Achrediad
Mae achrediad yn broses lle mae rhaglen ddysgu neu hyfforddiant yn galluogi i bobl ennill tystysgrif a berchir yn genedlaethol, sy'n cydnabod eu llwyddiannau.
Rydym yn cynnig ystod eang iawn o gyfleoedd achredu ar gyfer dysgu a hyfforddiant gan gynnwys cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol megis:
- Gwobr Dug Caeredin
- Rhydwaith Colegau Agored
- Rhaglenni Gwobrau Llwyddiannau Ieuenctid
Rhaglenni'r sy'n cael eu haddasu i ddiwallu amrywiol anghenion pobl ifanc. Mae'r rhaglenni hyn yn cynnwys sesiynau dysgu traddodiadol, dysgu anffurfiol yn y gymuned, a sesiynau hwyliog ac ymarferol.
Amcan achredu yw datblygu perthnasau gwaith ieuenctid gyda phobol ifanc yn Sir Ddinbych ddysgu a llwyddo trwy gyfrwng sefyllaoedd anffurfiol. Y byriad yw...
- Hwyluso datblygiad personol pobl ifanc trwy gyfrwng cyfleoedd dysgu trwy brofiad sy'n unol â Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru.
- Galluogi i pobl ifanc chwarae rhan mewn ystod lawn o weithgareddau addysgol a digwyddiadau gan gynnwys projectau a gwaith seiliedig ar bynciau penodol.
- Annog pobl ifanc i drefnu gweithgareddau eu hunain, gan gymryd cyfrifoldeb a "meddiant" eu hunain.
- Ymyrryd mewn modd sy'n meithrin hunan-benderfynu, hunaniaeth bositif a hunan-barch.
- Galluogi i bobl ifanc gael llais, dylanwad a lle o fewn cymdeithas.
- Gweithio gyda darpariaethau ac asiantaethau lleol er mwyn:
- Ehangu cyfleoedd dysgu anffurfiol.
- Darparu cefnogaeth i unigolion a grwpiau.
- Datblygu gweithgareddau gwaith grŵp mewn sefyllfaoedd addysgol a chymunedol.


