Mae treth y cyngor yn ddyledus ar bob annedd nad yw'n eithriedig. Mae sawl dosbarth o annedd wedi'u heithrio rhag treth y cyngor. Gall annedd newid o fod yn annedd drethadwy yn annedd eithriedig (neu i'r gwrthwyneb) yn ystod y flwyddyn. Mewn achos o'r fath nid yw treth y cyngor ond yn ddyledus yn ystod y cyfnod neu'r cyfnodau pan yw'n drethadwy, a chaiff y swm ei weithio fesul diwrnod. Nid oes gan awdurdodau bilio ddim disgresiwn i amrywio'r dosbarthiadau eithriedig hyn, ac ni chânt estyn y terfynau amser sy'n berthnasol o ran rhai o'r dosbarthiadau ychwaith. Mae nifer o'r dosbarthiadau'n ymwneud ag anheddau "gwag" ac, yn rhai o'r achosion, rhaid i'r annedd hefyd fod yn "ddiddodrefn i raddau helaeth".
Dosbarth A - Eiddo sy’n anaddas i fyw ynddo neu ag angen gwaith atgyweirio sylweddol
(pdf, 22.07 KB) Dosbarth A - Eiddo sy’n anaddas i fyw ynddo neu ag angen gwaith atgyweirio sylweddol
Mae eiddo gwag sydd ag angen neu wrthi’n cael ei atgyweirio’n sylweddol, neu ag angen newidiadau saernïol fel bod modd byw ynddo wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor am hyd at 12 mis.
Mae’r amgylchiadau ble mae’r rhyddhad yma wedi’i ganiatáu yn cynnwys ymsuddiant neu ddifrod mawr gan dân neu lifogydd.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o :-
*y dyddiad o ba bryd y daeth yr eiddo’n anaddas i fyw ynddo
*cyflwr yr eiddo
*a natur y gwaith sydd ei angen.
*cyfeiriad a rhif ffôn ble gallwn gysylltu â chi, gan y gall fod angen inni weld tu mewn yr eiddo.
Caiff pob eiddo gwag ei archwilio o dro i dro.
Dosbarth A - Nodiadau Ychwanegol
(pdf, 25.47 KB) Dosbarth A - Eiddo sy’n anaddas i fyw ynddo neu ag angen gwaith atgyweirio sylweddol
Mae eiddo gwag sydd ag angen neu wrthi’n cael ei atgyweirio’n sylweddol, neu ag angen newidiadau saernïol fel bod modd byw ynddo wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor am hyd at 12 mis.
Mae’r amgylchiadau ble mae’r rhyddhad yma wedi’i ganiatáu yn cynnwys ymsuddiant neu ddifrod mawr gan dân neu lifogydd.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o :-
*y dyddiad o ba bryd y daeth yr eiddo’n anaddas i fyw ynddo
*cyflwr yr eiddo
*a natur y gwaith sydd ei angen.
*cyfeiriad a rhif ffôn ble gallwn gysylltu â chi, gan y gall fod angen inni weld tu mewn yr eiddo.
Caiff pob eiddo gwag ei archwilio o dro i dro.
Dosbarth B - Eiddo y mae Elusennau’n Berchen Arno
(pdf, 21.44 KB) Dosbarth B - Eiddo y mae Elusennau’n Berchen Arno
Mae eiddo gwag y mae elusen yn berchen arno wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor am hyd at 6 mis. Os erys yr eiddo’n wag unwaith y mae’r cyfnod cyntaf hwn o 6 mis wedi mynd heibio, Treth y Cyngor yn cael ei godi yn ôl 100% o’r tâl llawn.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r dyddiad o ba bryd y bu’r eiddo’n wag a chyfeiriad a rhif ffôn ble gallwn gysylltu â chi, gan y gall fod angen inni weld tu mewn yr eiddo. Caiff pob eiddo gwag ei archwilio o dro i dro.
Dosbarth C - Eiddo Gwag ac Eiddo sy’n Ddiddodrefn i Raddau Helaeth
(pdf, 21.21 KB) Dosbarth C - Eiddo Gwag ac Eiddo sy’n Ddiddodrefn i Raddau Helaeth
Mae eiddo sy’n wag ac yn ddiddodrefn i raddau helaeth wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor am hyd at 6 mis. Os erys yr eiddo’n wag unwaith y mae’r cyfnod cyntaf hwn o 6 mis wedi mynd heibio, bydd Treth y Cyngor yn cael ei godi ar dâl llawn.
Nodwch os gwelwch yn dda fod y rhyddhad ond yn rhedeg am 6 mis o’r dyddiad y gadawyd yr eiddo’n wag yn gyntaf. Ni fyddai dim cyfnod 'am ddim' ychwanegol yn cael ei ganiatáu yn dilyn newid trethdalwr cyngor neu berchennog.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r dyddiad o ba bryd y bu’r eiddo’n wag a chyfeiriad a rhif ffôn ble gallwn gysylltu â chi, gan y gall fod angen inni weld tu mewn yr eiddo. Caiff pob eiddo gwag ei archwilio o dro i dro.
Dosbarth D - Eiddo a Adawyd yn Wag gan Garcharorion
(pdf, 22.05 KB) Dosbarth D - Eiddo a Adawyd yn Wag gan Garcharorion
Mae eiddo a adawyd yn wag am fod Trethdalwr y Cyngor wedi’i draddodi i garchar, ysbyty neu le arall trwy orchymyn llys wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor hyd ddiwedd eu carchariad. Ni fyddai’r rhyddhad yma’n berthnasol ble mae’r Trethdalwr wedi’i garcharu am beidio â thalu dirwyon neu beidio â thalu Treth y Cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o:-
*enw’r sawl sy’n cael ei gadw’n gaeth
*y dyddiad o ba bryd y’i cadwyd yn gaeth
*a chyfeiriad llawn y carchar neu’r ganolfan gadw.
Byddem yn cysylltu â’r carchar neu’r ganolfan gadw cyn caniatáu’r rhyddhad.
Dosbarth E - Eiddo a adawyd yn wag gan gleifion sy’n preswylio mewn ysbyty, hostel, cartref nyrsio n
(pdf, 21.99 KB) Dosbarth E - Eiddo a adawyd yn wag gan gleifion sy’n preswylio mewn ysbyty, hostel, cartref nyrsio neu gartref gofal
Mae eiddo a adawyd yn wag am fod trethdalwr y cyngor yn preswylio’n barhaol yn awr mewn ysbyty, hostel, cartref nyrsio neu gartref gofal wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor. Dim ond pan fo’r sefyllfa’n un barhaol, neu y tybir ei bod yn barhaol, y mae’r rhyddhad yma’n ddyledus. Pan fydd y person yn aros dros dro mewn ysbyty, neu mewn gofal seibiant, ni fyddai’r rhyddhad yn berthnasol.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r:-
*dyddiad y gadawodd yr unigolyn ei gartref ei hun i breswylio’n barhaol mewn ysbyty, hostel, cartref nyrsio neu gartref gofal
*y cyfeiriad y mae’r trethdalwr yn byw yn awr
*ac enw a chyfeiriad y gellir cysylltu ag ef.
Caiff pob rhyddhad ei adolygu o dro i dro a bydd angen inni gysylltu â rhywun i gadarnhau bod y rhyddhad yn dal yn ddyledus.
Dosbarth F - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sydd wedi marw
(pdf, 21.47 KB) Dosbarth F - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sydd wedi marw
Mae eiddo a adawyd yn wag yn dilyn marwolaeth Trethdalwr y Cyngor wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor hyd at chwe mis ar ôl i brofiant gael ei ganiatáu.
Os ydi’r eiddo’n aros yn wag o’r dyddiad y caniateir profiant, ni fydd unrhyw Dreth Cyngor yn ddyledus am hyd at 6 mis. Os erys yr eiddo’n wag unwaith y mae’r cyfnod cyntaf hwn o 6 mis wedi mynd heibio, bydd Treth y Cyngor yn cael ei godi yn ôl 100% ar dâl llawn.
I wneud cais am y rhyddhad yma, a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o ddyddiad y farwolaeth ac enw a chyfeiriad y sawl sy’n trin y stad.
Unwaith y bydd profiant wedi’i ganiatáu, a wnewch chi roi gwybod y dyddiad inni ynghyd ag enw a chyfeiriad y sawl y trosglwyddwyd perchenogaeth yr eiddo iddo neu iddi, os gwelwch yn dda.
Dosbarth F - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sydd wedi marw
(pdf, 21.97 KB) Dosbarth F - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sydd wedi marw
Mae eiddo a adawyd yn wag yn dilyn marwolaeth Trethdalwr y Cyngor wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor hyd at chwe mis ar ôl i brofiant gael ei ganiatáu.
Os ydi’r eiddo’n aros yn wag o’r dyddiad y caniateir profiant, ni fydd unrhyw Dreth Cyngor yn ddyledus am hyd at 6 mis. Os erys yr eiddo’n wag unwaith y mae’r cyfnod cyntaf hwn o 6 mis wedi mynd heibio, bydd Treth y Cyngor yn cael ei godi yn ôl 100% ar dâl llawn.
I wneud cais am y rhyddhad yma, a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o ddyddiad y farwolaeth ac enw a chyfeiriad y sawl sy’n trin y stad.
Unwaith y bydd profiant wedi’i ganiatáu, a wnewch chi roi gwybod y dyddiad inni ynghyd ag enw a chyfeiriad y sawl y trosglwyddwyd perchenogaeth yr eiddo iddo neu iddi, os gwelwch yn dda.
Dosbarth G - Eiddo ble gwaherddir i neb fyw ynddo trwy gyfraith
(pdf, 21.82 KB) Dosbarth G - Eiddo ble gwaherddir i neb fyw ynddo trwy gyfraith
Mae eiddo ble gwaherddir i neb fyw ynddo trwy gyfraith wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor. Ond os byddai rhywun i fyw mewn eiddo o’r fath yn anghyfreithlon byddai rhwymedigaeth i Dreth y Cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r dyddiad y gwaharddwyd byw ynddo a chyflenwi manylion paham y gwaherddir i neb fyw yno. Bydd angen inni weld tystiolaeth o’r gwaharddiad cyn y caiff unrhyw ryddhad ei ddyfarnu.
Dosbarth G (nodiadau) - Eiddo ble gwaherddir i neb fyw ynddo trwy gyfraith
(pdf, 22.30 KB) Dosbarth G - Eiddo ble gwaherddir i neb fyw ynddo trwy gyfraith
Mae eiddo ble gwaherddir i neb fyw ynddo trwy gyfraith wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor. Ond os byddai rhywun i fyw mewn eiddo o’r fath yn anghyfreithlon byddai rhwymedigaeth i Dreth y Cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r dyddiad y gwaharddwyd byw ynddo a chyflenwi manylion paham y gwaherddir i neb fyw yno. Bydd angen inni weld tystiolaeth o’r gwaharddiad cyn y caiff unrhyw ryddhad ei ddyfarnu.
Dosbarth H - Eiddo sy’n aros i weinidog yr efengyl ddod i fyw ynddo
(pdf, 21.73 KB) Dosbarth H - Eiddo sy’n aros i weinidog yr efengyl ddod i fyw ynddo
Mae eiddo gwag a ddelir ar gyfer gweinidog yr efengyl wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae’r rhyddhad yn berthnasol i eiddo a ddelir ar gyfer gweinidog unrhyw enwad crefyddol fel preswylfa o ble y byddant yn cyflawni dyletswyddau eu swydd.
I wneud cais am y rhyddhad yma, ysgrifennwch at y Gwasanaethau Refeniw ac anfon cadarnhad ysgrifenedig gan y corff crefyddol dan sylw a chwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda.
Dosbarth I - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sy’n byw yn rhywle arall i dderbyn gofal
(pdf, 21.95 KB) Dosbarth I - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sy’n byw yn rhywle arall i dderbyn gofal
Mae eiddo a adawyd yn wag am fod y perchennog neu’r tenant wedi mynd i fyw yn rhywle arall i dderbyn gofal wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.
Rhaid i’r person fod yn byw yn rhywle arall i dderbyn gofal personol oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn awr neu yn y gorffennol, neu anhwylder meddwl yn awr neu yn y gorffennol.
Bydd y rhyddhad ond yn berthnasol ble oedd y person sy’n byw yn rhywle arall yn awr i dderbyn gofal, yn ddeiliad gwirioneddol olaf yr eiddo ac a fyddai fel arall yn dal i fod yr un sy’n atebol i dalu treth y cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma, a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r :-
*dyddiad y gadawyd yr eiddo yn wag
*y rheswm paham y mae angen gofal ar y person
*a’u cyfeiriad ar hyn o bryd.
Dosbarth J - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sy’n byw yn rhywle arall i ddarparu gofal i rywun arall
(pdf, 21.89 KB) Dosbarth J - Eiddo a adawyd yn wag gan bobl sy’n byw yn rhywle arall i ddarparu gofal i rywun arall
Mae eiddo a adawyd yn wag am fod y perchennog neu’r tenant wedi mynd i fyw yn rhywle arall i ddarparu gofal i rywun arall wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.
Rhaid i’r person fod yn byw yn rhywle arall er mwyn darparu gofal personol ar gyfer rhywun sydd ag angen gofal oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn awr neu yn y gorffennol, neu anhwylder meddwl yn awr neu yn y gorffennol. Nid oes rhaid i’r sawl sy’n darparu gofal fod yn byw â’r sawl y maent yn darparu gofal personol ar eu cyfer, fe allent fyw gerllaw. Ond mae’n rhaid i’r gofalwr fod mewn gwell sefyllfa i ddarparu gofal o’u cyfeiriad newydd nag oeddynt o’u hen gyfeiriad.
Bydd y rhyddhad ond yn berthnasol ble oedd y person, sy’n awr yn byw yn rhywle arall i ddarparu gofal, yn ddeiliad gwirioneddol olaf yr eiddo ac a fyddai fel arall yn dal i fod yr un sy’n atebol i dalu treth y cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma, a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig os gwelwch yn dda i’n hysbysu o’r :-
*dyddiad y gadawyd eich eiddo yn wag
*eich cyfeiriad anfon ymlaen
*enw a chyfeiriad y sawl sy’n derbyn gofal
*a’r rheswm paham y mae angen gofal ar y person hwnnw.
Dosbarth K - Eiddo a adawyd yn wag gan fyfyrwyr amser llawn
(pdf, 43.94 KB) Dosbarth K - Eiddo a adawyd yn wag gan fyfyrwyr amser llawn
At ddibenion Treth y Cyngor caiff cyfeiriad myfyrwyr yn ystod y tymor ei ystyried fel eu prif breswylfa. Byddai eiddo a adawyd yn wag gan fyfyriwr amser llawn, tra’n astudio yn rhywle arall, wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
Mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn 'brif breswylfa' y myfyriwr(wyr) cyn dod yn wag, neu y daeth y Trethdalwr(wyr) Cyngor atebol yn fyfyriwr(wyr) o fewn 6 wythnos i adael yr eiddo’n wag. Os bu preswylwyr eraill, nad ydynt yn fyfyrwyr, yn byw yn yr eiddo cyn iddo ddod yn wag, ni fyddai’r rhyddhad yn berthnasol.
Byddai’r rhyddhad ond yn para hyd ddiwedd y cwrs amser llawn. At ddibenion Treth y Cyngor rhaid i gwrs amser llawn bara am flwyddyn academaidd o leiaf, cymryd mwy na 24 wythnos yn y flwyddyn honno a golygu mwy na 21 awr yr wythnos o astudio.
I wneud cais am y rhyddhad yma cwblhewch a dychwelwch y ffurflen amgaeëdig a bydd angen inni weld y Dystysgrif/Tystysgrifau Myfyriwr. Mae’r Dystysgrif Myfyriwr i’w chael gan weinyddwr y myfyrwyr yn y brifysgol neu’r coleg a byddai’n cadarnhau statws amser llawn a hyd y cwrs. Ni fydd llythyrau derbyn ar gwrs yn ddigonol i hawlio’r disgownt. Bydd rhyddhad ond yn cael ei ganiatáu unwaith y byddwn wedi gweld Tystysgrif(au) Myfyriwr swyddogol.
Dosbarth K (nodiadau)- Eiddo a adawyd yn wag gan fyfyrwyr amser llawn
(pdf, 22.22 KB) Dosbarth K - Eiddo a adawyd yn wag gan fyfyrwyr amser llawn
At ddibenion Treth y Cyngor caiff cyfeiriad myfyrwyr yn ystod y tymor ei ystyried fel eu prif breswylfa. Byddai eiddo a adawyd yn wag gan fyfyriwr amser llawn, tra’n astudio yn rhywle arall, wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
Mae’n rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn 'brif breswylfa' y myfyriwr(wyr) cyn dod yn wag, neu y daeth y Trethdalwr(wyr) Cyngor atebol yn fyfyriwr(wyr) o fewn 6 wythnos i adael yr eiddo’n wag. Os bu preswylwyr eraill, nad ydynt yn fyfyrwyr, yn byw yn yr eiddo cyn iddo ddod yn wag, ni fyddai’r rhyddhad yn berthnasol.
Byddai’r rhyddhad ond yn para hyd ddiwedd y cwrs amser llawn. At ddibenion Treth y Cyngor rhaid i gwrs amser llawn bara am flwyddyn academaidd o leiaf, cymryd mwy na 24 wythnos yn y flwyddyn honno a golygu mwy na 21 awr yr wythnos o astudio.
I wneud cais am y rhyddhad yma cwblhewch a dychwelwch y ffurflen amgaeëdig a bydd angen inni weld y Dystysgrif/Tystysgrifau Myfyriwr. Mae’r Dystysgrif Myfyriwr i’w chael gan weinyddwr y myfyrwyr yn y brifysgol neu’r coleg a byddai’n cadarnhau statws amser llawn a hyd y cwrs. Ni fydd llythyrau derbyn ar gwrs yn ddigonol i hawlio’r disgownt. Bydd rhyddhad ond yn cael ei ganiatáu unwaith y byddwn wedi gweld Tystysgrif(au) Myfyriwr swyddogol.
Dosbarth L - Eiddo a ailfeddiannwyd oddi wrth y cyn-forgeiswyr
(pdf, 21.79 KB) Dosbarth L - Eiddo a ailfeddiannwyd oddi wrth y cyn-forgeiswyr
Mae eiddo gwag ble mae benthyciwr y morgais wedi ailfeddiannu’r eiddo oddi wrth y morgeisiwr, y sawl y caniatawyd y benthyciad iddo, wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
Nid ydi meddiannu gan y benthyciwr yn golygu newid yn y ddeiliadaeth, felly bydd y morgeisiwr yn parhau’n Drethdalwr Cyngor atebol er y byddai rhyddhad yn dod i rym o ddyddiad yr ailfeddiannu ar yr amod bod yr eiddo yn wag. Os yw’r eiddo’n parhau â rhywun yn byw ynddo ar ôl gwneud y gorchymyn ailfeddiannu, bydd rhwymedigaeth i Dreth y Cyngor yn parhau, yn y ffordd arferol, hyd nes bydd yr eiddo’n cael ei adael yn wag. Byddai rhyddhad Treth y Cyngor ar yr eiddo gwag yn parhau hyd nes y caiff meddiant benthyciwr y morgais ei derfynu neu y caiff yr eiddo ei werthu.
Ni fyddai’r morgeisiwr yn dewis gadael yr eiddo yn ddigon i’r rhyddhad yma ddod i rym. Mae’n rhaid bod gorchymyn ailfeddiannu wedi’i wneud i’r rhyddhad gael ei ganiatáu.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig a darparu tystiolaeth gan fenthyciwr y morgais fod gorchymyn ailfeddiannu wedi’i wneud, os gwelwch yn dda.
Dosbarth M - Neuaddau preswyl ble mae myfyrwyr yn byw
(pdf, 22.10 KB) Dosbarth M - Neuaddau preswyl ble mae myfyrwyr yn byw
Mae neuaddau preswyl ar gyfer myfyrwyr wedi’u heithrio rhag Treth y Cyngor.
Rhaid i’r Neuaddau fod â myfyrwyr mewn addysg bellach neu uwch yn byw ynddynt gan mwyaf a rhaid i sefydliad neu elusen addysgol benodedig fod yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.
I wneud cais am y rhyddhad yma, a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig fel y gallwn drefnu i ymweld â’r eiddo os gwelwch yn dda.
Dosbarth N - Eiddo ble mae’r holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn
(pdf, 43.72 KB) Dosbarth N - Eiddo ble mae’r holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn
At ddibenion Treth y Cyngor caiff cyfeiriad myfyrwyr yn ystod y tymor ei ystyried fel eu prif breswylfa. Byddai eiddo ble mae’r unig breswylydd yn fyfyriwr amser llawn, neu’r holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn, wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
At ddibenion Treth y Cyngor rhaid i gwrs amser llawn bara am flwyddyn academaidd o leiaf, cymryd mwy na 24 wythnos yn y flwyddyn honno a golygu mwy na 21 awr yr wythnos o astudio.
At ddibenion Treth y Cyngor mae’r bobl ganlynol hefyd yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr amser llawn :-
*Disgyblion ysgol dan 20 mlwydd oed y mae budd-dâl plant yn dal yn daladwy ar eu cyfer. Bydd y rheini dan 20 mlwydd oed sy’n ymadael â’r ysgol ar ôl 30 Ebrill yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr amser llawn tan 1 Tachwedd y flwyddyn honno.
*Y rheini dan 20 mlwydd oed ar gwrs sy’n gymwys mewn ysgol neu goleg hyd at safon lefel A, ONC neu OND. Rhaid i’w cwrs bara am fwy na 3 mis a golygu 12 awr yr wythnos o astudio.
*Darpar Nyrsys, ar ôl derbyn tystysgrif myfyriwr
*a Chynorthwywyr Iaith Dramor a benodwyd i ysgol neu sefydliad addysgol arall ym Mhrydain Fawr ac a gofrestrwyd gyda Swyddfa Ganolog Ymweliadau a Chyfnewidiadau Addysgol.
Nodwch os gwelwch yn dda pe byddai pedwar preswylydd mewn eiddo a bod naill ai un neu ddau ohonynt yn fyfyrwyr amser llawn, byddai swm llawn Treth y Cyngor yn dal yn daladwy. Pe byddai tri o’r pedwar preswylydd yn fyfyrwyr amser llawn byddai disgownt o 25% yn cael ei ganiatáu.
I wneud cais am y rhyddhad yma bydd angen inni weld y Dystysgrif Myfyriwr ar gyfer pob un myfyriwr unigol sy’n byw yn yr eiddo. Mae’r Dystysgrif Myfyriwr i’w chael gan weinyddwr y myfyrwyr yn y brifysgol neu’r coleg a byddai’n cadarnhau statws amser llawn a hyd y cwrs. Ni fydd llythyrau derbyn ar gwrs yn ddigonol i hawlio’r rhyddhad. Bydd rhyddhad ond yn cael ei ganiatáu unwaith y byddwn wedi gweld y Dystysgrif/ Tystysgrifau Myfyriwr swyddogol.
Gwþr neu Wragedd Priod nad ydynt yn Brydeinig i fyfyrwyr amser llawn
Nid ydi priod neu ddibynnydd myfyriwr amser llawn yn cael ei gyfrif fel preswylydd at ddibenion Treth y Cyngor ble nad ydi’r priod neu’r dibynnydd yn Ddinesydd Prydeinig a ble’i rhwystrir gan reoliadau mewnfudo rhag cymryd gwaith cyflogedig neu rhag hawlio budd-dâl. Byddai’r priod, neu’r dibynnydd nad yw’n Brydeinig, yn cael eu hystyried at ddibenion Treth y Cyngor fel petaent hwythau hefyd yn fyfyrwyr amser llawn. O’r herwydd ble nad oes ond myfyriwr amser llawn a’u priod, neu ddibynnydd nad ydynt yn Brydeinig yn byw mewn eiddo, byddid yn caniatáu rhyddhad yn erbyn y rhwymedigaeth i Dreth y Cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma cwblhewch a dychwelwch y ffurflen amgaeëdig a bydd angen inni weld y Dystysgrif Myfyriwr fel yr eglurwyd uchod. Ar gyfer y priod neu’r dibynnydd nad yw’n Brydeinig bydd angen inni weld cadarnhad o’u statws mewnfudo.
Bydd rhyddhad ond yn cael ei ganiatáu unwaith y byddwn wedi gweld y dystysgrif Myfyriwr a’r prawf o’r statws mewnfudo, y naill a’r llall.
Dosbarth N (nodiadau) - Eiddo ble mae’r holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn
(pdf, 22.31 KB) Dosbarth N - Eiddo ble mae’r holl breswylwyr yn fyfyrwyr amser llawn

Dosbarth O - Eiddo y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen arno ar gyfer llety i’r lluoedd arfog
(pdf, 22.08 KB) Dosbarth O - Eiddo y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen arno ar gyfer llety i’r lluoedd arfog
Mae eiddo y mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen arno i’w ddefnyddio fel llety i’r lluoedd arfog wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
Er nad ydi’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael ei 'bilio' yn uniongyrchol am yr eiddo yma gan y Cyngor, derbynnir tâl oddi wrth y Weinyddiaeth fel bod y Cyngor yn cael ei ad-dalu’n llawn am Dreth y Cyngor ar yr eiddo yma.
Dosbarth P - Eiddo ble mae dim ond aelodau lluoedd arfog sy’n ymweld a’u dibynyddion yn byw
(pdf, 22.25 KB) Dosbarth P - Eiddo ble mae dim ond aelodau lluoedd arfog sy’n ymweld a’u dibynyddion yn byw
Byddai eiddo wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor os ydi’r Trethdalwr Cyngor atebol yn aelod, neu’n ddibynnydd sydd heb fod yn Brydeinig i aelod o lu arfog sy’n ymweld o wlad y mae Deddf Lluoedd Arfog yn Ymweld 1952 yn berthnasol iddi.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig gyda chadarnhad ysgrifenedig gan y sefydliad amddiffyn perthnasol os gwelwch yn dda.
Dosbarth Q - Eiddo sy’n gyfrifoldeb ymddiriedolwr mewn methdaliad
(pdf, 21.86 KB) Dosbarth Q - Eiddo sy’n gyfrifoldeb ymddiriedolwr mewn methdaliad
Mae eiddo gwag ble mae Trethdalwr y Cyngor sy’n atebol yn ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
Mae’r rhyddhad yn berthnasol hyd yn oed os ydi’r eiddo gwag yn aros wedi’i ddodrefnu. Yn ogystal bydd y rhyddhad yn dal i fod yn berthnasol hyd yn oed os ydi’r ymddiriedolwr mewn methdaliad yn atebol ar y cyd gyda rhywun arall.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig a darparu tystiolaeth bod gorchymyn methdaliad wedi’i wneud a bod ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi’i benodi, os gwelwch yn dda. Rhaid rhoi gwybod inni hefyd ble mae’r cyn-Drethdalwyr Cyngor yn byw yn awr.
Dosbarth R - Lleiniau carafan gwag ac angorfeydd gwag ar gyfer cychod
(pdf, 21.86 KB) Dosbarth R - Lleiniau carafan gwag ac angorfeydd gwag ar gyfer cychod
Byddai llain carafan, sydd heb garafan arno, neu angorfa sydd heb gwch arni, wedi’i heithrio rhag Treth y Cyngor. Byddai’r rhyddhad yn dod i ben cyn gynted ag y dechreuir defnyddio’r llain neu’r angorfa eto.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig fel y gallwn drefnu ymweliad â’r safle os gwelwch yn dda.
Dosbarth S - Eiddo ble mae’r unig breswylydd neu’r holl breswylwyr dan 18
(pdf, 21.89 KB) Dosbarth S - Eiddo ble mae’r unig breswylydd neu’r holl breswylwyr dan 18
Mae eiddo ble mae’r unig breswylydd neu’r holl breswylwyr dan 18 mlwydd oed wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor.
I wneud cais am y rhyddhad yma cwblhewch a dychwelwch y ffurflen amgaeëdig,a byddai angen tystiolaeth o ddyddiadau geni’r holl breswylwyr arnom.
Dosbarth T - Rhandai hunangynhwysol heb neb yn byw ynddynt
(pdf, 21.97 KB) Dosbarth T - Rhandai hunangynhwysol heb neb yn byw ynddynt
Mae’r rhyddhad yma’n ymwneud â rhandai 'nain' heb neb yn byw ynddynt, ble mae’r rhandy’n ffurfio rhan o eiddo arall, y 'prif dþ' fel arfer. Nid oes rhaid i’r rhandy fod wedi’i gysylltu’n gorfforol â’r prif eiddo, ond rhaid iddo fod ar yr un safle. I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad yma ni ddylai fod modd gosod y rhandy ar wahân i weddill yr eiddo, heb fynd yn groes i ganiatâd cynllunio.
I wneud cais am y rhyddhad yma a wnewch chi gwblhau a dychwelyd y ffurflen amgaeëdig fel y gallwn drefnu i ymweld â’r eiddo os gwelwch yn dda.
Dosbarth U (nodiadau) - Eiddo ble mae pobl â nam difrifol ar eu meddwl yn byw
(pdf, 22.81 KB) Dosbarth U - Eiddo ble mae pobl â nam difrifol ar eu meddwl yn byw
Mae eiddo ble mae’r unig breswylydd mewn oed neu’r holl breswylwyr mewn oed â nam difrifol ar eu meddwl wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.
At ddibenion Treth y Cyngor, caiff person ei ddisgrifio fel rhywun sydd â nam difrifol ar eu meddwl os ydynt yn dioddef gan nam difrifol ar eu deallusrwydd a’u gweithrediad cymdeithasol a bod hwnnw’n ymddangos yn barhaol. Gallai hyn gynnwys y rheini sy’n dioddef gan glefyd Alzheimer.
Mae’r rhyddhad yma’n berthnasol hefyd ble mae rhywun sydd â nam difrifol ar y meddwl yn rhannu eiddo gyda myfyriwr amser llawn (gweler dosbarth N).
I wneud cais am y rhyddhad yma, gofynnwch i’r Gwasanaethau Refeniw am ffurflen gais ar gyfer pob preswylydd os gwelwch yn dda. Byddwn yn gofyn ichi lenwi rhan o’r ffurflen ac yna drefnu i feddyg y preswylydd, eu Meddyg Teulu fel arfer, wneud asesiad o nam y preswylydd. Ni fydd Meddyg Teulu Iechyd Gwladol yn codi dim am lenwi’r ffurflen. Wrth ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau i’r Gwasanaethau Refeniw, byddwn ag angen cadarnhad hefyd y derbynnir o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol :-
*Budd-dâl Analluogrwydd
*Lwfans Gweini
*Lwfans Anabledd Difrifol
*Cydran Gofal y Lwfans Byw i Bobl Anabl
*Codiad yn y Pensiwn Anabledd, ble mae angen gofal parhaol
*Lwfans Gweithio i’r Anabl
*Atodiad Diweithdra
*Lwfans Gweini Parhaol yn ôl un o’r pedair gyfradd sy’n daladwy gyda Budd-dâl Anabledd neu Bensiwn Anabledd Rhyfel
*Lwfans i’r Anghyflogadwy sy’n daladwy gyda Phensiwn Anabledd Rhyfel
*Premiwm Anabledd Ategiad Incwm
Dosbarth V (nodiadau) - Diplomataidd
(pdf, 22.81 KB) Dosbarth W - Rhandai ar gyfer perthnasau dibynnol
(pdf, 22.81 KB) Dosbarth W - Rhandai ar gyfer perthnasau dibynnol
Mae’r rhyddhad yma’n ymwneud â rhandai 'nain', ble mae’r rhandy’n ffurfio rhan o eiddo arall, y 'prif dþ' fel arfer. I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad yma rhaid i’r rhandy fod yn gartref 'perthynas dibynnol' i rywun sy’n byw yn y 'prif dþ'. Ar gyfer y rhyddhad yma mae perthynas dibynnol yn rhywun sy’n :-
*65 oed neu fwy, neu
*â nam difrifol ar eu meddwl, neu
*ag anabledd sylweddol a pharhaol.
I wneud cais am y rhyddhad yma cysylltwch â’r Gwasanaethau Refeniw os gwelwch yn dda fel y gallwn drefnu ymweliad.