| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Y Rhyl Yn Symud Ymlaen - Edward Henry Street
Golygfa o'r adeilad o'r ffordd

Mewn ymgais i ail-ddefnyddio rhai o adeiladau hynaf y Rhyl ac ar yr un pryd ailwampio rhai o’r eiddo sydd wedi dechrau dadfeilio yn y Rhyl, mae’r Cyngor Sir, gyda chymorth ei bartneriaid, wedi sicrhau cyllid ar gyfer cynllun £1.4 miliwn. Mae tri eiddo yng ngorllewin y Rhyl, 14,16,18 Edward Henry Street wedi eu prynu.  Mae 14 wedi ei ddymchwel ac mae 16-18 yn derbyn gwaith cadwraeth er mwyn trosi’r tai amlfeddiannaeth hwn yn unedau busnes micro ar gyfer cwmnïau newydd, ynghyd â chyfleusterau cymunedol.  Bydd hyn nid yn unig yn creu cyfle gwaith ond bydd hefyd yn gwella golwg y stryd yn Edward Henry Street.

Mae’r partneriaid ariannu yn cynnwys Cyngor Sir Ddinbych, Cronfeydd UE Amcan 1, grantiau Cynulliad Cymru a Grantiau Menter Treftadaeth Trefwedd a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Darluniwyd y stryd hon ym 1929 a’i pheintio ym 1933 gan L S Lowry ac mae tebygolrwydd hynod i’w gweld rhwng bryd hynny a nawr.

Isod mae lluniau o’r adeiladau cyn cychwyn ar y gwaith a lluniau o’r gwaith adeiladu wrth iddo fynd rhagddo.

Manylion cyswllt: Swyddog y Rhyl yn Symud Ymlaen - 01824 708017

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0