| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Ardrethi Busnes - Gostyngiadau

Mae rhai amgylchiadau lle nad yw’r ardrethi llawn yn daladwy. 


Eiddo difeddiant 


Am y tri mis cyntaf pan fo eiddo yn wag nid oes unrhyw ardrethi’n daladwy.  Ar ôl y cyfnod hwn, codir ‘ardrethi eiddo gwag’, oni bai bod eithriad yn berthnasol.  Mae’r ardrethi eiddo gwag yn 50% o’r ardrethi arferol sy’n daladwy. 


Rhestrir yr eiddo wedi eu heithrio o ardrethi eiddo gwag isod:  

  • eiddo lle mae’r gwerth ardrethol yn is na £1,500 yn rhestr 2000
  • rhai mathau penodol o eiddo diwydiannol e.e. ffatrioedd
  • warysau
  • eiddo lle gwaherddir meddiant gan y gyfraith e.e. deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch
  • eiddo sy’n wag oherwydd camau gweithredu gan y Goron, neu unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus, un ai i atal meddiant neu i  gaffael eiddo e.e. bod gorchymyn pryniant gorfodol wedi ei wneud
  • eiddo lle byddai’r person atebol yn atebol yn unig yn rhinwedd ei rôl fel cynrychiolydd personol person marw, diddymwr neu   ymddiriedolwr dan weithred gymodi lle bo’r person â’r hawl i feddiant yn destun achos methdaliad, adeiladau rhestredig neu’r   rhai sy’n destun gorchymyn cadw
  • adeiladau rhestredig (Gradd I & II)

O 01/04/08, gwnaed addasiadau i Reoliadau Di Drethi (Non Rating) (eiddo nad oes neb ynddyn nhw) 1989 fel bod eiddo diwydiannol sy'n wag yn rhydd o gyfrifoldeb am 6 mis yn unig, a chodi'r lefel pan fydd eiddo gwag yn peidio bod yn rhydd o dalu'r Gyfradd Eiddo Gwag o £1,500 hyd £2,200.


O 1 Ebrill 2008  bydd y rhyddhad ar eiddo gwag am eiddo di - ddiwydiant yn parhau i fod yn 3 mis, ond mae Mesur Eiddo Gwag 2007 yn lleihau'r gyfradd o 50% o ryddhad y bydd yr eiddo hyn yn eu derbyn ar ôl 3 mis o 0% yn Lloegr a Chymru.  Bydd eiddo diwydiannol gwag yn talu trethi non ddomestig hefyd ond byddant yn derbyn rhyddhad eiddo gwag o 100% am gyfnod o 6 mis.


Bydd y Mesur Eiddo Gwag hefyd yn rhoi cyfradd o zero ar eiddo gwag pan fydd y treth dalwyr yn

(i) elusen ac mae'n ymddangos pan fydd yr eiddo'n cael ei ddefnyddio nesaf caiff ei ddefnyddio'n bennaf neu yn gyfan gwbl i bwrpas elusennol, neu

(ii) clwb chwaraeon amatur cymunedol ac mae'n ymddangos pan gaiff yr eiddo ei ddefnyddio nesaf caiff ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfan gwbl i bwrpas y clwb hwnnw neu i bwrpas dau neu fwy o glybiau gan gynnwys y clwb a chaiff pob clwb ei gofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol .

Rhyddhad Elusennol

  • Elusennau a chyrff eraill nid er elw
  • Mae elusennau sy’n defnyddio eiddo at ddibenion elusennol yn cael rhyddhad o 80% o’r ardrethi. 


Os bodlonir yr amodau perthnasol, mae’r rhyddhad hwn yn fandadol h.y. mae’n rhaid ei roi, a bydd y Llywodraeth yn ad-dalu’r Cyngor yn llawn.  


Gall cynghorau roi rhyddhad o hyd at 100% o’r ardrethi sy’n daladwy i gyrff eraill nid er elw e.e. clybiau chwaraeon a chymdeithasau cymunedol, yn ôl eu disgresiwn. Mae’r Llywodraeth yn ad-dalu 75% o unrhyw ryddhad o’r fath i’r Cyngor.

Rhyddhad Ardrethi Gwledig 

O 01/04/07, mae Rhyddhad Cefn Gwlad Rhag Trethi wedi ei ailosod gan Rhyddhad Adrethi Busnesau Bach.


Cyflwynwyd ar 1 Ebrill 1998 sy’n caniatáu rhyddhad rhag talu ardrethi i fusnesau: 

  • sy’n gweithredu mewn cyfanheddiad gwledig cymyws, ac
  • sydd mewn eiddo â gwerth ardrethol o £6,000 neu lai
    neu
  • sy’n gweithredu fel yr unig dafarn neu orsaf betrol mewn cyfanheddiad gwledig cymwys, ac
  • sydd mewn eiddo â gwerth ardrethol o £9,000 neu lai 

Mae gan y Cyngor y disgresiwn i ychwanegu at y rhyddhad hwn, ac mae’r cynllun hefyd yn rhoi disgresiwn i’r cyngor ganiatáu rhyddhad i eiddo busnes eraill mewn cyfaneddiadau gwledig os: 

  • yw gwerth ardrethol yr eiddo yn £12,000 neu lai,
  • defnyddir yr eiddo at ddibenion sydd o fudd i’r gymuned leol ac
  • y byddai’n rhesymol i ganiatáu rhyddhad ar ôl ystyried buddiannau’r rhai sy’n talu Treth y Cyngor i’r Cyngor, gan fod y rhyddhad  yn cael ei gyllido’n rhannol gan dderbyniadau Treth y Cyngor.

Dan y cynllun hwn mae’r Cyngor wedi llunio Rhestr Cyfaneddiadau Gwledig yn nodi’r cyfaneddiadau gwledig cymwys (y rhai â phoblogaeth o 3,000 neu lai) mewn ardaloedd wedi eu dynodi yn wledig gan y Llywodraeth.  Gellir gweld y Rhestr hon yn ein swyddfeydd yn Nhy Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl, LL18 3DP.

Caledi


Gall cynghorau roi rhyddhad i drethdalwr a fyddai’n dioddef caledi wrth dalu’r bil ardrethi cyflawn.  Mae’r Llywodraeth yn ad-dalu 75% o’r rhyddhad a roddwyd yn unig dan yr amgylchiadau hyn, felly mae chwarter o’r gost yn disgyn yn uniongyrchol ar dalwyr Treth y Cyngor.  Am y rheswm yma yn arferol bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rhoi’r rhyddhad hwn yn unig lle’i bod yn amlwg ei bod er budd y gymuned bod y trethdalwr yn parhau mewn busnes oherwydd un ai

  • mae ef/hi yn darparu cyfleuster unigryw, y mae galw amdano’n gyson e.e. siop gyffredinol mewn pentref,
  • neu byddai’r colli swyddi a ddarperir gan y trethdalwr yn niweidiol iawn i’r gymuned leol. 

Cyn y gwnaiff y Cyngor ystyried rhoi’r rhyddhad hwn, rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig a darparu copïau o’r cyfrifon archwiliedig.


Os yw eiddo’n cael ei ddefnyddio’n rhannol yn unig dros dro, nid yw bob amser yn bosibl nac yn angenrheidiol creu dau eiddo ar wahân yn y Rhestr Drethu; er enghraifft, lle mae meddiannwr warws yn lleihau faint o nwyddau sy’n cael eu storio oherwydd dirwasgiad, neu lle bo cwmni yn symud yn raddol o un eiddo i un arall, byddai’n amhriodol diwygio’r Rhestr Drethu oherwydd nid yw’r amgylchiadau’n barhaol. 


Yn lle hynny, gall y Cyngor ofyn i’r Swyddfa Brisio benderfynu ar werthoedd ardrethol y rhannau mewn meddiant a difeddiant.  Yna gellir cyfrifo’r ardrethi sy’n daladwy ar y naill ran a rhoi rhyddhad fel bo’r trethdalwr yn talu’r ardrethi llawn am y rhan mewn meddiant yn unig, ynghyd â 50% o’r ardrethi ar gyfer y rhan difeddiant.  (Os oes eithriad yn berthnasol i’r rhan difeddiant, fodd bynnag, yna nid oes unrhyw swm yn daladwy ar gyfer y rhan honno.) 

 
Rhoir y rhyddhad hwn fel a nodir yn Adran 44A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac mae’r Llywodraeth yn rhoi ad-daliad llawn i’r Cyngor. 


Caniateir y rhyddhad un ai at ddiwedd y flwyddyn ariannol neu at y dyddiad lle mae’r eiddo’n peidio â bod wedi ei feddiannu’n rhannol yn unig. 

Rhyddhad Busnesau Bach

O 1 Ebrill 2007, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi busnes yn lle’r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig ar gyfer Cymru gyfan.

Bydd hwn yn rhoi gostyngiad treth o 50% i fusnesau â gwerth trethiannol hyd at £1999, a 25% i fusnesau â gwerth trethiannol rhwng £2000 a £4999.

Hefyd, bydd gostyngiad treth ychwanegol i swyddfeydd post ym mhob rhan o Gymru.  Bydd swyddfeydd post â gwerth trethiannol hyd at £8999 yn derbyn gostyngiad o 100%, a’r rhai â gwerth trethiannol rhwng £9000 ac £11,999 yn derbyn gostyngiad o 50%.

Bydd y gostyngiad yn cael ei gynnwys yn awtomatig ar filiau treth – ni fydd angen gwneud cais amdano.

 

Trefniadau Trosiannol  


Weithiau mae trethdalwyr yn cael gostyngiad yn eu ardrethi oherwydd y Cynllun Trefniadau Trosiannol.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0