| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Bywyd Cyhoeddus

1. SGÔP: Beth mae 'Parth Cyhoeddus' yn ei olygu?

Diffiniad daearyddol: Mae'r 'PARTH CYHOEDDUS' yn ymgorffori holl ardaloedd y mae gan y cyhoedd fynediad agored iddynt. Mae'r cyngor yn cymryd agwedd eang at yr hyn a gynhwysir. Er enghraifft, os yw darn o dir preifat yn difetha mwynderau gweledol ardal, byddai'r Cyngor yn ystyried bod hyn yn 'broblem parth cyhoeddus'.


Gwasanaethau a gynhwysir:  Mae gweithgareddau parth cyhoeddus yn cynnwys: torri gwair, garddwriaeth, glanhau strydoedd, cynnal a chadw cyfleusterau cyhoeddus, cynnal a chadw goleuadau stryd a gwaith cynnal a chadw arferol (adweithiol) i'r priffyrdd.

2. AMCANION: Beth rydym yn ceisio ei gyflawni?


Rydym yn ceisio gwella sut mae Sir Ddinbych yn 'edrych a theimlo' i ymwelwyr a thrigolion. Yn y bôn, rydym yn ceisio gwneud i bobl deimlo'n well ynglŷn â'r amgylchfyd.


Ceisiwn wneud hyn trwy wneud Sir Ddinbych yn lle glanach a thaclusach, a thrwy ddarparu mwynderau Parch Cyhoeddus megis mannau agored, meinciau, arddangosfeydd blodau ac ati.

 
Ail-bwysleisiwyd pwysigrwydd y maes gwasanaeth hwn yn yr hydref 2005 pan nododd aelodau gwaith parth cyhoeddus fel un o'u tri phrif flaenoriaeth.

3. DULLIAU:  Sut medrwn gyflawni ein hamcanion?

Byddwn yn ceisio blaenoriaethu gwaith mewn dull rhesymegol, gan ganolbwyntio ar beth sydd angen ei wneud.


Byddwn yn ceisio gweld pethau o safbwynt  cyhoedd. Mae hyn yn golygu adnabod a dileu mannau gwael (cyn belled â'i fod yn ymarferol). Mae mannau o'r fath yn ardal broblemus sy'n cael effaith anghymesur ar syniad y cyhoedd.


Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i nodau ac amcanion y gwasanaeth, fel bod pawb yn deall beth y medrent ei ddisgwyl yn rhesymol, a'r hyn sy'n bosibl i ni ei gyflwyno gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni.


Byddwn yn ceisio dylanwadu ar agweddau ac ymddygiad y cyhoedd trwy gyfrwng cymysgedd o addysg a gwaith gorfodi a dargedir.


Byddwn yn ceisio datblygu timau cyflwyno gwasanaeth effeithiol. Bydd y timau hyn yn datblygu syniad o berchnogaeth o'u hardaloedd ac yn ei 'gymryd yn bersonol' os byddant yn flêr.


4. PERFFORMIAD: Sut fyddwch yn gwybod ein bod yn gwneud job dda?

Maes GwasanaethBeth fedrwch ei ddisgwyl gennym ni
Glanhau strydoedd.

Sgubo'r strydoedd ar yr amlder a argymhellir.


Sgorio dros 90% graddfa lwyddiant ar ddangosydd 'strydoedd glân' y llywodraeth (a fesurir yn annibynnol yn Sir Ddinbych gan y Grŵp Cadw Cymru'n Daclus).

Darpariaeth meinciau/seddi.

Darpariaeth lle tybir bod angen.


Cynnal a thrwsio.

Gorfodi Sbwriel.Rhaglenni a dargedwyd mewn ardaloedd lle mae problemau.
Darparu biniau baw cŵn.Darpariaeth mewn ardaloedd ymwelwyr yn unig. Ni fydd darpariaeth ar stadau trefol.
Gorfodi yn erbyn baw cŵn.Gorfodaeth a dargedwyd mewn ardaloedd problem.
Darparu cyfleusterau cyhoeddus.Cyfleusterau glân a ellir eu defnyddio, ar agor ar adegau rhesymol.
Darparu gwelyau blodau ac arddangosfeydd eraill.

Arddangosfeydd blodau yng nghanol trefi a mannau gyda niferoedd mawrion o ymwelwyr.


Arddangosfeydd blodau mewn parciau cyhoeddus.

Torri gwaith mwynderau gweledol.Torri'n aml mewn ardaloedd trefol i gadw'r gwair yn eithaf taclus. Cadw llwybrau'n rhydd rhag toriadau gwair (ond nid casglu o'r mannau a dorrwyd).
Torri gwair diogelwch ffordd.Torri'n llai aml ar ffyrdd gwledig – cedwir y gwair yn fyr dim ond er mwyn rhoi gwelededd digonol i ddefnyddwyr ffordd.
Darpariaeth biniau sbwriel.

Darpariaeth mewn mannau lle mae gollwng sbwriel yn gyffredin, fel Stryd Fawr.


Gosod biniau newydd yn lle rhai sydd wedi gwisgo neu wedi eu difrodi.

5. CYNLLUN GWEITHREDU: Beth fyddwn yn canolbwyntio arno nesaf?

Y meysydd gwasanaeth lle byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion fydd:

Dileu ffiniau daearyddol:  mae hyn yn golygu delio â phroblemau amgylcheddol ar dir y tu allan i reolaeth uniongyrchol y cyngor.

Cael y cydbwysedd yn iawn rhwng bod yn rhagweithiol ac adweithiol: mae'r cyhoedd yn hoffi i ni ymateb yn gyflym pan fydd problem. Fodd bynnag, os ydym yn canolbwyntio'n llwyr ar waith adweithiol, rydym yn debygol o fethu oherwydd mae fel rheol yn fwy cost-effeithiol i rwystro llanast rhag datblygu yn y lle cyntaf na'i lanhau wedyn.

Gorfodi: bydd pwyslais newydd ar orfodi pan fydd yr holl bwerau Cymdogaethau Glân newydd mewn grym (yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor).

Medrwch helpu, trwy:

  • Fynd â'ch sbwriel gartref gyda chi.
  • Mynd â baw eich ci gartref.
  • Adrodd am oleuadau stryd diffygiol.

Reportio pobl sy'n gollwng sbwriel ac eraill sy'n camddefnyddio'r ardal yma.

Y rhif cyswllt ar gyfer problemau baw cwn yw 01824 7060444.

Y rhif cyswllt ar gyfer holl broblemau amgylcheddol eraill yw 01824 706100.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych