| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tywydd Crasboeth
Alt text

 Gall oerfel eithriadol fod yn farwol. Mae gwres eithriadol yr un fath, yn trethu’r corff y tu hwnt i’r hyn y gall ei ddioddef. Y rhesymau pennaf paham fod pobl a phlant yn dioddef oherwydd gwres yw eu bod wedi ei ddioddef yn ormodol, neu wedi ymarfer y corff yn rhy egnïol o ystyried eu hoed a chyflwr eu corff. Y rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau tywydd crasboeth yw’r henoed, plant ifanc, y rhai sy’n sâl, a’r rhai sy’n gorbwyso. Dyma’r hyn y dylech ei wneud i wrthsefyll tywydd crasboeth:  

  • Arhoswch dan do cymaint â phosib 
  • Os nad ydych wedi gosod system dymheru yn eich cartref, arhoswch ar y llawr isaf, allan o olwg yr haul. 
  • Cofiwch nad yw ffan drydan yn oeri’r ystafell: ei gwaith yw chwythu aer poeth o amgylch yr ystafell. 
  • Bwytwch brydau bwyd cytbwys ac ysgafn yn rheolaidd. Peidiwch â llyncu tabledi halen oni bo’ch meddyg wedi eich cynghori i wneud hynny.  
  • Yfwch digon o ddŵr yn rheolaidd, hyd yn oed pan na fyddwch yn sychedig. (Dylai’r rhai sy’n dioddef epilepsi neu anhwylder yn ymwneud â’r galon, yr arennau neu’r iau, y rhai â diet sy’n cynnwys diodydd penodol, neu’r rhai sy’n cael trafferth cadw hylif yn y corff ymgynghori â meddyg cyn yfed mwy na’r arfer o ddŵr). 
  • Peidiwch ag yfed gormod o alcohol, gan fod alcohol yn sychu’r corff. 
  • Peidiwch â gadael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain mewn cerbyd caeedig. 
  • Gwisgwch ddillad llac, a gorchuddio cymaint o’r corff â phosib.  Gwisgwch het lydan sy’n amddiffyn eich wyneb a’ch pen. 
  • Peidiwch ag aros yn llygaid yr haul am gyfnodau hir. Defnyddiwch eli haul SPF15 neu gryfach. 
  • Ceisiwch osgoi gwaith egnïol yn ystod cyfnod poethaf y dydd, a pheidiwch â gweithio ar eich pen eich hun mewn gwres eithriadol os yn bosibl. Manteisiwch ar seibiant rheolaidd pan fyddwch yn gweithio mewn gwres. 
  • Cadwch lygaid barcud ar eich perthnasau a’ch ffrindiau sy’n fregus, megis pobl oedrannus.  
  • Porwch trwy lyfrau Cymorth Cyntaf i gael gwybodaeth ynglyn â llosg haul, cramp gwres, lludded gwres neu drawiad gwres, a pharatowch ar gyfer cynorthwyo’r dioddefwyr.

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0