| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Labiau Digidol

Labiau Digidol

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddefnyddio’u labiau digidol 4 Credu mewn Canolfannau Ieuenctid ledled Sir Ddinbych;

• Canolfan Ieuenctid Rhuthun
• Canolfan Ieuenctid Y Rhyl
• Canolfan Ieuenctid Prestatyn
• Canolfan Ieuenctid Llangollen

Rydym yn rhoi cyfle i bobl ifanc:

• Ddatblygu eu sgiliau TGCh ymhellach.
• Defnyddio camerâu fideo a digidol.
• Defnyddio offer TGCh ar gyfer gwaith ysgol neu goleg.
• Rhoi mynediad i bobl ifanc i’r rhyngrwyd i dderbyn cefnogaeth a chyfarwyddyd

Rydym hefyd yn cynnig gweithdai ar:

• Sgiliau camera a fideo.
• Gwaith project.
• Dweud stori ddigidol.
• Cefnogaeth gyda chwilio am wybodaeth ar y rhyngrwyd.

Amcanion y Labiau Digidol

• Codi dyheadau pobl ifanc i gynydd eu sgiliau TGCh a chynhyrchu gwaith digidol y tu allan i’r ysgol a ledled y gymuned.
• Gwella ansawdd gwasanaethau i bobl ifanc trwy ymestyn y cyfleoedd i gyflwyno gwybodaeth, hyfforddiant a darpariaeth cynnwys.
• Cynyddu’r cyfle i greu addysg ieuenctid gynaliadwy yn y gymuned a datblygu sgiliau.
• Sgiliau sylfaenol sy’n agor y drws i fywyd llawn a hybu cynhwysiant cymdeithasol.
• Dathlu llwyddiannau pobl ifanc.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0