Y DDEDDF
CEFNDIR
Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gyfraith ar y 30 Tachwedd 2000 a byddir yn dod i rym llawn ar Ionawr 1af 2005.
Mae’n rhoi hawl gyffredinol i’r cyhoedd gael gweld pob math o wybodaeth gofnodedig a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Sir Ddinbych.
Cliciwch yr isod i weld copi o'r Ddeddf
http://www.opsi.gov.uk/ACTS/acts2000/20000036.htm
PWRPAS
Mae’r cynllun cyhoeddi yn bwriadu datblygu diwylliant o ddidwylledd ac atebolrwydd o fewn gwasanaethau cyhoeddus trwy ddarparu mynediad rhwydd at wybodaeth yn ymwneud â phrosesau a phenderfyniadau busnes. Y nod yw trefnu bod yr wybodaeth ar gael ac yn hygyrch i’r dinesydd, a all wedyn ddarganfod yr wybodaeth berthnasol trostynt
eu hunain, drwy’r cynllun.
CYNLLUN CYHOEDDI
Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n rheidrwydd ar Sir Ddinbych i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi, y mae’n rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae cynlluniau o’r fath yn nodi:
- y mathau o wybodaeth a gyhoeddwn
- y modd y caiff ei chyhoeddi
- manylion unrhyw daliadau a godir
BUDD CYHOEDDUS
Mae peth gwybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu gan y Ddeddf ac felly nid oes rhaid ei darparu. Serch hynny, hyd yn oed os nad yw eithriad yn berthnasol rhaid i CSDd ddal i ystyried a oes yna fudd cyhoeddus gor-redol wrth ddatgelu’r wybodaeth. Bydd y cydbwysedd bob amser yn gorwedd o blaid datgelu ble bynnag y mae’n bosibl.
Y COMISIYNYDD GWYBODAETH
Gorfodir y Ddeddf gan y Comisiynydd Gwybodaeth sydd yn gyfrifol am orfodi'r ddeddf yn ogystal a darparu cyngor a cymorth i awdurdodau cyhoeddus ac i unigolion. Am rhagor o wybodaeth neu cyngor ymwelwch a safle wê y Comisiynydd Gwybodaeth.



Rhoi adborth ar y tudalen hon