| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Treth Y Cyngor - Gostyngiadau Trosiannol 2005-06

Treth Y Cyngor - Gostyngiadau Trosiannol 2005-06

 

Mae Trefniadau Trosiannol Treth y Cyngor wedi'u cynllunio i gyfyngu atebolrwydd
dros yr anheddau hynny sy'n symud i fyny'r system bandio prisiant o ddau neu fwy
o fandiau o ganlyniad i restr prisiant 2005 yn dod i rym ar 1af Ebrill 2005.

Bydd y trefniadau'n rhedeg am dair blynedd ariannol yn dechrau 1af Ebrill 2005
ac yn dod i ben ar 31ain Mawrth 2008.

Bydd y cyngor yn hawlio'n ôl gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yr incwm y mae
wedi'i hepgor wrth weithredu'r cynllun trefniadau trosiannol.  Mewn rhai
amgylchiadau fe all addasiadau i'r swm a hawlir gan y cyngor gael eu gwyneud
i gymryd disgownts ac esgusodiadau, nad ydynt yn dod o fewn y trefniadau
trosiannol, i ystyriaeth.

Y meini prawf cymhwysol ar gyfer y trefniadau trosiannol yw:-

(i)    rhaid i annedd fod yn annedd ar restr brisiant ar neu ar gyfer 31ain Mawrth 2005

(ii)   rhaid i'r annedd honno fod wedi codi o ddau neu fwy o fandiau prisiant ar neu
       ar gyfer 1af Ebrill 2005 o gymharu â'r band prisiant perthnasol ar neu ar
       gyfer 31ain Mawrth 2005

(iii)  mae'r person sy'n atebol dros dalu treth y cyngor mewn perthynas â'r annedd
       honno ar 31ain Mawrth 2005 (neu os oes mwy nag un person yn atebol, un o'r
       bobl hynny) yn atebol hefyd mewn perthynas â'r annedd ar 1af Ebrill 2005 ac
       ar ryw amser arall neu amseroedd eraill yn ystod y cyfnod trosiannol

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0