| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Rhenti Tai - Debyd Uniongyrchol

Rhenti Tai - Debyd Uniongyrchol

Gwneud talu’n haws . . . . .a chael Tawelwch Meddwl

Tawelwch Meddwl
Mae dros 25 miliwn o bobl ar draws y wlad yn defnyddio Debyd Uniongyrchol id alu eu biliau rheolaidd. Mae mwy na 17,000 o bobl yn Sir Ddinbych yn talu’r Cyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol. Pam ? Oherwydd mae Debyd Uniongyrchol yn rhoi tawelch meddwl i iddyn nhw. Maes’n hawdd, dyma’r ffordd fwyaf cyfleus I dalu ac mae’n rhoi gwarant.

Y Ffordd Hawdd I Dalu
Umwaith rydych wedi llofndi’r Cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol trefnir taliadau rhwng y Cyngor a’ch Banc neu Gymdeithas Adeiladu. Ond rydych chi’n dal i fod yn rheoli popeth. Bydd y trefniant yn parhau am gymaint o amser ag a ddymunwch, gan arbed trafferth i chi ysgrifennu ac anfon siec bob mis neu aros i dalu yn y Banc neu Gymdeithas Adeiladu. Does dim angen i chi gofio pryd ydych i dalu’r rhan nesaf ac anfonir gwybodaeth am unrhyw newid dyddiad neu’r swm sydd i’w dalu atoch ymlaen llaw.

Chi Sy’n Rheoli
Byddwch bob amser yn gwybod ymlaen llaw faint gaiff ei dynnu o’ch cyfrif a phryd. Ni chesglir unrhyw arian os na fyddwch wedi awdurdodi hynny. Bydd archwiliad rheoliadd o’ch datganiad yn eich sicrhau bod y taliadau wedi’u gwneud yn gywir.

Hawdd I’w Drefnu
I dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi’r cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ydych ei angen i lenwi cyfarwyddiadau Debyd Uniongyrchol i’w weld ar eich siec, neu fel arall ar eich datganiad Banc neu Gymdeithas Adeiladu. Byddwch angen y canlynol :

1. Enw a chyfeiriad llawn eich Banc neu Gyndeithas Adeiladu.
2. Enw daliwr y cyfrif.
3. Côd eich Banc
4. Rhif cyfrif eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu.

Hawdd I’w Ganslo
Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhyw adeg. Ysgrifennwch at eich Banc / Gymdeithas Adeiladu ac anfonwch gopi at y Cyngor. Rhowch y wybodaeth ganlynol iddyn nhw :

1. Enw’r Cyngor.
2. Enw’r daliwr cyfrif.
3. Côd y Gangen
4. Eich rhif cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu.
5. Rhif cyfeirnod y Cyngor
6. Y sawl sydd i’w dalu.

Ateb Eich Cwestiynau
C A yw arwyddo Debyd Uniongyrchol yn golygu
y gall y Gyngor fynd â’r arian o’m cyfrif fel
y dymunant ?

A   Na. Dim ond arian y rhoddwyd caniatâd iddo gael
ei dalu fydd y Cyngor yn ei gasglu. Os bydd y
swm yma neu dyddiad y casglu’n newid, fel arfer
cewch 14 diwrnod o rybudd ymlaen llaw er mwyn
i chi gael amser I holi am y bil os dymunwch.

C Beth os na fydd digon o arian yn fy nghyfrif i
dalu’r Ddebyd Uniongyrchol ?

A   Byd y Cyngor yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn I chi dalu’r
swm sydd heb ei dalu o fewn 7 niwrnod.

C   Pa fath o gyfrif ydw I ei angen I drefnu Debyd
Uniongyrchol ?

A   Gellir defnyddio’r rhan fwyaf o gyfrifon mewn
Banciau a Chymdeithasau Adeiladu I wneud taliadau
Debyd Uniongyrchol. Mae rhai cyfrifion cadw yn
caniatâu hyn hefyd - gofynnwch yn eich cangen.


C   Beth fydd yn digwydd os gwneir camgymeriad ?

A   Os gwneir camgymeriad gan y Cyngor neu eich Banc neu
Gymdeithas Adeiladu cewch warant lawn ac ad-daliad llawn
gan eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu am y swm a dalwyd.

Gwarant Debyd Uniongyrchol
Ÿ Cynigir y warant hon gan bob banc neu Gymdeithas Adeiladu sy’n cymryd rhan yn y cynllun Debyd Uniongyrchol. Caiff effeithlonrwydd a diogelwch y cynllun ei fonitro a’i ddiogelau gan eich Banc neu gymdeithas Adeiladu.
Ÿ Os bydd y swm sydd i’w dalu neu os bydd y dyddiad talu’n newid, fel arfer fe gewch 14 dirwnod o rybudd gan y Cyngor er mwyn I chi gael amser I holi am eich bil os bydd angen.
Ÿ Os bydd y Cyngor neu eich Banc nueu Gymdeithas Adeiladu’n gwneud camgymeiriad cewch warant ac fe ad-delir eich arian yn llawn gan eich cangen am y swm a dalwyd.
Ÿ Gallwch ganslo Debyd Uniongyrchol unrhwy adeg trwy ysgrifennu at eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu. Afonwch gopi o’ch llythyr at y Cyngor.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0