| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Adborth Cwsmeriaid Sir Ddinbych

1. Gwybodaeth am y polisi


Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog cwsmeriaid i fynegi eu barn.  Bydd pob barn yn cael ei ystyried a gellid defnyddio’r hyn a fynegwyd i fesur perfformiad a gwella safonau cyflawni gwasanaethau. 


Mae’r polisi hwn yn nodi sut y bydd yr Awdurdod yn ymdrin ag adborth, negyddol neu gadarnhaol, gan gwsmeriaid a’r amserlen ar gyfer ymdrin â sylwadau cwsmeriaid.  Fe’i lluniwyd i’w ddefnyddio fel dogfen gyfeiriol i staff a chwsmeriaid.  


2. Datganiad Polisi


Mae Polisi Adborth Cwsmeriaid Sir Ddinbych yn rhan o strategaeth ehangach sy’n ymwneud â Gofal Cwsmer a materion sicrhau ansawdd.  Rydym wedi mabwysiadu polisi positif er mwyn annog pobl i gyflwyno sylwadau a chwynion i ddarparu adborth parhaus ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gennym.  Defnyddir y wybodaeth hon i fesur ein perfformiad ac i wella ansawdd ein gwasanaethau. 


Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i fod yn awdurdod agored, atebol, sy’n gwrando ar, gwerthfawrogi ac yn gweithredu ar sylwadau pobl am ei wasanaethau.  Mae’r staff yn ceisio bod yn gyfeillgar, hawdd trafod gyda nhw ac yn barod i wrando bob amser, ac ymdrechu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. 


Nod Cyngor Sir Ddinbych yw gwella ansawdd ei wasanaethau a’i ofal cwsmeriaid a bydd yn sicrhau yr ymdrinir gyda’r holl ymholiadau a chwynion yn brydlon, yn gwrtais ac yn gyflawn. 


Ein nod yw datrys pob cwyn mewn modd cyfeillgar, a gweithredu pan fo angen.  Er mwyn delio gyda chwyn yn effeithiol, efallai y bydd yn ofynnol i ni rannu gwybodaeth amdano gyda phobl berthnasol yn y cyngor.  Weithiau mae’n ofynnol i ni rannu gwybodaeth amdano gydag eraill y tu allan i’r cyngor.  Cyflwynir rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd yn adran 10.


Croesewir adborth gan gwsmeriaid yn newis iaith y cwsmer, a thrwy’r cyfrwng o’u dewis. 

 
3. Mathau o adborth a sut i ymdrin â nhw


Ymholiadau / Sylwadau: Gallai’r rhain fod yn alwadau am ymateb gan wasanaeth, ac nid yn feirniadol o angenrhaid.  Nid oes rhaid eu cofnodi’n ffurfiol

 
Canmoliaeth: mae diolchiadau a chanmoliaeth yn rhoi anogaeth i ni bob amser a dylid eu cofnodi yn ffurfiol gan y Swyddog Adborth perthnasol.

 
Bydd gan bob cyfarwyddiaeth ac, yn rhai achosio, adrannau unigol Swyddog Adborth dynodedig sy’n gyfrifol am drin a monitro’r adborth sy’n berthnasol i’w hadran. 


Os yw’r sylwadau yn cyfeirio at aelod o staff unigol neu dîm penodol, dylid hysbysu’r rheolwr llinell a’r bobl dan sylw. 
Problem: anhawster neu bryder, cwestiwn i’w ystyried neu fater o ansicrwydd y mae angen ei ddatrys.  Dylai’r Swyddog Adborth nodi’r broblem rhag ofn bod y mater yn esgyn i fod yn gwyn ffurfiol yn ddiweddarach. 

 
Cwyn: mynegi anfodlonrwydd am safon gwasanaeth, gweithred neu ddiffyg gweithredu gan y Cyngor neu ei staff, ar lafar neu’n ysgrifenedig.  Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr achwynydd fel unigolyn neu fel un o griw o bobl yn derbyn gwasanaeth gan y Cyngor.  Rhaid i gwynion gael eu cofnodi’n ffurfiol gan y Swyddog Adborth. 


Yr unig eithriadau i hyn yw pan fo’r gŵyn yn ymwneud ag ysgol neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol. 
Dylid cyflwyno cwyn yn erbyn ysgol i aelod o staff yr ysgol i ddechrau.  Os ydych am fynd â’r mater ymhellach dylid cysylltu gyda’r pennaeth. 


Os yw’r gŵyn am y pennaeth dylid ei gyfeirio at Gadeirydd y Llywodraethwyr.  Cewch ragor o fanylion yn y ddogfen “Trefn Gwyno Gyffredinol: Canllawiau i Rieni/Gwarcheidwaid, Ysgolion, Cyrff Llywodraethol a’r Awdurdod Addysg Lleol.”  Gellir gweld copi ar wefan Cyngor Sir Ddinbych neu gallwch gysylltu gyda’r Swyddog Cwynion, Y Ganolfan Addysg, Lôn Ganol, Dinbych, LL16 3UW.


Ymdrinir â chwynion am Wasanaethau Cymdeithasol dan Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 a Deddf Plant 1989.  Mae’r ddeddfwriaeth a’r canllawiay yn nodi sut yr ymdrinir â chwynion, a sut yr ymdrinir ag apeliadau hefyd.  Cewch fanylion llawn am y Gweithdrefnau Cwynion a Sylwadau Gwasanaethau Cymdeithasol drwy gysylltu gyda’r Cynorthwy-ydd Cyfathrebu/Cwynion yn Nhŷ Nant, Ffordd Llys Nant, Prestatyn, LL19 7UG.


Mae’n bosibl y bydd rhaid cyfeirio cwynion sy’n ymwneud â chamdrin emosiynol/corfforol difrifol at Uned Amddiffyn Teulu yr Heddlu a bydd angen i unrhyw weithredu pellach gydymffurfio gyda Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan neu Weithdrefnau Amddiffyn Oedolion sy’n agored i niwed Gogledd Cymru. 

 
Nid yw’r isod yn cael eu hystyried yn gwynion:
- Cais am wybodaeth
- Cais am esboniad ynghylch gwasanaethau neu bolisïau’r Cyngor 

4. Sut all cwsmeriaid roi adborth?


Caiff cwsmeriaid roi eu hadborth yn y modd sydd fwyaf cyfleus iddynt.  Nid oes rhaid defnyddio ffurflenni swyddogol y cyngor i wneud hyn.  Gellir cyflwyno adborth dros y ffôn, yn bersonol, drwy lythyr, neges testun, neges e-bost neu drwy gyfrwng y wefan.


Anogir cwsmeriaid i ddarparu eu manylion cyswllt, ond bydd adborth dienw yn cael ei ystyried hefyd a, lle bo’n briodol, cyflwynir camau gweithredu priodol.


Bydd staff yn trin cwynion mewn cyfrinachedd ac ni fyddant yn datgelu enw achwynydd onibai ei fod ef/hi wedi rhoi caniatâd penodol iddynt wneud hynny.

 
Hefyd derbynnir adborth gan unigolyn yn gweithredu ar ran neu ar gais cwsmer. 

5: Beth sy’n digwydd i gwynion?


Mae pob cwyn yn cael ei gofnodi gan y Swyddog Adborth yn yr adran berthnasol.  Ymchwilir i bob cwyn i geisio canfod datrysiad boddhaol. 


Mae cadw cofnod o’r holl gwynion yn fodd o’n cynorthwyo i adnabod meysydd lle gallwn wella ein gwasanaeth.  Mae’n bwysig bod cwynion yn cael eu hystyried fel grym positif sy’n arwain at newid. 


Bydd pob cwyn yn cael ei gofnodi gan y Swyddog Adborth ar y gronfa ddata gorfforaethol, er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y sir. 


6: Pwy sy’n ymdrin â chwynion?


Gall unrhyw aelod etholedig neu aelod o staff dderbyn cwyn.  Dylai’r Aelodau neu’r staff hysbysu’r Swyddog Adborth yn yr adran berthnasol am y gŵyn ar unwaith.  Gwnaiff y swyddog gofnodi a delio gyda’r gŵyn. 


Bydd y Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn cydlynu’r cofnodion ar ran yr holl wasanaethau. 


Bydd unrhyw fater y mae’n ofynnol i’r Heddlu ymdrin ag ef (e.e. dwyn/ymosodiad ac ati) yn cael ei ymchwilio gan yr Heddlu gan ddilyn eu gweithdrefnau nhw. 


Mae tri cham wrth ymdrin â chwyn: 


1: Ar lefel leol – i ddechrau dylid troi at ffynhonnell yr anfoddhad a dylai’r staff yno geisio delio gyda’r broblem.  Dylid rhoi’r wybodaeth i’r Swyddog Adborth perthnasol er mwyn iddo gofnodi gŵyn ar y system gorfforaethol.  


2: Cwyn ffurfiol – os nad yw’r staff wedi llwyddo i ddatrys y gŵyn ar lefel leol gall y cwsmer gwyno wrth Swyddog Adborth yr adran dan sylw.  Bydd y gŵyn yn cael ei chofnodi ar y system gorfforaethol, ac anfonir llythyr cydnabyddiaeth cyn pen pum diwrnod gwaith ac ymateb llawn cyn pen 20 diwrnod gwaith o dderbyn y gŵyn.  Lle nad yw’n bosibl gwneud hyn hysbysir yr achwynydd pam na fu hyn yn bosibl, ac fe’i hysbysir am y cynnydd yn yr ymchwiliadau bob 10 diwrnod nes bo’r mater wedi’i ddatrys.  Bydd yr ohebiaeth yn newis iaith a dewis gyfrwng y cwsmer. 


Ein bwriad yw datrys pob cwyn yn llawn cyn pen 20 diwrnod gwaith.  


Bydd y system gofnodi a monitro gorfforaethol yn cynhyrchu llythyr cydnabyddiaeth corfforaethol yn awtomatig. 
Ymchwilir i gwynion gan y Swyddog Adborth neu unigolyn priodol a enwebwyd ganddo/ganddi.  Os nad yw’r un o’r ddau yn medru datrys y gŵyn yna cyfeirir y mater at y Pennaeth Gwasanaeth neu’r Cyfarwyddwr.  Os yw’r mater yn parhau heb ei ddatrys gall y Prif Weithredwr ailymchwilio i’r gŵyn. 


Bydd yr ymateb terfynol yn cynnwys esboniad llawn a chyngor ynghylch beth ddylai’r achwynydd ei wneud os yw’n parhau’n anfodlon. 


3: Apêl – os yw’r achwynydd wedi mynd trwy holl gamau trefn gwynion y cyngor, yna gellir trefnu Panel Apêl, yn cynnwys aelodau etholedig.  Penodir cynghorwyr i’r panel gan Glerc y Sir, pan fo angen. 
Lle nad yw’r Cyngor wedi llwyddo i ddatrys cwyn, gall yr achwynydd gyfeirio ei gŵyn at yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol.  Mae gan yr holl Swyddogion Adborth wybodaeth am sut i gysylltu gyda’r Ombwdsmon ac mae’r taflenni Adborth yn cynnwys y manylion cyswllt hefyd. 


7: Cwynion yn erbyn staff


Ymdrinir â chwynion gan y cyhoedd yn erbyn swyddog penodol gan swyddog uwch nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â’r gŵyn.  
Os nad yw’r achwynydd yn fodlon gyda’r ymateb bydd aelodau etholedig yn ystyried y gŵyn.  Sefydlir panel yn benodol at y diben hwn, fel a phan fo angen. 


8: Cwynion yn erbyn Cynghorwyr


Ymdrinir â chwynion yn erbyn Cynghorwyr gan Glerc y Sir fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am y Pwyllgor Safonau. 


9: Cyfrinachedd


Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rheoleiddio sut mae’r cyngor yn delio gyda ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion.  Rhaid ymdrin ag unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion yn unol â’r wyth egwyddor a gynhwysir yn y Ddeddf.

 
Bydd Sir Ddinbych yn delio gyda’r holl adborth gan gwsmeriaid yn unol â’r Ddeddf.  Pan fo Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn cwyn, ymholiad neu sylwadau am ei wasanaethau, bydd gan amlaf hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol am yr unigolyn sy’n gwneud y gŵyn, ymholiad neu sylwadau (megis eu henw, cyfeiriad, manylion cyswllt ac unrhyw wybodaeth arall sy’n datgelu eu hunaniaeth fel person byw). 


Er mwyn delio gyda’r gŵyn yn effeithiol gall fod yn angenrheidiol rhannu’r wybodaeth hon gyda’r isod: 


- adrannau perthnasol yn y cyngor.  Er enghraifft, byddai’n ofynnol rhannu cwyn am y gwasanaethau tai, ffyrdd a sbwriel gydag o leiaf tair adran wahanol; 

 
- aelod y Cabinet sy’n gyfrifol am y maes dan sylw, os yw’r gŵyn yn cyfeirio at agweddau penodol sy’n effeithio ar atebolrwydd aelod y Cabinet am y gwasanaeth; 


- y cynghorydd/cynghorwyr sir perthnasol, os yw’r gŵyn yn cyfeirio at agweddau penodol sy’n effeithio ar eu rôl fel cynrychiolwyr etholedig yr ardal; 


- aelodau Pwyllgor Safonau’r Cyngor os yw’r gŵyn ynghylch ymddygiad cynghorydd;


- yr ombwdsmon llywodraeth leol os yw’r gŵyn am ymddygiad cynghorydd; 


- yr heddlu neu gyrff gorfodaeth eraill os yw’r gŵyn yn honni y torrwyd y gyfraith; 


- y corff perthnasol os yw’r gŵyn am rhywbeth nad yw’n gyfrifoldeb i Gyngor Sir Ddinbych.  Er enghraifft, byddai cwyn am y gwasanaeth tân yn cael ei basio ymlaen i Wasanaeth Tân Gogledd Cymru. 


10: Gwybodaeth Ychwanegol


1) Pan nad yw’n bosibl cadw at yr amserlen darged – sef cydnabod cyn pen 5 diwrnod gwaith ac ymateb yn llawn cyn pen 20 diwrnod gwaith – rhaid hysbysu’r achwynydd pam na ellir cadw at hyn, yn yr iaith a’r cyfrwng o’u dewis, a chyflwyno amserlen newydd iddynt.  Rhaid darparu diweddariad ar y cynnydd bob 10 diwrnod gwaith. 


2) Bydd y Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn monitro’r gweithdrefnau Adborth Cwsmeriaid a’r system, ac yn gwneud argymhellion ar gyfer gwella lle bo angen. 


3) Dylai cwynion gan staff am amodau gwaith neu ymddygiad cydweithwyr gael eu crybwyll wrth y rheolwr llinell perthnasol neu’r Pennaeth Personél, dan y gweithdrefnau corfforaethol  Disgyblu, Achwyniad neu Aflonyddu.  


4) Gall fod achosion lle gellir darparu digollediad ariannol i gwsmeriaid sy’n medru profi eu bod ar eu colled oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithredu gan Gyngor Sir Ddinbych.  Rhaid i daliadau o’r fath gael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Gwasanaeth neu’r Cyfarwyddwr perthnasol.

 
11: Adroddiadau


Bydd y Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus yn paratoi adroddiad blynyddol ar adborth cwsmeriaid, gyda chydweithrediad llawn Penaethiaid Gwasanaeth a Chyfarwyddwyr.  Bydd hyn yn cynnys ystadegau, er dibenion perfformiad, ar nifer y materion adborth a godwyd a faint o amser a gymrwyd i ddelio gyda phob un.  Hefyd cynhelir adolygiad blynyddol o’r gweithdrefnau Adborth Cwsmeriaid.  


Yn ychwanegol at hyn bydd Swyddogion Adborth Cwsmeriaid unigolyn yn darparu adroddiad cynnydd, lle bo’n briodol, i aelodau staff allweddol sy’n ymwneud â’r gŵyn neu’r sylwadau.  

 
Bydd Swyddogion Adborth Cwsmeriaid yn adrodd am unrhyw batrymau neu dueddiadau sy’n amlygu eu hunain wrth y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol yn chwarterol, cyn gwneud y Pwyllgor Craffu yn ymwybodol bod problem posibl yn bodoli. 


Dylai manylion yr adroddiad alluogi’r Pennaeth Gwasanaeth i gyflwyno’r camau gweithredu adferol angenrheidiol.  Bydd hyn yn caniatáu i’r Cyngor fod yn adweithiol i sylwadau a chwynion a dderbyniwyd ac yn rhagweithiol drwy adolygu’r sefyllfa cyn adrodd amdano wrth y Pwyllgor Craffu. 


12: Achwynyddion cyson neu flinderus


Mae mwyafrif helaeth yr achwynyddion yn ymddwyn ac yn gweithredu mewn modd cyfrifol.  Fodd bynnag, gall achwynyddion cyson neu flinderus fod yn broblem i’r staff sy’n delio efo nhw. 


Ceir adegau pan na ellir gwneud unrhyw beth pellach yn rhesymol i gynorthwyo gyda neu gywiro problem go iawn neu ddirnadaeth o broblem.  Mae’r adran hon o’r polisi yn nodi’r sefyllfaoedd lle gellid ystyried bod achwynydd yn achwynydd cyson neu flinderus, ac mae’n nodi ffyrdd o ymateb i’r sefyllfaoedd hyn. 

 
Gweithredir yr adran hon o’r Polisi Adborth Cwsmeriaid dan amgylchiadau eithriadol yn unig, ac yn dilyn rhoi cynnig ar bob mesur rhesymol i ddatrys y gŵyn.  Gweithredir yr adran hon yn unig ar ôl ystyriaeth ofalus, ac awdurdodi’r gweithredu gan y pennaeth gwasanaeth perthnasol. 

 
Wrth benderfynu ar y trefniadau i ymdrin ag achwynyddion o’r fath, rhaid i’r staff ystyried dau brif beth:  :
sicrhau bod y gweithdrefnau Adborth Cwsmeriaid wedi eu gweithredu yn gywir hyd yma ac na hepgorwyd unrhyw elfen berthnasol o’r gŵyn neu ymdrin ag unrhyw agwedd yn annigonol.  Mae’r angen i sicrhau triniaeth deg yn hanfodol bwysig. 


Gallu nodi pan fo achwynydd wedi dod yn achwynydd cyson neu flinderus.  


12.1 Diffiniad achwynydd cyson neu flinderus


Ystyrir pob achos yn unig ond gellir tybio bod achwynydd, a/neu unrhyw un sy’n gweithredu ar eu rhan, yn achwynydd cyson neu flinderus os yw ymwneud blaenorol neu bresennol gyda nhw yn dangos eu bod yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf isod, yn ddibynnol ar y graddau. 


Lle bo achwynydd:


-  yn mynnu parhau i fynd ar ôl cwyn wedi gweithredu Polisi Adborth Cwsmeriaid yr Awdurdod yn llawn (e.e. lle bo nifer o ymatebion wedi eu darparu) 


- yn newid natur eu cwyn neu’n codi agweddau newydd yn barhaus neu’n ceisio parhau’r cyswllt drwy grybwyll pryderon eraill neu ofyn cwestiynau eraill ar ôl cael ymateb wrth ymdrin â’r gŵyn.  Rhaid gofalu peidio ag anwybyddu unrhyw agweddau newydd sy’n sylweddol wahanol i’r gŵyn wreiddiol, gan y gall fod yn angenrheidiol ymdrin â nhw fel cwyn ar wahân. 

 
- yn anfodlon derbyn tystiolaeth ddogfennol. 


- yn gwadu derbyn ymateb digonol er gwaethaf tystiolaeth o ohebiaeth yn ateb eu cwestiynau yn benodol 


- ddim yn nodi’r union faterion y dymunant iddynt gael eu hymchwilio, er gwaethaf ymdrechion rhesymol y staaff i’w cynorthwyo i nodi eu pryderon


- yn codi pryderon nad cyfrifoldeb yr Awdurdod yw ymchwilio iddynt.  Er enghraifft, am eu bod yn ymwneud â chorff arall, megis yr Heddlu 


- yn canolbwyntio ar fater dibwys i’r fath raddau fel ei bod yn gwbl anghyfrannol i’w arwyddocad, ac yn parhau i ganolbwyntio ar y mater hwn.  Cydnabyddir bod penderfynu beth sy’n fater ‘dibwys’ yn medru bod yn oddrychol, a rhaid ystyried yn ofalus wrth ddefnyddio’r maen prawf hwn 


- yn ystod y broses o ymdrin â chwyn gofrestredig, wedi bod yn cysylltu â’r Awdurdod yn ormodol gan roi pwysau afresymol ar staff.  Gall hyn fod yn bersonol, drwy ffonio, llythyru, ffacsio neu anfon negeseuon e-bost.  Rhaid ystyried a barnu’n ofalus i benderfynu ar union nifer y ‘cysylltiadau gormodol’, ar sail amgylchiadau penodol pob achos unigol. 


- wedi aflonyddu ar neu fod yn ymosodol yn eiriol tuag at staff sy’n delio gyda’u cwyn neu eu cydweithwyr.  Rhaid i staff sylweddoli y gall achwynyddion weithredu yn groes i’w natur ar adegau pan font dan bwysau neu’n hynod bryderus, a dylid caniatáu goddefiadau rhesymol ar gyfer hyn.  Dylid cofnodi unrhyw ddigwyddiadau aflonyddu. 


- mewn achosion lle bo achwynydd neu eu cynrychiolydd wedi bygwth neu ddefnyddio trais corfforol yn erbyn staff.  Bydd hyn yn achosi rhoi’r gorau i gysylltu’n bersonol gyda’r achwynydd a/neu ei gynrychiolydd ac ymdrinir â’r gŵyn yn ysgrifenedig yn unig.  Rhaid cofnodi pob digwyddiad o’r fath a hysbysu’r heddlu am y mater. 


12.2 Delio gydag achwynyddion cyson neu flinderus


Pan fo achwynyddion wedi eu nodi fel rhai cyson neu flinderus bydd y Pennaeth Gwasanaeth priodol yn penderfynu sut i weithredu.  Byddant yn cyflwyno’r camau gweithredu ac yn hysbysu’r achwynyddion yn ysgrifenedig am y rhesymau pam eu bod wedi cael y statws yma a pha gamau gweithredu a weithredir.  Rhaid cadw cofnod gan y Swyddog Adborth Cwsmeriaid perthnasol i gyfeirio at yn y dyfodol, yn nodi’r rhesymau pam bod achwynydd wedi derbyn statws achwynydd cyson neu flinderus. 


Gall y gweithredu gynnwys:


- rhoi’r gorau i gysylltu gyda’r achwynydd yn bersonol, ar y ffôn, ffacs, e-bost neu lythyr neu unrhyw gyfuniad o’r rhain, cyn belled ag y parheir i gysylltu drwy un cyfrwng, neu gyfyngu’r cyswllt i gysylltu drwy drydydd parti.  Os yw’r staff yn mynd i roi’r gorau i gysylltu gydag achwynydd ar y ffôn yna paratoir datganiad cytunedig iddynt eu ddefnyddio petaent yn derbyn galwad ffôn gan yr achwynydd. 


- hysbysu’r achwynydd yn ysgrifenedig yr ymatebwyd yn llawn i’r pwyntiau a godwyd ganddynt ac y gwnaed pob ymdrech i ddatrys y gŵyn, ond nad oes unrhyw beth arall i’w ychwanegol ac na fydd parhau i gysylltu ynghylch y mater yn cyflawni unrhyw ddiben defnyddiol.  Dylid hysbysu’r achwynydd fod gohebiaeth ynghylch eu cwyn ac unrhyw gwynion pellach yn ymwneud â’r un cyfnod amser neu’r un mater neu faterion tebyg wedi dod i ben. 

 
- mewn achosion eithafol hysbysu’r achwynydd fod yr Awdurodd yn cadw’r hawl i drosglwyddo cwynion afresymol neu flinderus i gyfreithwyr yr Awdurd a allai arwain at weithredu cyfreithiol yn erbyn yr achwynydd.  Os dilynir y cam gweithredu hwn, dylid atal pob cyswllt gyda’r achwynydd tra’n ceisio cyngor cyfreithiol.
Cofnodir y penderfyniad fod achwynydd yn achwynydd cyson neu flinderus ar y system monitro cwynion ac adroddiad am hynny, heb gyfeirio at enwau, fel rhan o’r adroddiad Adborth Cwsmeriaid. 

 
12.3 Diddymu statws achwynydd cyson neu flinderus


Gellir diddymu’r statws hwn yn ddiweddarach, er enghraifft, os yw’r achwynydd yn dangos dull mwy rhesymol neu os ydynt yn cyflwyno cwyn arall yr ymddengys bod y gweithdrefnau cwyno arferol yn addas ar ei gyfer. 
Hefyd gall achwynyddio wneud cais i ddiddymu eu statws fel achwynydd cyson neu flinderus.  Pan ddigwydd hyn bydd y Prif Weithredwr a/neu Gyfarwyddwr nad yw’n ymwneud â’r gŵyn yn adolygu’r amgylchiadau ac yn gwneud penderfynaid p’un ai y dylid diddymu’r statws ai peidio. 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0