C. Sut mae’r gwerth ardrethol yn cael ei gyfrifo?
A. Mae’r gwerth ardrethol yn adlewyrchu’r rhent uchafswm y byddai tenant yn barod i’w dalu i rentu eiddo dan amodau marchnad perffaith. Yn arferol, penderfynir ar hyn drwy ddadansoddi tystiolaeth rhenti o eiddo o faint a natur tebyg yn yr ardal. Y Swyddfa Brisio sy’n penderfynu ar brisiant a rhaid cyflwyno unrhyw apêl yn uniongyrchol i’w swyddfa yn: Swyddfa Brisio Wrecsam, Ty’r Rhaglaw, Stryd y Rhaglaw, Wrecsam, LL11 1PR (Rhif ffôn: 01978 200000)
C. Rwyf wedi apelio yn erbyn fy ngwerth ardrethol - ydw i’n dal i orfod talu?
C. Pa wasanaethau ydw i’n eu derbyn am dalu fy Ardrethi Busnes?
C. Pam ydych chi wedi anfon bil ataf i pan rwyf eisoes yn talu rhent yn cynnwys ardrethi i’m landlord?
C. Rwyf wedi symud allan o’m eiddo busnes - fydda’ i’n gorfod dal i dalu ardrethi?
A. Ni fydd unrhyw ardrethi’n daladwy am y 3 mis cyntaf ond, os yw’r eiddo’n parhau’n wag ar ôl y cyfnod hwn ac rydych yn parhau i fod yn berchennog neu brydlesydd yr eiddo, yna byddwch yn atebol i dalu ardrethi hafal i 50% o’r ardrethi llawn, oni bai bod yr eiddo yn eithredig o Ardrethi Eiddo Gwag.
C. Pryd mae’n rhaid i mi dalu fy Ardrethi Busnes?
Os ydych yn talu mewn banc, dylech wneud eich taliad o leiaf 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod dyledus er mwyn sicrhau y bydd yr arian yn eich cyfrif erbyn y dyddiad hwnnw.
Os ydych yn postio eich taliad, dylech ei bostio cyn y dyddiad dyledus fel y bydd yn cael ei brosesu ac yn eich cyfrif mewn pryd. Os ydych yn defnyddio post ail ddosbarth, dylech ei bostio o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus.
C. Pam ydych chi wedi anfon Nodyn Atgoffa/Rhybudd Terfynol/Gwys ata’ i?
A. Os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch. Bydd hyn yn caniatáu i chi ddal i fyny â’r taliadau cyn pen 7 diwrnod ac yna barhau i dalu’r rhandaliadau statudol. Os bydd eich taliadau yn hwyr eto, byddwn yn anfon ail nodyn atgoffa atoch. Bydd hyn unwaith eto yn caniatáu i chi ddal i fyny â’r taliadau cyn pen 7 diwrnod a pharhau i dalu drwy gyfrwng rhandaliadau misol. Ni chyflwynir rhagor o lythyrau atgoffa os nad yw rhandaliadau’r dyfodol yn cael eu talu ar amser gan y byddwch yn colli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau.
Os bydd y taliad yn hwyr eto, byddwn yn anfon rhybudd terfynol atoch. Ar y cam hwn rydych wedi colli eich hawl i dalu mewn rhandaliadau a bydd yn rhaid i chi dalu’r balans sy’n ddyledus yn llawn cyn pen 7 diwrnod o ddyddiad y rhybudd terfynol.
Os nad ydych yn dangos y swm a ddangosir ar rybudd terfynol cyn pen 7 diwrnod, byddwn yn anfon gwys i chi ymddangos yn y Llys Ynadon. Os ydych chi’n derbyn Gwys a ddim yn talu’n llawn cyn y gwrandawiad, bydd y Cyngor yn gwneud cais am ‘orchymyn atebolrwydd’. Mae gorchymyn atebolrwydd yn rhoi’r hawl i’r Cyngor ddefnyddio beiliaid i gael taliad, neu ddechrau achos Methdaliad/Diddymiad mewn rhai achosion, neu ofyn i’r Llys Ynadon ddedfrydu person i garchar.
C. Rydych wedi anfon Gwys ataf ac rydw i eisiau gwneud trefniant i’w dalu. Pam bod rhaid i mi barhau i dalu’r costau?
A. Yn ôl y gyfraith, mae costau’n daladwy pan geir gorchymyn atebolrwydd. Unwaith y cyflwynir Gwys, yr unig ffordd o atal y Cyngor rhag gofyn am orchymyn atebolrwydd yw talu’r swm llawn cyn y gwrandawiad. Hyd yn oed pan wneir trefniant, mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i gael gorchymyn atebolrwydd, ond ni fyddwn yn gweithredu unrhyw un o’r gweithredodd y mae’n caniatáu i ni eu gwneud cyn belled â’ch bod yn cadw at y trefniant y cytunwyd arno.

Rhoi adborth ar y tudalen hon