| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Treth y Cyngor - Os byddwch yn hwyr yn talu neu ddim yn talu

Beth sy’n digwydd os byddwch yn hwyr yn talu neu ddim yn talu?   
                  
Mae gennych hawl Statudol i dalu Treth y Cyngor drwy 10 rhandaliad misol o  fis Ebrill i fis Ionawr.  Ond, os caiff eich bil ei ddosbarthu ar ôl mis Ebrill, fe fydd gennych lai o randaliadau.  Gellwch ddod o hyd i wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o dalu Treth y Cyngor dan ‘Adran Sut i Dalu’.
Dywed y gyfraith ei bod yn rhaid ichi dalu eich rhandaliadau erbyn y dyddiad dyledus, sef y 5ed a’r 10fed o’r mis ar gyfer taliadau arian parod a siec (er y gall talwyr Debyd Uniongyrchol yn unig ddewis talu ar y 4ydd, 15fed, 22ail neu’r 30ain o’r mis).  Mae taliadau blynyddol yn ddyledus erbyn 30ain Ebrill ac mae taliadau hanner blynyddol yn ddyledus erbyn y 30ain Ebrill a’r 30ain Hydref.  Mae taliadau wythnosol arian parod yn cychwyn ar 14eg Ebrill, am 45 wythnos ar y mwyaf.  Os na fyddwn yn derbyn taliadau erbyn y dyddiadau dyledus, mae’n rhaid inni gymryd camau ar unwaith yn ôl y gyfraith.  Mae’r gyfraith yn gosod y drefn y mae’n rhaid inni ei dilyn (y ‘Drefn Adfer’).

Y Drefn Adfer

  • Os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch.   Bydd hyn yn caniatáu  ichi ddod â’ch taliadau’n gyfredol o fewn 7 diwrnod ac yna barhau i dalu yn ôl y rhandaliadau statudol.
  • Os byddwch yn syrthio’n ôl gyda’ch taliadau eto, byddwn yn anfon ail nodyn atgoffa atoch.  Bydd hyn yn  caniatáu ichi ddod â’ch taliadau’n gyfredol eto o fewn 7 diwrnod a pharhau i dalu trwy randaliadau misol.  Ni  fyddwn yn anfon unrhyw nodyn atgoffa  pellach os na fydd rhandaliadau yn y dyfodol yn cael eu talu’n   brydlon gan y bydd yr hawl i randaliadau yn cael ei cholli. 
  •  Os byddwch yn syrthio’n ôl eto, byddwn yn anfon rhybudd terfynol atoch.  Erbyn yr adeg yma, rydych wedi  colli eich hawl i dalu trwy randaliadau a bydd rhaid ichi dalu’r balans llawn sy’n ddyledus o fewn 7 diwrnod  i’r rhybudd terfynol.  
  • Os na fyddwch yn talu’r swm a ddangosir ar nodyn atgoffa neu rybudd terfynol o fewn  7 diwrnod, byddwn  yn anfon gwþs atoch i ymddangos yn Llys yr Ynadon.  Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid ichi dalu costau  llys o £50.00, o leiaf. 
  • Os na fyddwch yn talu’r swm ar yr wþs, yn cynnwys y costau, erbyn dyddiad y gwrandawiad, byddwn yn  gofyn i’r ynadon am Orchymyn Dyled, sy’n rhoi pwerau penodedig i’r Cyngor gasglu’r Dreth Cyngor gyda  chostau llys ychwanegol o £30.00.

                                       
Wedi i Orchymyn Dyled gael ei Ganiatáu 
                              
Ar ôl caniatáu’r gorchymyn dyled mae gan yr awdurdod nifer o opsiynau penodedig ar gael i gasglu’r swm sy’n ddyledus:-

  •  Yr opsiwn sydd orau gennym ydi gwneud trefniant i dalu. 
  •  Mae’r gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid ichi roi gwybodaeth bersonol inni, megis enw a chyfeiriad eich   cyflogwr, a manylion eich cyflog neu unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn  eu derbyn.  Byddwn yn gofyn am yr  wybodaeth yma hyd yn oed os ydych wedi gwneud trefniant talu gyda ni.  Os na rowch chi’r wybodaeth yma  i ni, neu os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir, fe all yr awdurdod fynd â chi yn ôl i’r llys ble gallech gael  eich dirwyo, gyda chostau ychwanegol. 
  • Os ydych yn gweithio, gallwn ddefnyddio Gorchymyn Atafael Enillion fel ei bod yn rhaid i’ch cyflogwr, trwy  gyfraith, gymryd arian allan o’ch cyflog a’i dalu’n syth i ni.
  • Os ydych yn cael Ategiad Incwm neu Lwfans Ceiswyr Swydd, gallwn ofyn i adran y llywodraeth sy’n ei dalu  gymryd arian allan o’ch budd-dâl a’i dalu’n syth i ni.
  • Gallwn ddefnyddio beilïaid i fynd â’ch meddiannau i ffwrdd a’u gwerthu mewn arwerthiant i dalu eich Treth  Cyngor.  Bydd y beilïaid yn codi costau ychwanegol arnoch.
  • Ÿ Os oes arnoch dros £750.00 inni, gallwn wneud cais i’ch gwneud yn fethdalwr.  Bydd yn rhaid ichi dalu costau,  bydd eich cyfrif banc yn cael ei rewi ac fe allech gael eich gorfodi i werthu eich cartref, hyd yn oed os oes  gennych forgais. 
  • Os oes arnoch £1,000.00 neu fwy inni a’ch bod yn berchen ar eich tþ neu bod gennych forgais arno, gallwn gael  Gorchymyn Tâl fel, os byddwch yn ei werthu, y bydd eich dyled yn cael ei thalu cyn ichi dderbyn unrhyw  arian o’r gwerthiant.  Eto, bydd rhaid ichi dalu costau ychwanegol hefyd.  
  • Os nad ydym yn gallu casglu’r swm sy’n ddyledus trwy’r dulliau uchod, byddwn yn anfon gwþs i chi i   ymddangos yn Llys yr Ynadon i egluro i’r ynadon paham nad ydych wedi talu eich Treth Cyngor.  Os   byddant yn gweld eich bod wedi bod yn euog o ‘wrthodiad bwriadol’ neu ‘esgeulustod beius’, gallant eich  anfon i garchar am gyfnod o hyd at 3 mis.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0