Cyflwyniad
Ag eithrio'r Gyflogres a thaliadau Budd-dâl Tai, fe gaiff yr holl daliadau eu prosesu drwy'r system Taliadau Credydwyr. Y mae'r system ei hun wedi cael ei datblygu dros nifer o flynyddoedd ac fe gafodd ei hail ysgrifennu yn fewnol er mwyn iddi weithredu ar lwyfan Unix gan ddefnyddio SB+ i ddarparu amgylchedd math 'Windows', i gychwyn ym Mawrth 1997. Yr oedd y system 'sgrîn werdd' flaenorol yn cael ei hystyried i fod yn un o'r goreuon yn y wlad gan Archwilwyr Cyfrifiadurol y Cyllid Gwladol a Thollau Tramor a Chartref. Y mae'r system newydd wedi adeiladu ar hyn gyda nifer o welliannau.
Y System
Fe gaiff y system ei rheoli gan adain Daliadau Credydwyr fechan yn Adran Wasanaethau Trysorlys yr Adran Gyllid.
Yn ogystal â darparu diogelwch a gwiriadau ar anfonebau, gwneud swp-brosesu a mewnbynnu, y mae'r tîm yn cynnal ffeiliau sefydlog y system, yn rhoi rheolaeth ar y system ac yn manylu ar lefel y cyflenwyr a'r anfonebau. Y mae system ddiogelwch gynhwysfawr ar adeg mynediad ac ar lefelau awdurdodi taliadau. Y mae system fewnol ar gyfer dyblygu anfonebau, modiwl Treth Diwydiant Adeiladu cynhwysfawr, a phecyn adrodd yn ôl hyblyg.
Cyflenwyr
Y mae i bob cofnod cyflenwr faes 'telerau arferol' sy'n rhoi'r nifer o ddyddiau sydd rhwng dyddiad yr anfoneb a'r dyddiad talu. Telerau safonol y Cyngor yw 28 diwrnod, sy'n caniatáu diwrnod neu ddau ar gyfer postio sy'n cyd fynd â'r argymhellion cenedlaethol o 30 diwrnod.
Yn ychwanegol at hyn, ar gyfer pob anfoneb y mae 'Dyddiad Talu Penodol' yn cael ei gofnodi sy'n gorlamu'r diofyniad.
Fe gaiff y cyflenwyr hefyd eu dosbarthu yn 'fathau', ac y mae gan rai o'r mathau hyn wahanol amodau ar gyfer talu. Er enghraifft, y mae gweithredwyr bysau sy'n gwneud ceisiadau yn fisol yn cael eu talu o fewn 17 diwrnod, y mae gan rieni maeth rediadau talu rheolaidd pob pythefnos.
Taliadau
Fe gaiff y rhediadau talu eu gwneud yn ddyddiol ac fe ellir gwneud y taliadau naill ai drwy BACS neu gyda sieciau. Mae BACS yn well o ran costau ac y mae gan y cyflenwyr y fantais o fod â chronfeydd wedi eu clirio yn eu cyfrifon nifer o ddiwrnodau ynghynt na phe buasent wedi cael eu talu gyda siec. Gwneir taliadau eraill drwy NatWest BankLine ar gyfer trosglwyddiadau'r farchnad arian a nifer fechan o ddebydau uniongyrchol.. Y mae'r holl daliadau o'r fath yn cael eu cofnodi yn y system, fel bod darlun cyflawn o'r taliadau'n cael ei gadw.
Mewnbynnu anfonebau
Fe gafodd y system ei chynllunio fel bod modd gweithredu anfonebau pell. Ar hyn o bryd y mae'r holl anfonebau ar gyfer yr ysgolion a gwasanaethau arlwyo DSO yn cael eu prosesu o fewn yr Adran Addysg.
Fe all y system yn ogystal dderbyn manylion anfonebau o amrywiaeth o gyfryngau magnetig, gan gynnwys CD-Rom, disg, tâp a thrwy drosglwyddiad ffeil uniongyrchol.
Mewn rhai achosion, fe gafodd modiwlau arbennig eu datblygu er mwyn galluogi gweithredu systemau 'un-bil', yn bennaf gyda gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft y mae BT yn paratoi CD-Rom bob chwarter blwyddyn gyda'r holl fanylion anfonebau. Yn ychwanegol at hyn, y maent yn anfon copi papur ar gyfer pob sefydliad er mwyn gwybodaeth a rheolaeth. Fe dderbynnir anfonebau ar y system heb eu tyllu. Ychydig iawn, o lythyrau atgoffa a dderbynnir, os o gwbl, ac fe dderbynnir llawer iawn o wybodaeth reoli ar y CD-Rom sy'n galluogi dadansoddiad arwyddocaol o'r galwadau sydd i'w gwneud
Ymholiadau
Fe ellwch chi gysylltu â'r Adain Daliadau Credydwyr ar:
01824 -706038/ 706036/ 706032/ 706034/ 706040

Rhoi adborth ar y tudalen hon