Bob tro yr adeiladir eiddo annomestig newydd neu pan fo eiddo presennol yn cael ei addasu, mae’n rhaid i’r Swyddog Prisio newid y Rhestr Drethu Lleol.
Yn achos eiddo newydd, mae’r Swyddog Prisio yn creu cofnod newydd yn y Rhestr Drethu yn dangos y gwerth ardrethol a roddwyd i’r eiddo ac mae’n hysbysu perchennog/meddiannwr yr eiddo a’r Cyngor am y gwerth ardrethol hwnnw a dyddiad gweithredol y cyfnod newydd (yn arferol y dyddiad y cwblhawyd y gwaith adeiladu). Yna mae’r Cyngor yn cyflwyno bil i’r trethdalwr.
Os oes angen diwygio gwerth ardrethol (e.l adeiladwyr estyniad ar ffatri, rhannwyd swyddfa yn ddwy neu bo siop wedi’i dymchwel), mae’r Swyddog Prisio yn diwygio’r Rhestr Drethu ac yn hysbysu’r perchennog/meddiannwr a’r Cyngor.
Apeliadau yng nghyswllt Rhestr 2000
Gall trethdalwr gyflwyno cynnig ynghylch cofnod ar y rhestr ar unrhyw adeg yn ystod oes y Rhestr.
Pwy all wneud cynnig?
- Y trethdalwr
- Pobl eraill â budd yn yr eiddo e.e. landlord. (Yn yr achosion hyn, hysbysir y trethdalwr a bydd ganddo/ganddi hawl i gymryd rhan yn y broses o setlo’r cynnig
- Y Cyngor.
Os yw’r Swyddog Prisio yn cytuno â’r cynnig, neu os yw’r holl bartïon yn cytuno ar werth arall, bydd y prisiant yn cael ei newid.
Os nad yw’r Swyddog Prisio yn cytuno neu os yw’r mater yn parhau heb ei ddatrys ar ôl 6 mis, trosglwyddir yr anghydfod i’r Tribiwnlys Prisio lleol am benderfyniad. Gall trafodaethau i geisio cyrraedd cytundeb barhau cyn y gwrandawiad Tribiwnlys.
Cyrff annibynnol yw Tribiwnlysoedd Prisio y mae’r aelodau yn bobl di-dâl ag enw da yn eu cymuned, yn debyg i ynadon heddwch lleol.
Mae mwyafrif yr apeliadau trethu heb eu setlo yn cael eu datrys drwy gyfrwng gwrandawiad lle bo’r sawl sy’n gwneud yr apêl, neu ei g/chynrychiolydd, yn gallu cyflwyno ei achos gerbron y Tribiwnlys. Fodd bynnag, os yw’r holl bartïon yn cydsynio, gellir datrys apeliadau drwy gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r Tribiwnlys Prisio.
Ni chodir tâl am wneud apêl, ond os yw’r trethdalwr yn gofyn i gwmni o syrfeiwyr trethu neu asiant weithredu ar ei r/rhan, bydd yn rhaid iddo/iddi dalu am y cymorth hwnnw.
Os yw’r sawl sy’n cyflwyno’r apêl yn anfodol â phenderfyniad y Tribiwnlys, gall ef/hi apelio i’r Tribiwnlys Tiroedd cyn pen 4 wythnos o benderfyniad y Tribiwnlys Prisio.
* Tra’n aros am ganlyniad apêl mae’n rhaid parhau i dalu ardrethi *
Os oes anghysondeb amlwg mewn prisiad a bod y Cyngor yn teimlo’n sicr y bydd y pris yn cael ei leihau, gall fod yn bosibl gwneud trefniant i dalu ar gyfradd ostyngol nes datrys y mater.
Lle bo lleihad mewn gwerth ardrethol yn cael ei ôl-ddyddio ac ardrethi wedi eu gordalu’n cael eu had-dalu gan y Cyngor, dan rhai amgylchiadau bydd llog yn daladwy ar y swm dan sylw.
Gall apeliadau a wneir cyn 1 Hydref 2000 gael eu hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2000. Rhwng 1 Hydref 2000 a 31 Mawrth 2001 gellir ôl-ddyddio i 1 Hydref 2001. Ar ôl 1 Ebrill 2001 mae’r dyddiad gweithredol wedi ei gyfyngu i 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol y cyflwynir yr apêl.


Rhoi adborth ar y tudalen hon