| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cofrestru Llefydd Bwyd

Cofrestru Llefydd Bwyd

Beth Ydy Cofrestru?

1. Mae’n rhaid cofrestru llefydd a ddefnyddir ar gyfer busnes bwyd (yn cynnwys stondinau marchnad, cerbydau dosbarthu ac adeileddau symudol eraill) yn ôl y gyfraith.  Bydd cofrestru yn caniatáu i Awdurdodau Lleol gadw rhestr gyfredol o’r holl lefydd hynny yn eu hardal fel eu bod yn gallu ymweld â hwy pan fydd angen iddynt wneud hynny.  Bydd amlder yr ymweliadau yn dibynnu ar y math o fusnes.


Pwy Sydd Angen Cofrestru?

2. Os ydych yn rhedeg busnes bwyd am 5 diwrnod neu fwy mewn unrhyw 5 wythnos olynol, mae’n rhaid ichi ddweud (neu drefnu i rywun arall ddweud) wrth yr Awdurdod Lleol am unrhyw lefydd yr ydych yn eu defnyddio i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd. Mae llefydd bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, cantinau staff, ceginau mewn swyddfeydd, stordai, lletyau, cerbydau dosbarthu, cerbydau bwffe ar drenau, stondinau marchnad a stondinau eraill, faniau cwn poeth a hufen ia ayb.

3. Os ydych yn defnyddio cerbydau ar gyfer eich busnes bwyd ar y cyd â llefydd parhaol megis siop, neu stordy does ond angen ichi ddweud wrth yr awdurdod lleol faint o gerbydau sydd gennych.  Nid oes angen ichi gofrestru pob cerbyd ar wahân. Os oes gennych un neu fwy o gerbydau ond dim adeiladau parhaol, rhaid ichi ddweud wrth yr Awdurdod Lleol ble cânt eu cadw fel rheol.

4. Rhaid i unrhyw un sy’n cychwyn busnes bwyd newydd gofrestru â’r Awdurdod Lleol o leiaf 28 diwrnod cyn gwneud hynny.

5. Bydd yn rhaid cofrestru’r rhan fwyaf o lefydd.  Er hynny, mae rhai lefydd wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru e.e.: rhai sydd eisoes wedi’u cofrestru at ddibenion cyfraith bwyd, rhai llefydd amaethyddol, ceir modur, pebyll a phebyll mawrion (ond nid stondinau), rhai cartrefi a rhai neuaddau pentref.  Fe ddylech gysylltu â’ch Awdurdod Lleol os tybiwch y gallech fod yn eithriedig.


 Sut Mae Cofrestru ?

6. Drwy lwytho’r ffurflen gofrestru bwyd a restrir isod i lawr.  Ni ellir gwrthod eich cofrestru ac ni chodir tâl.  Rhaid anfon y ffurflen gofrestru i’ch Awdurdod Lleol - mae manylion cysylltu wedi’u darparu ar Dudalen Gartref Diogelwch Bwyd. Os ydych yn defnyddio llefydd yn ardal mwy nag un Awdurdod Lleol, rhaid ichi gofrestru â phob Awdurdod ar wahân.
 Ar ôl ei llenwi dylech arwyddo’r ffurflen a’i dychwelyd i Dîm Diogelwch Bwyd Cyngor Sir Ddinbych.

7. Rhaid ichi dicio’r holl flychau sy’n berthnasol i’ch busnes, ateb yr holl gwestiynau a rhoi’r holl wybodaeth y gofynnwn amdani.  Dylai busnesau tymhorol sy’n gweithredu am gyfnod penodol bob blwyddyn roi’r dyddiadau y byddant yn agored rhyngddynt yn ateb i gwestiwn 9.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau fe wna eich Awdurdod Lleol eich helpu.  Mae’n drosedd rhoi gwybodaeth y gwyddoch ei bod yn anghywir.


 Beth Sy’n Digwydd i’r Wybodaeth A Roddir Ar y Ffurflen?
 
8. Bydd yr Awdurdod Lleol yn cofnodi’r manylion ar ei Gofrestr.  Bydd cofrestr o’r enwau a’r cyfeiriadau a natur y busnes sy’n cael ei gynnal ym mhob un yn agored i’w harchwilio gan y cyhoedd.  Ni fydd cofnodion o’r wybodaeth arall a ddarperir ar gael yn gyhoeddus.


 Newidiadau

9. Unwaith y byddwch wedi cofrestru â’r Awdurdod Lleol does ond angen ichi eu hysbysu o newid perchennog, os ydy natur y busnes yn newid, neu os oes newid yn y cyfeiriad ble cedwir llefydd symudol.  Bydd rhaid i’r perchennog newydd gwblhau ffurflen gais.

10. Os ydy’r awdurdod lleol yn dymuno newid y cofnod yn y Gofrestr oherwydd gwybodaeth a dderbynia gan rywun arall byddwch yn cael 28 diwrnod o rybudd a chyfle i wneud sylwadau ynghylch y newid arfaethedig.


Er gwybodaeth yn unig y darperir y nodiadau hyn - ac ni ddylid eu hystyried fel datganiad llawn o’r gyfraith.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0