Disgowntiau Treth y Cyngor
Disgowntiau
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, bydd gennych hawl i ddisgownt person sengl o 25%. Bydd maint eich bil Treth Cyngor wedi’i ostwng o chwarter felly. Fe ddylech ddal i hawlio’r disgownt yma hyd yn oed er y gallech fod yn derbyn Ategiad Incwm.
I wneud cais am y disgownt yma a wnewch chi ysgrifennu at y Gwasanaethau Refeniw os gwelwch yn dda i ddweud wrthym o ba ddyddiad yr ydych wedi bod yr unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo.
Os ydi eich bil yn dangos bod disgownt wedi’i ganiatáu, rhaid ichi adael i’r Gwasanaethau Refeniw wybod os nad oes gennych hawl bellach, gan ddweud o ba ddyddiad y dylai’r disgownt ddod i ben a phaham.
Pwy sy’n breswylydd?
Os oes yna fwy na dau breswylydd mewn oed, bydd y swm sy’n daladwy yr eiddo yn aros yr un fath. Ond, os oes ond un preswylydd, bydd disgownt o 25% yn cael ei ganiatáu. Bydd y disgownt yma’n berthnasol hefyd os ydi pawb ond un o’r preswylwyr mewn oed heb fod yn cael ei gyfrif at ddibenion Treth y Cyngor. Gweler isod am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.
Rhywun sy’n 18 oed neu drosodd sy’n byw yn yr eiddo fel eu prif neu unig breswylfa ydi preswylydd. Ni chaiff pobl dan 18 oed eu cynnwys fel preswylwyr. Nid ydi presenoldeb dros dro mewn eiddo yn gwneud y person hwnnw’n breswylydd yno. Nid ydi absenoldeb dros dro yn golygu nad ydi’r person bellach yn byw yno. Os byddwch yn mynd i weithio mewn rhan arall o’r wlad, neu hyd yn oed dramor, fe ellir dal i ystyried mai yma y mae eich prif breswylfa.
Mae preswylydd yn cynnwys unrhyw berson sy’n :
- lletya yn yr eiddo
- gweithio i ffwrdd o gartref ond sy’n byw yn yr eiddo gan mwyaf
- treulio rhan o’r wythnos i ffwrdd o gartref.
Nid ydi’r bobl ganlynol yn breswylwyr :
- rhywun sy’n aros yn yr eiddo ond sy’n byw yn rhywle arall fel arfer, megis cyfaill neu berthynas sy’n ymweld
- myfyriwr sy’n byw i ffwrdd o gartref tra’n dilyn cwrs addysg amser llawn
- ni chaiff rhai preswylwyr mewn oed eu cyfrif at ddibenion Treth y Cyngor. Gweler isod am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.
Prif neu unig breswylfa
Mae rhwymedigaeth i Dreth y Cyngor wedi’i seilio ar ble mae rhywun yn cynnal eu prif neu unig breswylfa’, h.y. eu cartref. Wrth benderfynu’r prif breswylfa, rhoddir ystyriaeth i fudd cyfreithiol rhywun yn yr eiddo, i ble y cedwir y rhan fwyaf o’r meddiannau personol, ond yn bennaf i ba un a fyddai’n fwriad ganddynt ddychwelyd i’r eiddo.
Os ydi rhywun yn byw yn rhywle arall oherwydd ymrwymiadau gwaith ac y byddai’n dychwelyd pan ddeuai’r gwaith i ben, byddid yn ystyried bod gan y person hwnnw eu prif breswylfa yn ardal Cyngor Sir Ddinbych. Yn yr amgylchiadau hyn, ni fyddai dim disgownt yn cael ei ganiatáu yn erbyn rhwymedigaeth i Dreth y Cyngor.
Ni fydd disgownt yn cael ei ganiatáu i Drethdalwr Cyngor eiddo a ddodrefnwyd nad yw’n brif neu unig breswylfa i neb, megis ail gartref.
Os ydych chi’n credu bod eich prif breswylfa wedi newid a wnewch chi hysbysu’r Gwasanaethau Refeniw o’r wybodaeth ganlynol os gwelwch yn dda, fel bod modd ystyried eich cais am ddisgownt :
*Cyfeiriad eich eiddo yn yr ardal,
*Y cyfeiriad yr ydych yn ei ystyried yn brif breswylfa ichi yn awr
*Eich budd cyfreithiol yn y naill eiddo a’r llall dan sylw
*Ble cedwir y rhan fwyaf o’ch meddiannau
*Pa un a fyddai’n fwriad gennych fyw yn yr eiddo yn ardal Cyngor Sir Ddinbych, pe deuai eich gwaith presennol i
ben.
Preswylwyr na chaiff eu cyfrif ar gyfer Treth y Cyngor
Ni chaiff unrhyw un sydd dan 18 mlwydd oed ei gynnwys fel preswylydd.
Yr oedolion na chânt eu cyfrif fel preswylwyr at ddibenion Treth y Cyngor ydi:
Rhai pobl sydd mewn carchar neu’n cael eu cadw’n gaeth
Rhai â nam difrifol ar y meddwl
Disgyblion ysgol, rhai sy’n ymadael â’r ysgol a phobl y mae budd-dâl plant yn daladwy ar eu cyfer
Rhai pobl 18 a 19 mlwydd oed
Rhai myfyrwyr amser llawn
Darpar Nyrsys
Cynorthwywyr iaith dramor cofrestredig
Prentisiaid
Hyfforddedigion hyfforddiant yr ifanc
Cleifion sy’n preswylio mewn ysbyty
Rhai sydd mewn cartrefi gofal neu gartrefi nyrsio preswyl
Gweithwyr gofal
Gofalwyr
Pobl gyda chymdeithas berthnasol sydd â phencadlys rhyngwladol a sefydliad amddiffyn
Aelodau lluoedd arfog sy’n ymweld
Myneich a Lleianod
Os oes dau oedolyn dros 18 mlwydd oed yn byw mewn eiddo, a bod un ohonynt wedi’i gynnwys yn y rhestr uchod, mae’r disgownt o 25% yn dal yn berthnasol. Ond ni fydd disgownt yn cael ei ganiatáu os oes yna dri oedolyn, a dim ond un ohonynt wedi’i gynnwys ar y rhestr.
I gael rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor, a fyddech mor garedig â chysylltu â:
Ty Russell
Ffordd Churton
Y Rhyl
LL18 3PD

Rhoi adborth ar y tudalen hon