| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Budd-dâl Treth y Cyngor

Beth ydi Budd-dâl Treth y Cyngor?

 Mae Budd-dâl Treth y Cyngor yn gostwng faint o dreth cyngor sy’n daladwy i bobl ar incwm isel. Mae unrhyw fudd-dâl sy’n cael  ei ddyfarnu yn cael ei gredydu’n uniongyrchol i gyfrif treth y cyngor.

 Uchafswm y budd-dâl ydi 100% o’r bil treth y cyngor, a bydd rhywun ar Lwfans Ceiswyr Swydd neu Ategiad Incwm yn derbyn y   swm yma fel rheol. Os ydi incwm rhywun yn uwch na’r Lwfans Ceiswyr Swydd sylfaenol bydd swm y budd-dâl yn cael ei ostwng.

Pwy Sy’n Gallu Ei Hawlio?

 Gall Budd-dâl Treth y Cyngor ond cael ei hawlio gan y sawl sy’n agored i dalu treth y cyngor, ond nid oes angen ichi fod yn hawlio  unrhyw fath arall o fudd-dâl i hawlio Budd-dâl Treth y Cyngor.


 Ni fydd pobl gyda dros £16,000 o arbedion yn gymwys fel arfer ar gyfer unrhyw fudd-dâl.

Sut mae’n cael ei gyfrifo?

 Pob blwyddyn mae’r Llywodraeth yn cyhoeddi ffigurau canllaw sy’n nodi’r swm y mae pobl ei angen i gwrdd â’u hanghenion sylfaenol.


 Mae’r ffigurau hyn yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau rhywun. Caiff incwm rhywun sy’n hawlio budd-dâl ei gymharu â ffigur y   Llywodraeth, ac os ydi o yr un fath, neu’n llai, yna fel arfer byddant yn derbyn 100% o fudd-dâl. Os ydi o’n fwy yna caiff swm y budd-dâl  wythnosol ei ostwng o 20c am bob £1 ychwanegol o incwm.


 Fe all swm y budd-dâl gael ei ostwng hefyd os oes yna bobl 'nad ydynt yn ddibynnol' yn byw yn y cartref, er enghraifft plant dros 18 oed.


 Mae’r rheoliadau sy’n rheoli cyfrifo budd-dâl yn gymhleth iawn ac oherwydd hyn mae ar y Cyngor angen gwybodaeth fanwl ynghylch   person, ac amgylchiadau eu cartref, cyn y gellir gwneud cyfrif. Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys ar gyfer budd-dâl dylech   gwblhau ffurflen gais.

Beth ydi Ad-daliad Ail Oedolyn?

 Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Budd-dâl Treth y Cyngor, mae’n bosib y byddwch yn dal i allu cael help os ydi rhywun sy’n byw gyda  chi ar Ategiad Incwm, Lwfans Ceiswyr Swydd (wedi’i seilio ar Incwm) neu ag incwm isel. Ni ellwch fod yn gymwys os ydi’r person arall yn  talu rhent i chi, (ee lojwr) neu’n bartner i chi.


 Uchafswm yr ad-daliad ydi 25% o’ch bil Treth Cyngor. Bydd y ffigur yma’n gostwng os ydi incwm yr ail berson yn uwch na’r Lwfans   Ceiswyr Swydd sylfaenol.


 Gellwch ddal i hawlio ad-daliad ail oedolyn os oes mwy nag un person arall yn rhannu eich cartref.

Sut Wyf yn Hawlio Ad-daliad Ail Oedolyn?

 Byddwn yn edrych yn awtomatig i weld a ydych yn gymwys pan fyddwch yn gwneud cais am Fudd-dâl Treth y Cyngor. Os ydych yn   gymwys ar gyfer y ddau, dim ond un fydd yn cael ei dalu, ond fe wnawn ni gyfrif 'bargen orau' a dyfarnu’r budd-dâl a fydd yn gostwng eich  bil fwyaf.

Ceisiadau Ôl-ddyddiedig

 Fel arfer nid yw’n bosib ôl-ddyddio cais i cyn y dyddiad y derbyniwn gais. Gwnewch yn sir na fyddwch ar eich colled - gwnewch gais yn  syth!

Gostyngiadau pobl nad ydynt yn ddibynnol

 Fe all swm gael ei dynnu o’ch Budd-dâl Treth y Cyngor os oes gennych bobl dros 18 oed yn eich cartref. Cliciwch yma am restr o’r   gostyngiadau a all fod yn berthnasol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0