Boed yn dysgu ar gyfer eich mwynhad eich hun, yn mynychu cwrs, dilyn rhaglen astudiaeth ffurfiol neu anffurfiol, neu'n gwneud eich gwaith cartref, mae Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych yno i helpu. Nid yw'n costio unrhyw beth i ymuno, ac ni chodir tāl am fenthyca!
Mae 8 llyfrgell gyhoeddus yn Sir Ddinbych, o'r Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd i Gorwen a Llangollen yn y de, ac maent i gyd yn agored o leiaf un gyda'r nos yr wythnos tan 7pm, ac mae'r rhan fwyaf ar agor ar fore Sadwrn. I'r sawl na fedr fynd i'r 8 llyfrgell, mae Llyfrgell Gartref yn cyflwyno gwasanaeth unigol i ddarllenwyr sy'n gaeth i'w cartrefi.
Staff y llyfrgell
Mae staff y llyfrgell yn gyfeillgar a chymwynasgar, ac yn ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth o safon uchel, sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr mewn amgylchfyd cefnogol a diogel. Maent yn brofiadol mewn delio ag ystod eang o ymholiadau, a byddant yn eich helpu a'ch tywys i'r ffynonellau gwybodaeth priodol, a delio gyda’ch ymholiadau yn gwrtais ac effeithiol. Gall holl lyfrgelloedd ymateb i'ch ymholiadau naill ai yn Saesneg neu yn y Gymraeg.

