| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Eich Iechyd

Eich Iechyd

Iechyd

Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych Weithiwr Maethiad ac Iechyd penodol sy'n cefnogi pobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd positif yn ymwneud â maethiad ac iechyd. Hefyd, mae gweithwyr Iechyd Pobl Ifanc yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd Pobl Ifanc mewn Canolfannau Ieuenctid Iedled y Sir.

Mae'r gwasanaeth a gynigir gennym yn annog holl bobl ifanc o bob grŵp cymdeithasol a diwylliannol, 11-25 oed, i chwarae rhan, ac yn enwedig y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a lle mae'r anghydraddoldeb mewn iechyd y gwaethaf. 

Beth ydym yn ei wneud? 

Prif ffocws y gwaith yw datblygu a chyflwyno rhaglenni sy'n cynnig cefnogaeth a gwella iechyd a lles pobl ifanc a gwella gallu pobl ifanc i fyw'n annibynnol trwy gyfrwng.

  • Rhaglenni achrededig ar iechyd a redir gan gyfoedion.
  • Rhaglen Sgiliau Byw Annibynnol.
  • Cynllun Rhandir Gerddi lle mae pobl ifanc yn dysgu sut i dyfu llysiau organig a dysgu am faterion amgylcheddol megis prynu'n lleol, gobaleiddio a hynaladwyedd.
  • Clybiau cinio.
  • Rhaglen Her Iechyd pobl ifanc.
  • Galluogi i bobl ifanc gael llais ar faterion iechyd.
  • Darparu ffrwythau mewn Clybiau Ieuenctid/Projectau a dargedir.
  • Gweithdai iechyd yn y gymuned.
  • Gwasanaeth Iechyd Pobl Ifanc.
  • Hybu bywyd iach.
  • Ymchwilio mewn i materion gyffuriau, alcohol a ysmygu.
  • Prosiectau "Baby Think It Over"
  • Meithrin cysylltiadau gyda phrojectau eraill sy'n delio ag achosion salwch a darparu agwedd holistig i bobl ifanc.
  • Gwaith ar y cyd gydag ysgolion, Clwb Pêl Droed Y Rhyl, Project Ieuenctid Dinbych, Project Pobl Ifanc Gorllewin Y Rhyl.
Ble?
  • Canolfannau Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych a phrojectau a gefnogir.
  • Gwasanaeth Iechyd Pobl Ifanc Dinbych, Lôn Ganol, Dinbych.
  • Gwasanaeth Iechyd Pobl Ifanc Rhuthun, Clwb Ieuenctid Rhuthun, Ffordd Dinbych, Rhuthun. 
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0