Newid yn yr Hinsawdd
Yn wyneb newid hinsawdd, mae’n rhaid i Sir Ddinbych wynebu’r sialens o ddatblygu dyfodol carbon isel. Felly, cytunodd Aelodau’r Cabinet y dylai Sir Ddinbych wneud ymrwymiad, mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Garbon, i ostwng Ôl-Troed Carbon 60% dros y 10 mlynedd nesaf.
Gellir cael gostyngiad o 60% trwy gyfuniad o reoli asedau, rheoli ynni, cadw tŷ mewn trefn (ymgyrch ymwybyddiaeth staff), ynni adnewyddadwy (Biomas, pympiau gwres, pŵer yr haul) a buddsoddi mewn technolegau ynni isel (rheoli goleuadau a gwres).
Mae manteision cymryd rhan mewn cytundeb partneriaeth yn cynnwys gostwng allyriadau C02, arbed arian drwy reoli a gostwng biliau ynni, cwrdd â rheoliadau, codi proffil y Cyngor i fod ymysg yr awdurdodau sy’n perfformio orau ac yn arwain trwy esiampl – gan ddylanwadu ar fusnesau a’r gymuned ar faterion gwyrdd.
Lleihau’ch CO2
Rhowch gynnig ar ‘cyfrifo lleihau’ch CO2' Directgov a chymrwch y camau cyntaf i ddeall ac adnabod eich Ôl-Troed Carbon. Mae’r offer yn eich galluogi i gael darlun o’ch Ôl-Troed Carbon personol eich hun neu eich cartref. Bydd yn cynnwys argymhellion ar sut y gallwch helpu i leihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Mae gan bawb Ôl-Troed Carbon. Dyma gyfle i chi ddod i ddeall yn well beth allwch chi ei wneud i wella eich effaith ar yr amgylchedd.
Dilynwch linc y tudalennau perthnasol ar y chwith, fydd yn eich arwain at “cyfrifo Lleihau’ch CO2“ Directgov.



Rhoi adborth ar y tudalen hon