Gall eira trwm ac oerfel eithriadol atal pawb a phopeth rhag symud mewn ardal eang. Gall tywydd o’r fath ddigwydd hyd yn oed mewn ardaloedd sydd fel arfer yn mwynhau gaeafau mwyn. Sir arfordirol a gwledig yw Sir y Ddinbych yn bennaf, gyda llu o bentrefi a ffyrdd diarffordd. Peryglus iawn yw cael eich dal mewn storm eira. Serch hynny, gallwch wrthsefyll gerwinder y gaeaf – o’ch rhan chi a’r rhai sy’n byw gyda chi, yn ogystal â’ch cerbydau – trwy baratoi’n ofalus rhag llaw.
Gyrru Cerbyd yn ystod y Gaeaf
Yn ystod misoedd y gaeaf mae’r Cyngor Sir yn pennu’r ffyrdd y bydd angen eu graeanu pan fo eira a rhew wedi ei ddarogan. Da o beth yw meddu ar y wybodaeth hon os ydych yn gyrru yn ystod y tymor hwnnw.
Gyrrwch yn ofalus pan fo’r tywydd yn oer drybeilig, a pheidiwch â chymryd yn ganiataol bod gweithwyr y Cyngor Sir wedi graeanu’r ffyrdd, hyd yn oed os yw eira a rhew wedi’i ddarogan. Ni ellir gwarantu y bydd unrhyw ffordd heb eira neu rew arni.
- Gofynnwch y cwestiwn ‘A yw’r siwrne hon yn angenrheidiol?’: os nad ydyw, peidiwch â’i chyflawni.
- Holwch a oes modd defnyddio cludiant cyhoeddus.
- Edrychwch neu gwrandewch ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn ar eich taith.
- Defnyddiwch y rhwydwaith priffyrdd / traffyrdd i gyflawni’ch siwrne.
- Trefnwch ddigon o amser ar gyfer y daith.
- Taniwch beiriant y car am ychydig funudau cyn cychwyn i wneud yn siŵr fod ffenestr flaen y car yn glir.
- Gofalwch roi hylif gwrthrewydd yn rheiddiadur y car, a hylif sy’n gwrthsefyll rhew ar gyfer golchi’r ffenestr flaen.
- Gofalwch fod eich cerbyd mewn cyflwr da – golchwch y goleuadau a phob cyfeirydd yn rheolaidd.
- Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol i gael y newyddion teithio diweddaraf.
- Defnyddiwch oleuadau wedi eu gostwng pan fyddwch yn gyrru a hithau’n glawio, yn niwlog, neu pan fo’n bwrw eira.
- Gofalwch bod eich tanc petrol yn llawn gydol yr amser.
- Cadwch Becyn Argyfwng yn y car, rhag ichi ddioddef argyfwng; rhowch yr hyn a ganlyn yn y Pecyn:
- Côt gaeaf, het a menig neu fenig cau
- Esgidiau addas ar gyfer y gaeaf
- Blanced neu fag cysgu
- Fflachlamp a batris ychwanegol, neu fflachlamp y gellir ei weindio
- Rhaw
- Teclyn i grafu ffenestr flaen y car
- Radio a batris ychwanegol, neu radio y gellir ei weindio
- Dwr a thamaid i’w fwyta
- Rhaff neu gadwyn i dynnu’r car
- Gwifrau cyswllt er mwyn tanio batri’r car
- Ffôn poced a batris
Os byddwch wedi eich dal mewn lle anghysbell yn ystod storm aeafol, gwnewch yr hyn a ganlyn:
- Aros wrth ochr y ffordd, troi’ch goleuadau rhybudd ymlaen a chrogi fflag neu garthen ar erial y car neu allan o’r ffenestr.
- Arhoswch yn eich unfan yn y car, i hwyluso gwaith y rhai sy’n chwilio amdanoch. Ni ddylech adael y car ac eithrio os gwelwch adeiladau cyfagos y gwyddoch y gallwch lochesu ynddynt. Mae eira sy’n lluwchio’n ei gwneud yn anodd dirnad beth yw pellter: gall adeilad ymddangos yn bur agos, ond anodd iawn fyddai cerdded ato mewn eira dwfn.
- Taniwch y car a’r gwresogydd am tua 10 munud pob awr er mwyn cadw’ch gwres. Agorwch y ffenestr fymryn er mwyn sicrhau na chewch eich gwenwyno gan garbon monocsid. Gofalwch fod egsost y car heb ei dagu gan eira.
- Ceisiwch symud o gwmpas er mwyn cynnal gwres y corff, ond peidiwch â blino. Closiwch gyda’ch cyd-deithwyr, os yn briodol, a defnyddio’ch côt fel blanced
- Os yn briodol, cysgwch yn eich tro, er mwyn sicrhau bod un ohonoch yn gweld y gwasanaethau brys yn agosáu.
- Yfwch ddiodydd yn rheolaidd, er mwyn atal eich corff rhag sychu.
- Gofalwch rhag defnyddio batri’r car yn ddiangen, ond defnyddiwch y golau mewnol pan wyddoch fod y gwasanaethau brys gerllaw.
- Cludwch gannwyll yn y car, a rhywbeth i’w thanio. Gadewch y ffenestr yn gilagored.
Difogelu’ch cartref ar gyfer y gaea
Paratowch ar gyfer sefyllfa sy’n eich gorfodi i aros yn y ty, ar eich pen eich hun heb unrhyw gymorth, am o leiaf tri diwrnod. Paratowch Becyn Argyfwng sy’n cynnwys eitemau ar gyfer y gaeaf, megis halen i ddadmer rhew, tywod i roi o dan olwynion y car mewn eira, rhaw neu offer arall i gael gwared ar eira. Paratowch gyflenwad o fwyd, a dŵr i’w yfed. Gweler adran ‘Pecyn Argyfwng’ y llyfryn hwn.
Os yw eich ty mewn lle anghysbell, dyma gyngor doeth:
- Gofalwch bod gennych gyflenwad digonol o danwydd ar gyfer gwresogi’r ty rhag ichi fethu â chael mwy. Trefnwch offer cynhesu ychwanegol, yn ogystal â thanwydd ar ei gyfer, rhag i’r cyflenwad trydan ddiffodd. Enghreifftiau o offer ychwanegol yw tân nwy symudol, stôf llosgi coed, lle tân traddodiadol, neu wresogydd paraffîn. Gofalwch fod pob gwresogydd o leiaf tair troedfedd o ddefnyddiau llosgadwy. Gofalwch eich bod yn awyru ystafelloedd lle defnyddir gwresogyddion paraffîn i atal mygdarth gwenwynig rhag crynhoi, ac ail-lenwi’r teclyn y tu allan i’r ty. Gosodwch offer diffodd tân yn y ty, a gofalu bod pawb sy’n byw yno’n gwybod sut i’w defnyddio. Peidiwch â llosgi siarcol y tu fewn i’r ty.
- Gofalwch fod waliau’r ty, a’r groglofft, wedi eu hinswleiddio’n dda cyn y gaeaf.
- Pan fo’n storm, gwrandewch ar eich gorsaf radio leol, neu edrychwch ar y teledu, i glywed adroddiadau ynglyn â’r tywydd a gwybodaeth frys.
- Bwytwch yn rheolaidd, ac yfed digon o ddiodydd heblaw caffein ac alcohol.
- Gwisgwch ddillad sy’n briodol ar gyfer y gaeaf, sef nifer o haenau llac, ysgafn a chynnes yn hytrach nag un haen o ddillad trwchus. Dylai’r haen allanol fedru atal dŵr. Mae menig cau yn well na menig. Gwisgwch het neu gap gydol yr amser, oherwydd trwy’ch corun y bydd gwres y corff yn dianc.
- Peidiwch ag ymdrechu’n rhy galed pan fyddwch yn clirio eira – gall achosi trawiad ar y galon.
- Gofalwch rhag dioddef ewinrhew: yr arwyddion yw methu â theimlo gwrthrychau, a blaen eich bysedd neu fysedd eich traed yn troi’n wyn neu’n welw. Os gwelwch yr arwyddion hynny ceisiwch gymorth meddygol ar fyrder.
Gofalwch rhag dioddef hypothermia. Yr arwyddion yw crynu’n ddireol, anghofio pethau, wedi ffwndro’n lân, eich lleferydd ar chwâl, syrthni, ac wedi blino’n lân. Os yw’r arwyddion hynny’n amlwg, ewch â’r claf i le cynnes, diosg ei ddillad gwlyb a cheisio cynhesu canol y corff yn gyntaf trwy gyfrwng diod boeth di-alcohol os yw’r claf yn ymwybodol. Ceisiwch gymorth meddygol cyn gynted ag y bo modd


Rhoi adborth ar y tudalen hon