdd, ar gyfer cynhyrchu arwyddion. Ni oedd y cyntaf yng Nghymru i sicrhau’r achrediad hwn, a dim ond y pedwerydd yn y wlad, yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat. I ennill yr achrediad hwn, aethom
drwy drefn archwilio lem, i brofi cymhwysedd drwy hyfforddiant a realeiddio cynhyrchion, fel y nodir gan y corff dyfarnu, UKAS.


Mae ein gwybodaeth am y diwydiant arwyddion yn ddi-ail, ac rydym yn hyderus y gallwn gyflenwi ein cleientiaid â gwasanaeth cost-effeithiol ac effeithlon. Mae gennym dîm un pwrpas sy’n gweithio gyda’r meddalwedd a’r caledwedd mwyaf diweddar sydd ar gael. Mae ein tîm o wneuthurwyr arwyddion hyfforddedig yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ôl canllawiau a rheoliadau DfT llym. Mae ein gwaith i gyd â Sicrwydd Ansawdd ISO 9001: 2000, ac ar gyfer hynny mae’n rhaid inni gynnal ac adolygu safonau uchel o reolaeth ar gynhyrchu Ffatri a chrefftwaith, yn ogystal â chwrdd â safonau’r diwydiant.


Rydym wedi ein hachredu â’r wobr “Buddsoddwyr mewn Pobl”, ac fel yma’n sicrhau ymrwymiad i’n gweithlu, ac rydym yn adolygu ac yn datblygu ein dulliau a’n systemau’n barhaus fel y bo’n gweddu. Rydym bob amser mewn cysylltiad â thueddiadau cyfredol y farchnad gan ein bod yn aelod gweithredol o Gymdeithas Gwneuthurwyr Arwyddion Awdurdodau Lleol, ac yn cynnal a mynychu cyfarfodydd diweddaru rheolaidd.


Mae ein sylfaen cleientiaid yn cynnwys y rhan fwyaf o’r Awdurdodau Lleol yn ardal Gogledd Cymru, a llawer o beirianwyr Sifil a chwmnïau Adeiladu lleol yn yr ardal.


Mae ein portffolio gwaith yn cynnwys gorchwylion “unigol” i gwsmeriaid preifat, i ben arall y raddfa, ble rydym yn darparu gwasanaeth cyflenwi a gosod llawn i beirianwyr sifil mawr ar gyfer cynlluniau ar gefnffyrdd, yn cynnwys yr A55.


Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu mewnol i’r Awdurdod ar gyfer arwyddion dwyieithog, ac rydym yn stocio nifer o finylau a swbstradau ar gyfer cynhyrchu. Mae gan y Gweithdy Arwyddion y cyfleuster i ddarparu gwasanaeth hurio dros dro gogyfer ag arwyddion rheoli traffig a digwyddiadau unigol i’n holl gleientiaid, ac rydym yn darparu gwasanaeth gosod a thynnu i lawr ar gyfer y gweithgareddau hyn.


Rydym hefyd yn cynhyrchu ac yn gosod baneri ar gyfer digwyddiadau tymor hir a byr, naill ai ar gyfer digwyddiadau unigol, neu ddigwyddiadau amlddefnydd, gan ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth altro baneri sy’n eiddo i’r cleient.


Dechreuodd Gweithdy Arwyddion Cyngor Sir Ddinbych ei oes dros 20 mlynedd yn ôl fel darparwr gwasanaeth mewnol bychan i Adeiladu Sir Clwyd a Chyngor Sir Ddinbych ac o’i ddechreuad cymharol fach yn cyflogi 2 o staff mae wedi tyfu bellach yn un o arweinwyr y farchnad o ran cyflenwi, gosod a dylunio arwyddion traffig ffyrdd ac arwyddion masnachol, sy’n awr yn cyflogi 20 o staff un pwrpas amser llawn yn ymdrin â dylunio, cynhyrchu a gosod arwyddion.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0